Prentisiaethau – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Prentisiaethau

Adroddiad sector 2024 - 2025



Data Darparwyr

10

Mae deg darparwr hyfforddiant yn gontractwyr sydd wedi eu comisiynu i ddarparu prentisiaethau.

Mae chwech o’r contractau yn cael eu darparu gan golegau addysg bellach, a phedwar gan ddarparwyr hyfforddiant annibynnol. Mae’r 10 darparwr hyn yn gweithio gydag ystod o ddarparwyr hyfforddiant eraill gan ddefnyddio trefniadau partneriaeth ac is-gontractio i ddarparu hyfforddiant ar gyfer rhaglenni ar lefelau prentisiaeth sylfaen, prentisiaeth a phrentisiaeth uwch.


Data Dysgwyr

47,855

Nifer y dysgwyr prentisiaeth 2023-2024

46,610

Nifer y dysgwyr prentisiaeth 2022-2023

39,370

Nifer y dysgwyr prentisiaeth 2021-2022

16,475

Nifer y dysgwyr prentisiaeth sylfaen 2023-2024

17,480

Nifer y dysgwyr prentisiaeth sylfaen 2022-2023

15,635

Nifer y dysgwyr prentisiaeth sylfaen 2021-2022

22,020

Nifer y dysgwyr prentisiaeth lefel 3 2023-2024

20,070

Nifer y dysgwyr prentisiaeth lefel 3 2022-2023

16,395

Nifer y dysgwyr prentisiaeth lefel 3 2021-2022

9,360

Nifer y dysgwyr prentisiaeth uwch 2023-2024

9,060

Nifer y dysgwyr prentisiaeth uwch 2022-2023

7,340

Nifer y dysgwyr prentisiaeth uwch 2021-2022


Data Gweithgarwch Dilynol

Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol: 1

Gweithgarwch arolygu

Nifer yr arolygiadau craidd: 3


Crynodeb

Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn yn eu rhaglenni prentisiaeth, gan ddatblygu medrau ymarferol a damcaniaethol gwerthfawr. Roeddent yn aml yn cymryd perchnogaeth o’u dysgu, er bod lleiafrif ohonynt yn dibynnu’n ormodol ar aseswyr. Roedd yr addysgu a’r dysgu wedi’u cynllunio’n dda, ar y cyfan, gyda dulliau amrywiol a difyr, er nad oedd rhai sesiynau’n ymestyn ac yn herio’n ddigonol. Yn gyffredinol, roedd dysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol (ACY) yn cael eu cefnogi’n dda gan diwtoriaid, aseswyr a staff arbenigol, a oedd yn elwa ar ddysgu proffesiynol clir. Roedd gofal bugeiliol yn dda, ac mae dysgwyr yn manteisio ar ystod eang o wasanaethau cymorth. Roedd arweinyddiaeth yn effeithiol, gyda chyfeiriad strategol a chynllunio gwelliant clir. Roedd darparwyr yn gweithio’n dda gyda chyflogwyr a phartneriaid, er bod ymglymiad cyflogwyr yn y broses ddysgu yn rhy anghyson.

Y tri arolygiad craidd a gynhaliwyd yn ystod 2024-2025 oedd yr arolygiadau terfynol o dan y cylch presennol, ac mae pob un o’r deg prif ddarparwr prentisiaethau arweiniol wedi cael eu harolygu. Mae un darparwr a osodwyd mewn categori gweithgarwch dilynol yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024 wedi gwneud cynnydd yn erbyn ei argymhellion, ond yn parhau i fod mewn categori gweithgarwch dilynol yn sgil ei ymweliad cynnydd diwethaf ym mis Gorffennaf 2025.



Addysgu a dysgu

Yn y tri darparwr a arolygwyd, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn, o leiaf, yn eu rhaglenni prentisiaeth. Roedd llawer ohonynt yn datblygu ystod eang o fedrau ymarferol a damcaniaethol perthnasol yr oeddent yn eu cymhwyso’n effeithiol yn eu gweithleoedd. O ganlyniad, roedd cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r effaith gadarnhaol a’r cynhyrchiant yr oedd eu dysgwyr yn eu hychwanegu at eu sefydliadau. Yn aml, roedd dysgwyr lefel uwch yn cymryd perchnogaeth o’u cynnydd trwy drafod targedau asesu a myfyrio ar eu dysgu. Roedd ychydig o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cyflym ac yn ymgymryd â chyfrifoldebau cynyddol yn eu rolau. Fodd bynnag, roedd lleiafrif ohonynt yn parhau i ddibynnu’n ormodol ar aseswyr i arwain eu cynnydd.

Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cyfathrebu’n hyderus gan ddefnyddio terminoleg briodol ac yn cydweithio’n dda â thiwtoriaid, cyfoedion a chyflogwyr. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd dysgwyr yn mynd ati i gymryd rhan mewn trafodaethau ac yn cymhwyso dysgu blaenorol i dasgau newydd a chymhleth. Er enghraifft, roedd dysgwyr peirianneg yn defnyddio technegau datrys problemau i fynd i’r afael â senarios gweithle, tra roedd dysgwyr gofal plant yn esbonio gweithdrefnau diogelu yn glir a hyderus. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn dangos ymddygiadau proffesiynol ac yn ymgysylltu’n dda mewn hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith a dysgu yn y gweithle.

Roedd addysgu ac asesu yn cael eu cynllunio a’u strwythuro’n dda, ar y cyfan. Roedd y rhan fwyaf o aseswyr a thiwtoriaid yn cyflwyno sesiynau difyr a oedd yn cysylltu theori ag arfer. Roedd llawer ohonynt yn defnyddio dulliau amrywiol, fel dadansoddi fideos, efelychiadau ac offer cydweithio digidol, i gynnal diddordeb a dyfnhau dealltwriaeth. Roedd staff cyflwyno yn aml yn manteisio ar eu harbenigedd galwedigaethol i roi dysgu yn ei gyd-destun a hyrwyddo perthnasedd. Er enghraifft, roedd aseswyr mewn adeiladu yn modelu asesu risg a gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn effeithiol i gyd-fynd â safonau gweithle.

Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn derbyn adborth adeiladol a oedd yn eu helpu i wella. Yn yr achosion gorau, roedd aseswyr yn cofnodi adborth manwl a oedd yn cefnogi myfyrio ac yn gosod camau nesaf clir. Roedd y rhan fwyaf o diwtoriaid ac aseswyr yn defnyddio holi yn effeithiol i wirio dealltwriaeth ac annog meddwl dyfnach, er enghraifft yn Associated Community Training (ACT Ltd). Fodd bynnag, mewn ychydig o sesiynau, roedd diffyg her yn yr holi, ac roedd y cyflwyno yn cael ei arwain yn ormodol gan y tiwtor, gan gyfyngu ar gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu medrau meddwl lefel uwch. Er bod targedau tymor byr yn aml wedi’u diffinio’n dda, roedd cynllunio tymor canolig i’r tymor hwy yn llai cyson mewn ychydig o achosion. O ganlyniad, nid oedd pob un o’r dysgwyr yn gwneud y cynnydd y gallent tuag at gwblhau eu rhaglenni.

Roedd dysgwyr ar draws pob darparwr yn datblygu eu medrau digidol yn dda. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn defnyddio e-bortffolios ac offer digidol i olrhain cynnydd, cyflwyno gwaith ac ymgysylltu’n briodol ag adnoddau. Mewn lleoliadau gweithle, roedd llawer ohonynt yn defnyddio meddalwedd arbenigol i gwblhau tasgau fel cyfrifiadau peirianneg neu ddadansoddeg marchnata. Roedd datblygu llythrennedd a rhifedd yn cael ei integreiddio’n effeithiol mewn dysgu galwedigaethol, ar y cyfan. Er enghraifft, roedd dysgwyr pobi ac adeiladu yn defnyddio fformatau yn benodol i swydd i ymarfer cymarebau, mesur ac ysgrifennu adroddiadau. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig o safon gadarn, ond roedd ychydig ohonynt yn parhau i wneud camgymeriadau sylfaenol, er iddynt gael adborth yn mynd i’r afael â’r gwallau hyn.

Roedd dysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol yn gwneud cynnydd cadarn o’u mannau cychwyn unigol. Roedd aseswyr a thiwtoriaid yn addasu tasgau yn addas ac yn defnyddio ystod o arferion cynhwysol i sicrhau cyfranogiad. Roeddent yn darparu cymorth personoledig, amser ychwanegol, asesiadau ar lafar a thechnoleg gynorthwyol. Roedd dysgwyr yn ymateb yn dda i’r dulliau hyn ac yn magu hyder yn eu dysgu.

Roedd defnydd o’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo’n briodol ar draws pob un o’r tri darparwr. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cwblhau modiwlau rhagarweiniol ar-lein, ac roedd ychydig o siaradwyr Cymraeg rhugl yn dilyn agweddau ar eu rhaglen yn Gymraeg. Pan roedd aseswyr yn defnyddio’r Gymraeg wrth gyflwyno a rhannu adborth, roedd dysgwyr yn ymateb yn gadarnhaol. Fodd bynnag, roedd nifer y dysgwyr sy’n cwblhau asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg yn parhau’n isel.

Roedd cynllunio darpariaeth yn ymatebol i anghenion dysgwyr a chyflogwyr, gyda chysylltiadau cryf â blaenoriaethau rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. Roedd darparwyr yn cyflwyno ystod eang o raglenni ar draws sectorau, yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, TGCh, adeiladu a thechnolegau gwyrdd datblygol. Roedd llawer o ddysgwyr yn gwella’u medrau trwy weithgareddau cyfoethogi, cystadlaethau cymwysterau a medrau bach. Er bod ymgysylltiad cyflogwyr â chynllunio rhaglenni yn gryf, ar y cyfan, roedd eu hymglymiad mewn adolygiadau cynnydd yn llai cyson, gan leihau cyfleoedd ar gyfer datblygiad cydweithredol mewn ychydig o achosion.

At ei gilydd, bu gwelliant mewn cyfraddau cwblhau fframweithiau ar gyfer yr holl brentisiaethau yn ystod 2024-2025, a chododd yn gyson dros y tair blynedd ers pandemig COVID-19. Prentisiaethau sylfaen oedd yn dangos y gwelliant cryfaf, tra roedd gwelliant mewn prentisiaethau, hefyd. Fodd bynnag, dangosodd prentisiaethau uwch welliant bach iawn ar draws y cyfnod tair blynedd.

Fe wnaeth dysgwyr berfformio’n gyson dda mewn peirianneg a thechnolegau gweithgynhyrchu, ac mae lefelau cyrhaeddiad uwchlaw lefelau cyn y pandemig, erbyn hyn. Fe wnaeth dysgwyr gwallt a harddwch ac addysg a hyfforddiant berfformio’n dda ar draws y cylch, hefyd. Roedd perfformiad yn llai cryf mewn adeiladu, yn enwedig ar lefel prentisiaeth, ac amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofal anifeiliaid. Mae’r sectorau iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal a lletygarwch wedi bod ymhlith y rhai arafaf i adfer ers y pandemig, ond fe wnaethant ddangos gwelliant yn 2024-2025 ar lefel sylfaen a phrentisiaeth. Fodd bynnag, mae prentisiaethau uwch yn parhau i fod yn wan yn y sectorau hyn. Cwblhaodd tua hanner y dysgwyr yn y darparwyr a arolygwyd yn ystod 2024-2025 eu fframweithiau yn hwyrach na’r disgwyl.


Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd bron pob un o’r dysgwyr yn elwa ar gymorth bugeiliol a phersonol cryf a oedd yn eu helpu i setlo yn eu rhaglenni a gwneud cynnydd cadarn. Roedd prosesau ymsefydlu yn gynhwysfawr ac wedi’u strwythuro’n dda, gan ddarparu arweiniad clir ar ofynion prentisiaethau, gwasanaethau cymorth oedd ar gael, a gweithdrefnau diogelu. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn deall gwerth eu rhaglenni a’r modd yr oeddent yn cyfrannu at eu datblygiad personol a’u datblygiad gyrfa.

Roedd aseswyr a thiwtoriaid yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol, ymddiriedus â dysgwyr ac yn gwirio eu lles yn rheolaidd. Mewn llawer o achosion, roedd y perthnasoedd hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu hyder a gwydnwch, ac roedd sawl dysgwr yn crybwyll pwysigrwydd cymorth hyblyg wrth oresgyn heriau personol a phroffesiynol. Roedd llawer o aseswyr yn addasu dulliau cyflwyno ac asesu i ddiwallu anghenion a dewisiadau unigol. Er enghraifft, roedd aseswyr yn defnyddio trafodaethau ar lafar yn hytrach nag asesiadau ysgrifenedig, yn addasu fformatau sesiynau, neu’n ymestyn terfynau amser i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol neu amgylchiadau personol cymhleth.

Roedd gan bob un o’r tri darparwr systemau cadarn ar waith i nodi a chynorthwyo dysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol. Roedd dysgwyr yn elwa ar atgyfeiriadau amserol, asesiadau diagnostig, ac addasiadau teilwredig, fel mynediad at dechnoleg gynorthwyol, offer darllen, neu drefniadau arholi. Darllenwch am y modd y mae Coleg Cambria yn Wrecsam yn cynorthwyo dysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol. Roedd staff yn cael dysgu proffesiynol rheolaidd i wella’u hyder i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion amrywiol, ac mewn rhai achosion, roedd yr hyfforddiant hwn yn cael ei gynnig i gyflogwyr, hefyd. Roedd darparwyr yn gwneud defnydd da o systemau olrhain i fonitro ymyriadau, rhannu strategaethau ar draws timau a sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu cymhwyso’n gyson.

Dywedodd y rhan fwyaf o ddysgwyr eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd rhag aflonyddu yn ystod eu prentisiaeth. Roedd darparwyr yn cynnal polisïau a gweithdrefnau priodol ar gyfer diogelu a recriwtio diogel, gyda monitro canolog o ran cydymffurfio â hyfforddiant a gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Roedd arweinwyr diogelu dynodedig yn cael hyfforddiant lefel uwch ac yn gweithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr allanol i adolygu a gwella prosesau diogelu. Pan roedd angen, roedd atgyfeiriadau’n cael eu holrhain, eu hadolygu a’u defnyddio i lywio diweddariadau polisi a hyfforddiant staff. Roedd pob darparwr wedi cyflwyno mentrau i wella ymwybyddiaeth dysgwyr o radicaleiddio ac eithafiaeth, er nad oedd pob dysgwr yn datblygu ei ddealltwriaeth barhaus o’r materion hyn yn ddigon da.

Roedd dysgwyr yn gallu manteisio ar ystod eang o adnoddau lles, yn cynnwys cwnsela, cymorth iechyd meddwl, cymorth ariannol, ac opsiynau dysgu hyblyg. Er enghraifft, roedd dysgwyr yn elwa ar gronfeydd caledi i gefnogi cynhwysiant digidol neu’n derbyn cymorth bugeiliol personoledig trwy blatfformau ar-lein sydd ar gael am 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos. Roedd ffocws cryf ar iechyd meddwl a chydraddoldeb yn amlwg ar draws pob un o’r tri darparwr, wedi’i gefnogi gan ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, fforymau dysgwyr, a digwyddiadau dysgu proffesiynol.

Roedd darparwyr yn casglu adborth gan ddysgwyr trwy arolygon a grwpiau ffocws ac yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i fireinio gwasanaethau cymorth. O ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi’n dda trwy gydol eu rhaglen, yn deall sut i gael cymorth, ac yn hyderus ynghylch codi pryderon, pan roedd angen.


Arwain a gwella

Ar draws y tri darparwr a arolygwyd, roedd arweinyddiaeth a rheolaeth darpariaeth prentisiaethau yn gryf, ac roedd cyfeiriad strategol clir, diwylliant cydweithredol, a ffocws cynaledig ar wella ansawdd yn sail i hyn. Roedd uwch arweinwyr yn goruchwylio darpariaeth yn bwrpasol, wedi’i ategu gan weledigaethau a gwerthoedd wedi’u mynegi’n dda a oedd yn blaenoriaethu deilliannau dysgwyr, datblygiad staff ac ymatebolrwydd y sector.

Roedd pob un o’r tri darparwr yn dangos strwythurau llywodraethu effeithiol. Yn y model consortiwm, roedd partneriaid yn rhannu ethos cryf o ddidwylledd, atebolrwydd ar y ddwy ochr a gwelliant ar y cyd. Darllenwch fwy yn Adroddiad arolygiad B-WBL. Roedd rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir ar bob lefel. Roedd cyfarfodydd rheolaidd a sianelau cyfathrebu yn sicrhau bod partneriaid yn parhau i gael gwybod am flaenoriaethau, risgiau a gofynion contract. Roedd amcanion strategol yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac anghenion medrau rhanbarthol, ac roedd darparwyr yn ymgysylltu’n adeiladol â phartneriaethau rhanbarthol, fforymau cyflogwyr a rhwydweithiau diwydiant.

Roedd prosesau hunanasesu a chynllunio gwelliant wedi hen ennill eu plwyf ar draws y darparwyr ac yn cael eu llywio yn gyffredinol gan ystod eang o ddata perfformiad, adborth gan ddysgwyr ac ymgysylltiad rhanddeiliaid. Roedd systemau sicrhau ansawdd yn gadarn ac yn cynnwys arsylwadau, archwiliadau ac adolygiadau data rheolaidd. Yn yr achosion gorau, roedd darparwyr yn defnyddio dangosyddion perfformiad yn graff i nodi tanberfformio a sbarduno ymyriadau amserol, a oedd wedi arwain at welliannau yn neilliannau dysgwyr. Fodd bynnag, nid oedd pob darparwr yn canolbwyntio digon ar ddadansoddi a thargedu gwelliant mewn cyfraddau cwblhau.

Roedd darparwyr yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr, yn cynnwys mentrau bach i ganolig, a sefydliadau cenedlaethol mwy. Er bod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn cefnogi prentisiaid yn dda, roedd ymglymiad cyflogwyr mewn adolygiadau cynnydd dysgwyr yn parhau i fod yn gyfyngedig ym mhob un o’r tri darparwr, ac mewn ychydig o achosion, yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn bennaf, nid oedd dysgwyr yn gallu mynychu hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith yn ystod oriau gwaith. Serch hynny, roedd darparwyr yn parhau i feithrin partneriaethau cynhyrchiol â chyflogwyr, yn cynnwys mewn sectorau datblygol fel diwydiannau gwyrdd, gwasanaethau ariannol ac iechyd clinigol.

Roedd pob un o’r tri darparwr yn dangos ymrwymiad cryf i ddysgu proffesiynol. Roedd staff ar bob lefel yn cymryd rhan mewn hyfforddiant rheolaidd a oedd yn orfodol (e.e. diogelu, Atal) ac yn ddatblygiadol (e.e. medrau hanfodol, technegau holi, cyflwyno digidol). Yn aml, roedd dysgu proffesiynol yn cael ei deilwra i’r cyd-destun yn y gwaith, ac yn achos y consortiwm, yn ymestyn i gynnwys adolygiadau cymheiriaid, cynadleddau â thema a gweithdai ar draws partneriaid. Rhoddwyd pwyslais cynyddol ar wella medrau staff i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion cymorth ychwanegol yn well, ac ymgorffori’r Gymraeg a’i diwylliant ar draws rhaglenni. Roedd Coleg Cambria, er enghraifft, yn datblygu strategaethau i ymgorffori’r Gymraeg a’i diwylliant yn llawn yn eu darpariaeth prentisiaethau. Roedd y buddsoddiad hwn yn cefnogi cymhelliant staff, cyfraddau cadw, a gwelliant parhaus mewn arfer addysgu.


Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Roedd tri arolygiad yn y sector Prentisiaethau.

Rhoddwyd argymhelliad yn ymwneud ag addysgu a dysgu i dri darparwr, yn canolbwyntio ar gwblhau o fewn dyddiad gorffen disgwyliedig, gwella cyfraddau cyrhaeddiad ar gyfer meysydd pwnc sy’n tanberfformio, cryfhau lefel yr her a gosod targedau i sicrhau bod pob un o’r dysgwyr yn gwneud y cynnydd y gallent.

Rhoddwyd argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad i un darparwr: i sicrhau bod pob un o’r dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o eithafiaeth a radicaleiddio.

Rhoddwyd argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella i un darparwr: i sicrhau bod cyflogwyr yn darparu’r cymorth angenrheidiol ar gyfer eu prentisiaid, yn cynnwys neilltuo amser i fynychu gweithgareddau i ffwrdd o’r gwaith, a chymryd rhan weithredol mewn cynllunio ac adolygu cynnydd dysgwyr.


Gweithgarwch dilynol

Rhoddwyd un darparwr prentisiaethau mewn categori gweithgarwch dilynol (adolygu gan Estyn).