Rhagair
Fel Prif Arolygydd, mae’n fraint i mi gyfarfod â gweithwyr proffesiynol addysg a hyfforddiant bob wythnos, gan weld yr angerdd a’r profiad maent yn eu cynnig er mwyn sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn cyflawni eu potensial. Yr hyn a welaf wrth i mi ysgrifennu fy rhagair i’r adroddiad eleni yw cenedl sy’n gallu dangos arfer sydd ymhlith y gorau. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn gweld system sydd wedi’i dal yn ôl gan anghysondeb, blaenoriaethau cymysg ac, ar adegau, diffyg addysgu a dysgu o ansawdd da sydd wedi’u llywio gan arweinyddiaeth gref. Gwelaf orffennol a nodweddir gan rai materion sylfaenol sy’n rhwystro cynnydd, ond hefyd ddyfodol â’r potensial i oresgyn y rhain.
Bydd archwilio cynnwys yr adroddiad hwn yn datgelu llawer o gryfderau, ond bydd hefyd yn tanlinellu thema sy’n codi dro ar ôl tro, sef: at ei gilydd, nid yw’r system wedi gweithio’n ddigon cydlynol i sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn gyson. Nid yw addysg gychwynnol athrawon wedi gallu sicrhau bod gennym ddigon o staff â’r medrau a’r arbenigeddau cywir. Ceir ddarpariaethcymysg iawn o ran dysgu proffesiynol i athrawon, gyda gwendidau sylweddol yn natblygiad rhai o hanfodion addysg, fel darllen, mathemateg a medrau digidol. Rydym yn cydnabod y pwysau y mae darparwyr yn eu hwynebu wrth fodloni a chefnogi’r rhai sydd ag anghenion amrywiol. Fodd bynnag, mae nifer y bobl ifanc sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol neu addysg ddewisol yn y cartref yn cynyddu (Llywodraeth Cymru, 2025).
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae rhesymau dros fod yn optimistaidd. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cyfnod sylweddol o ddiwygio, sef Cwricwlwm i Gymru, datblygu’r Rhaglen Gwella Ysgolion (RhGY) newydd, creu Adnodd1 Mae Adnodd yn gorff hyd braich Llywodraeth Cymru sy’n goruchwylio ac yn cydlynu’r gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn y Gymraeg a’r Saesneg i gefnogi addysgu a dysgu Cwricwlwm i Gymru. a Dysgu2 Dysgu yw’r corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth i ysgolion a lleoliadau a gynhelir yng Nghymru. ac wrth gwrs Medr3 Medr, sef Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, yw’r corff hyd braich sy’n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, chweched dosbarthiadau mewn ysgolion, dysgu oedolion yn y gymuned ac ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth.. Os daw’r RhGY newydd ag awdurdodau lleol, Dysgu ac Adnodd ynghyd mewn rhaglen sydd wedi’i chydlynu’n dda ac sydd â nodau clir ac sydd wedi’i chydlynu’n effeithiol bydd ei heffaith yn amlwg. Fe welwn ni hynny lle mae’n cyfrif fwyaf, sef yn ein hystafelloedd dosbarth, ar gyfer ein dysgwyr. Yn yr un modd, os bydd Medr yn cynnal ac yn cyflawni ei huchelgeisiau ac os gallwn godi disgwyliadau ein dysgwyr, gallwn weld twf yn nifer y dysgwyr sy’n symud ymlaen i lefel 2, 3 a thu hwnt, mewn llwybrau cyffredinol a galwedigaethol fel ei gilydd, a byddwn hefyd yn gweld gweithlu a chymdeithas fwy ymgysylltiedig a medrus.
Mae Estyn wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dylanwad ar draws y system a wasanaethwn yn parhau i fod yn drylwyr, yn adeiladol ac yn deg. Bu adborth ar ein Hymweliadau Interim newydd mewn ysgolion ac UCDau yn gadarnhaol dros ben, gan amlygu eu gwerth fel arf i gefnogi gwelliant. Rydym yn parhau â’r dull hwn ochr yn ochr â’n gwaith arolygu craidd.
Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn bwriadu adeiladu ar y sylfaen hon trwy ganolbwyntio ar ychydig o feysydd allweddol. Y cyntaf yw pwyslais newydd ar ddarllen. Rydym wedi cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet i roi blaenoriaeth i ddarllen ac rydym bellach yn cydweithio â phob sector i rannu arfer orau, codi’r disgwyliadau sydd gennym ar y cyd a chefnogi’r RhGY, Dysgu a Medr â’r uchelgais hon. Mae darllen yn sylfaen hanfodol ar gyfer addysg a chyflogaeth, perthnasoedd, dealltwriaeth a chreadigrwydd, felly teimlafei bod hi’n briodol dechrau yma. Byddwn yn dechrau rhaglen tair blynedd o ffocws uwch ar ddarllen ar draws ein holl weithgareddau o fis Medi 2026 ymlaen.
Y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i edrych ar ddatblygu deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol mewn addysg. Gan adeiladu ar yr adroddiad thematig y llynedd ar gyfer ysgolion ac UCDau, byddwn yn parhau i rannu arfer effeithiol ac arbenigedd â’n sectorau wrth iddynt ddatblygu eu rhyngweithio â’r dechnoleg. Fel gyda phopeth, rhaid i ddeallusrwydd artiffisial fod â phwrpas clir ar gyfer ei gyflwyno, a byddwn yn cefnogi gwell dealltwriaeth o sut i ddiogelu, datblygu’n briodol a gwerthuso effaith technolegau o’r fath.
Gan droi at ein hadroddiad blynyddol ei hun, hoffwn ddiolch i bob lleoliad, ysgol, coleg a darparwr hyfforddiant a’n croesawodd eleni. Mae ymroddiad staff a lleisiau dysgwyr yn parhau i fod ymhlith nodweddion mwyaf trawiadol ein hymweliadau. Er gwaethaf pwysau sylweddol, mae’r ymrwymiad i addysg o ansawdd uchel yn amlwg.
Llythrennedd wrth wraidd dysgu
Mae llythrennedd yn parhau i fod yn sylfaen ar gyfer cynnydd ehangach. Gwelom gryfderau amlwg lle’r oedd ysgolion yn ymgorffori dulliau pwrpasol a systematig tuag at ddarllen, ysgrifennu a llafaredd ar draws y cwricwlwm. Roedd nifer fach o ysgolion yn meithrin diwylliant gwirioneddol o ddarllen, gan alluogi disgyblion i ymgysylltu’n feirniadol â thestunau a throsglwyddo medrau ar draws pynciau. Serch hynny, mewn gormod o achosion, roedd darpariaeth yn symbolaidd. Nid oedd gweithgareddau’n cyd-fynd yn dda â dilyniant, gan gyfyngu ar allu disgyblion i ddatblygu uwch fedrau darllen neu ysgrifennu’n fanwl gywir.Roedd llafar yn parhau i fod heb ei ddatblygu’n ddigonol. Heb ffocws llythrennedd mwy miniog a chyson ar lythrennedd, bydd dysgwyr yn parhau i fethu cyrraedd eu potensial.
Canologrwydd addysgu
Mae ansawdd addysgu yn parhau i fod yn un o’r ffactorau pwysicaf wrth lunio deilliannau dysgwyr. Mewn lleiafrif o ysgolion, gwelom wersi uchelgeisiol, wedi’u strwythuro’n dda a oedd yn ymestyn pob disgybl. Roedd gan athrawon yn yr ystafelloedd dosbarth hyn ddisgwyliadau uchel a gwybodaeth bynciol gref, ac roeddent yn defnyddio asesu yn ddeallus. Lle gwelom wendidau yn nysgu disgyblion, roedd disgwyliadau’n rhy isel, roedd y gwersi’n araf ac roedd yr adborth yn anghyson. Mewn ysgolion, er bod llawer o athrawon yn addasu’r cwricwlwm yn feddylgar, mae bron i draean yn gwneud cynnydd arafach wrth ddarparu profiadau dysgu cydlynol a blaengar. Os na fydd addysgu’n gwella o ran ei dyfnder a chysondeb yr ansawdd, ni fydd Cymru’n cyflawni’r enillion y mae’n eu ceisio trwy Gwricwlwm i Gymru.
Arweinyddiaeth a hunanwerthuso
Mae arweinyddiaeth yn cael dylanwad pendant ar addysgu a dysgu. Lle mae ar ei chryfaf, mae arweinwyr yn pennu gweledigaeth glir, yn sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac yn monitro effaith yn drylwyr. Fodd bynnag, yn rhy aml, mae hunanwerthuso’n arwynebol, wedi’i lywio gan gydymffurfiaeth ac nid yw’n canolbwyntio’n ddigonol ar gynnydd dysgwyr. Mae hunanwerthuso gwan yn tanseilio cynllunio ar gyfer gwelliant, gan arwain at flaenoriaethau amwys ac atebolrwydd cyfyngedig. Mae hyn yn parhau i fod yn bryder ar draws y system gyfan. Yn benodol, mae amrywiad sylweddol yn effeithiolrwydd arweinwyr canol a llywodraethwyr, yn ogystal ag yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gwerthuso ac yn cefnogi gwelliant. Er bod ychydig o awdurdodau’n defnyddio hunanwerthuso yn bwrpasol i lywio gwelliant ar draws ysgolion a gwasanaethau, nid yw’r rhan fwyaf ohonynt wedi cymhwyso gwerthuso yn effeithiol hyd yn hyn. Oni bai bod hunanwerthuso’n cael ei hogi’n sylweddol ar bob lefel, bydd diwygiadau eraill yn cael eu gwanhau.
Canfyddiadau o’n gwerthusiadau trawsbynciol
Ochr yn ochr â gwaith arolygu craidd, eleni fe ganolbwyntiom ar:
- lythrennedd a’i effaith ar ddarllen, ysgrifennu a llafaredd
- cynllunio i ddatblygu medrau rhifedd disgyblion
- cefnogi disgyblion i ddod yn feddylwyr annibynnol
- dylanwad arweinyddiaeth ar addysgu
- datblygu Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau
- sicrhau bod disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cyrraedd eu potensial
Cadarnhaodd yr asesiadauhyn, er bod rhai ysgolion yn cynllunio’n gynyddol ar gyfer rhifedd ac yn datblygu profiad. Dyniaethau diddorol sydd wedi’u gwreiddio yn eu ‘cynefin’, mae eraill yn parhau i gynnig dysgu tameidiog. Mae gwaith i feithrin annibyniaeth ymhlith dysgwyr wedi cynyddu ond, mewn gormod o ystafelloedd dosbarth, mae cyfarwyddyd oedolion yn cyfyngu chwilfrydedd a meddwl beirniadol. Ceir amrywiad yn llwyddiant darparwyr wrth sicrhau presenoldeb rheolaidd a chynnydd digonol mewn dysgu i ddisgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Datblygu’r Gymraeg
Am y tro cyntaf, mae ein hadroddiad blynyddol yn cynnwys tystiolaeth arolygu ar ddarpariaeth trochi yn y Gymraeg. Mae’r darpariaethau bach, arbenigol hyn yn chwarae rhan hollbwysig o ran helpu hwyrddyfodiaid i fagu hyder yn eu llafaredd Cymraeg. Roedd awdurdodau lleol yn cynllunio’n fwyfwy uchelgeisiol ar gyfer darpariaeth trochi yn y Gymraeg ac i ddatblygu darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Gwelom arfer gadarnhaol hefyd yn ein harolygiad cyntaf ar thema Cymraeg i Oedolion, gyda nifer y dysgwyr Cymraeg yn parhau i dyfu a’r effaith yn cael ei gweld lle’r oedd gweithgareddau Cymraeg Gwaith yn cael eu cydlynu ar draws sectorau cyflogaeth penodol.
Fodd bynnag, mae heriau parhaus o ran sicrhau datblygiad cynyddol medrau Cymraeg mewn darpariaeth addysg a hyfforddiant cyfrwng Saesneg. Gwelom rywfaint o waith cadarnhaol i godi ymwybyddiaeth, hyder a medrau Cymraeg staff, er enghraifft mewn colegau addysg bellach. Fodd bynnag, roedd pontio i ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a’r niferoedd sy’n manteisio ar asesiadau cyfrwng Cymraeg mewn lleoliadau ôl-16 yn gyfyngedig o hyd. Mae hyn yn arbennig o heriol mewn ardaloedd lle mae llai o ddewisiadau i ddysgwyr barhau â’u haddysg cyfrwng Cymraeg y tu allan i ysgolion.
Anghenion dysgu ychwanegol
Mae’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd yn parhau i gael ei hymgorffori, gan gynnwys mewn colegau a lleoliadau ôl-16 arbenigol, gydag ymrwymiad cryf gan staff a mwy o ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd Swyddogion Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar newydd yn cydweithio’n dda â rhieni a lleoliadau er mwyn sicrhau bod y cymorth cywir ar waith i blant iau sydd ag ADY. Fodd bynnag, roedd heriau’n parhau ar draws y system addysg o ran dehongli’r Cod ADY a defnyddio cynlluniau datblygu unigol.
At ei gilydd, mae tystiolaeth arolygu’n awgrymu bod galw cynyddol am ddarpariaeth mewn ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion ac ar gyfer tiwtora unigol i ddisgyblion Gwelom fod hyn yn dechrau cael effaith negyddol ar ansawdd profiadau dysgu, er enghraifft gyda llai o le ar gyfer darpariaeth synhwyraidd i helpu disgyblion i reoleiddio eu hemosiynau, neu ormod o ddisgyblion â dewisiadau cwricwlwm cyfyngedig gan eu bod yn dilyn amserlenni rhan-amser am gyfnod rhy hir.
Addysg a hyfforddiant ôl-16
Eleni oedd y flwyddyn gyntaf yr oedd Medr, sef y corff addysg drydyddol newydd, yn gwbl weithredol. Cwblhaom ein cylch o arolygiadau o brentisiaethau a gwelom y manteision i brentisiaid o ran datblygu eu medrau ymarferol, eu gwybodaeth a’u hyder. Fodd bynnag, roedd angen i ddarparwyr a chyflogwyr gynllunio’n fwy gofalus ar gyfer asesiadau er mwyn sicrhau bod prentisiaid yn cwblhau eu rhaglenni mewn modd amserol.
Gwelom arfer dda mewn lleiafrif o achosion mewn carchardai i ddynion i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr. Fodd bynnag, nid oedd darpariaeth ar gyfer y rhain yn cyd-fynd yn ddigon da â chyd-destunau galwedigaethol bob tro.
Mewn colegau addysg bellach, datblygodd y rhan fwyaf o ddysgwyr y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r medrau sydd eu hangen i gefnogi eu dysgu yn dda. Mewn ychydig o achosion, nid oedd athrawon yn herio dysgwyr ddigon i gyflawni eu llawn botensial.
Gwnaeth y rhan fwyaf o oedolion sy’n ddysgwyr gynnydd cadarn dros gyfnod, gan oresgyn rhwystrau sylweddol yn aml. Fodd bynnag, mae darpar ddysgwyr weithiau’n cael trafferth gwybod sut i fanteisio ar gyfleoedd dysgu i oedolion yn eu hardal leol.
Mewnwelediadau ehangach o ran sector
Mae lles a diogelu’n gryf ar draws y rhan fwyaf o ysgolion a darparwyr o hyd, gyda diwylliannau cynhwysol a chymorth bugeiliol effeithiol. Fodd bynnag, mae presenoldeb ymhell islaw’r lefelau cyn y pandemig o hyd, yn enwedig ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu sydd o gefndiroedd incwm isel. Gwnaeth ysgolion a oedd yn defnyddio data presenoldeb yn ddeallus ac a oedd yn ymgysylltu’n bwrpasol â theuluoedd gynnydd, ond mae’r amrywiad cenedlaethol yn parhau’n rhy fawr.
Unwaith eto, mae gwasanaethau ieuenctid wedi chwarae rhan hollbwysig wrth feithrin hyder a gwydnwch ac mae darpariaeth Cymraeg i Oedolion yn gaffaeliad cenedlaethol o hyd. Mae darpariaeth meithrin nas cynhelir yn parhau i alluogi plant ifanc i ddysgu a ffynnu.
Mae recriwtio athrawon yn parhau i fod yn flaenoriaeth frys. Mae prinder athrawon mewn mathemateg, gwyddoniaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg mewn perygl o arafu’r broses o ddiwygio ac o danseilio uchelgeisiau ar gyfergweithlu dwyieithog.
Edrych tua’r dyfodol
Mae’r dystiolaeth o 2024–2025 yn dangos bod gan Gymru enghreifftiau o arloesi a darpariaeth gref i adeiladu arnynt. Fodd bynnag, rhaid mynd i’r afael ar frys â gwendidau systemig mewn llythrennedd, ansawdd addysgu a hunanwerthuso. Bydd Estyn yn parhau i ddarparu craffu annibynnol, amlygu arfer orau a chefnogi gwelliant. Ein rôl yw sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn elwa ar addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel yn gyson. Dros ddysgwyr, dros Gymru.