Trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn Awdurdodau Lleol
Adroddiad sector 2024 - 2025
Data’r Darparwr
22
Nifer y darparwyr
Cafwyd cais gan Lywodraeth Cymru i ymgymryd ag arolygiadau craidd o drefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdodau lleol o hydref 2024 ymlaen. Mae’r holl drefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdod lleol yn cael eu harolygu fel rhan o un arolygiad (yn annibynnol ar arolygiadau craidd GAALlau).
Data Gweithgarwch Dilynol
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddarparwr trochi yn y Gymraeg mewn categori gweithgarwch dilynol.
Gweithgarwch arolygu
Nifer yr arolygiadau craidd: 3
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Astudiaethau achos
Nifer yr astudiaethau achos: 1
Dolenni i astudiaethau achos: Astudiaeth achos Wrecsam
Crynodeb
Ar y cyfan, roedd gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer trefniadau trochi yn y Gymraeg ac roeddent wedi addasu’r ddarpariaeth i gyd-fynd ag anghenion lleol eu disgyblion yn llwyddiannus. Fe wnaethant gydweithredu’n dda ag ysgolion yn yr awdurdod lleol i rannu arfer dda a gwella medrau Cymraeg disgyblion. Fe wnaeth darpariaethau trochi yn y Gymraeg ddarparu lefelau effeithiol o ofal, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion, a gafodd effaith gadarnhaol ar eu lles a’u harwain at gamau nesaf eu dysgu. Roedd staff yn fodelau cadarnhaol o ran iaith ac yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau addysgu i ennyn diddordeb disgyblion ac, o ganlyniad, gwnaeth llawer o ddisgyblion gynnydd addas yn eu medrau llafaredd Cymraeg.
Addysgu a dysgu
Lle’r oedd arfer gryfaf, hyrwyddodd staff gymuned ddysgu fywiog a oedd yn symbylu a pharatoi disgyblion i gaffael y Gymraeg yn llwyddiannus. Adeiladodd athrawon yn fedrus ar ddulliau caffael iaith mewn cyd-destunau difyr. Fe wnaethant gynllunio’n systematig, gan ddarparu cyfleoedd i edrych eto ar ddysgu blaenorol ac adeiladu arno’n effeithiol. Ymatebodd staff yn bwrpasol i ddysgu’r disgyblion ac addasu’r ddarpariaeth, fel y bo angen. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, ni wnaeth staff ddarparu profiadau dysgu’n ddigon medrus bob amser i fodloni anghenion caffael iaith disgyblion yn gyson dros gyfnod.
Defnyddiodd llawer o athrawon ystod dda o adnoddau a dulliau addysgu amlsynhwyraidd effeithiol a hwylusodd gynnydd disgyblion yn bwrpasol. O ganlyniad, fe wnaeth llawer o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai y mae tlodi’n effeithio arnynt, wneud cynnydd addas yn eu gallu i ddeall a siarad Cymraeg.
Ar y cyfan, roedd gan staff ddisgwyliadau uchel ar gyfer disgyblion ac roeddent yn angerddol am ddatblygu medrau gwrando a siarad disgyblion. Yn yr arfer orau, defnyddiodd staff ystumiau ac ailadrodd pwrpasol mewn ffordd ddifyr fel y gallai disgyblion gopïo geirfa a phatrymau brawddegau cywir. Defnyddiodd y rhan fwyaf o staff ddulliau holi effeithiol i wirio dealltwriaeth disgyblion a dwysáu eu dealltwriaeth. Fodd bynnag, mewn ychydig bach iawn o enghreifftiau, ni wnaeth dulliau holi staff roi digon o gyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ddwysáu eu dysgu.
Cyngor Gwynedd: Mae cynllunio pwrpasol yn sicrhau parhad a dilyniant wrth gynorthwyo disgyblion i gaffael medrau Cymraeg mewn cyd-destun modern
Mae athrawon yn cydweithredu’n llwyddiannus i greu cynllun arloesol newydd, o’r enw ‘Aberwla’. Mae hwn yn cynorthwyo staff i adeiladu’n systematig ar yr egwyddorion allweddol wrth i ddisgyblion gaffael y Gymraeg. Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi dysgu mewn ffordd werthfawr, trwy ddarparu profiadau dysgu cyfoethog i ddisgyblion ddefnyddio adnoddau rhithwir i ddatblygu’u medrau Cymraeg mewn cyd-destun pwrpasol a chynhwysol.
Ym mron bob darpariaeth, roedd gan ddisgyblion berthnasoedd gwaith cryf ag oedolion. Sefydlodd staff amgylchedd dysgu meithringar ac, o ganlyniad, roedd disgyblion yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel o fewn y darpariaethau bach. Cyfrannodd ethos cefnogol y ddarpariaeth yn nodedig at hyder disgyblion a’u hagweddau cadarnhaol at eu dysgu. Fe wnaeth disgyblion fwynhau rhyngweithio â staff a chymheiriaid o fewn grwpiau bach, wrth ddatblygu’u medrau llafaredd Cymraeg.
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Darparodd staff yn y darpariaethau trochi yn y Gymraeg lefelau effeithiol o ofal, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion, a gafodd effaith gadarnhaol ar eu lles ac ar y camau nesaf yn eu dysgu. Roedd ganddynt ddealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion disgyblion ac fe wnaethant ddarparu cyfleoedd pwrpasol i feithrin eu lles mewn amgylchedd cefnogol. Er enghraifft, fe wnaeth dealltwriaeth staff o effaith trawma ar ddatblygiad plant chwarae rôl flaenllaw mewn cynllunio profiadau ystyrlon a bodloni anghenion disgyblion. O ganlyniad, roedd disgyblion yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel ac roeddent yn barod i rannu unrhyw bryderon gydag oedolion.
Ym mwyafrif y darpariaethau, roedd pontio disgyblion a threfniadau ôl-ofal yn effeithiol. Fe wnaeth disgyblion bontio’n hwylus i’r ddarpariaeth ac i’w hysgolion trwy rannu gwybodaeth berthnasol. Yn yr enghreifftiau gorau, fe wnaeth y ddarpariaeth drochi gefnogi disgyblion â chamau nesaf eu datblygiad ieithyddol yn briodol, er enghraifft trwy rannu adnoddau i gefnogi disgyblion wrth iddynt ddychwelyd i ddosbarthiadau prif ffrwd. Cafodd hyn effaith gadarnhaol ar hyder disgyblion wrth iddynt gaffael medrau ieithyddol newydd.
Arwain a gwella
Ar y cyfan, roedd gan uwch arweinwyr ym mhob awdurdod lleol weledigaeth glir ar gyfer trefniadau’r ddarpariaeth Gymraeg, yn unol â’u Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Lle’r oedd arfer gryfaf, roedd y trefniadau trochi’n cael eu harwain gan arweinwyr cryf ac ysbrydoledig, a sicrhaodd fod gan staff wybodaeth gynhwysfawr am les ac anghenion dysgu disgyblion.
Yn yr arfer orau, roedd arweinwyr wedi creu diwylliant ac ethos cadarnhaol i hyrwyddo a chefnogi dysgu proffesiynol staff. Fe wnaethant annog staff i gydweithio â phartneriaid i ymgymryd ag ymchwil weithgar, er enghraifft trwy ymchwilio i arferion effeithiol o ran dwyieithrwydd a throchi iaith. Mewn ychydig o achosion, fodd bynnag, nid oedd dysgu proffesiynol pwrpasol i arweinwyr a staff wedi’i ddatblygu cymaint. Ar draws y tri awdurdod lleol, roedd cydweithio effeithiol rhwng y ddarpariaeth drochi ac ysgolion lleol i gefnogi addysgu iaith. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ddatblygu medrau Cymraeg staff a disgyblion ar draws yr awdurdodau lleol.
Lle’r oedd prosesau gwella gryfaf, roedd gan arweinwyr ddealltwriaeth gadarn o gryfderau’r trefniadau trochi yn y Gymraeg a’u meysydd i’w gwella. Fodd bynnag, roedd angen mireinio prosesau hunanwerthuso ymhellach ym mron bob un o’r awdurdodau lleol.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Ym mlwyddyn academaidd 2024-2025, arolygodd Estyn y trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn tri awdurdod lleol:
- Cafodd y tri awdurdod lleol argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella a’u prosesau hunanwerthuso
- Rhoddwyd argymhelliad i un awdurdod lleol ddarparu dysgu proffesiynol pwrpasol ar addysgeg drochi effeithiol