Twf Swyddi Cymru + Adolygiad dilynol – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Twf Swyddi Cymru + Adolygiad dilynol

Thematig ar dudalen 2024 - 2025



Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar feysydd i’w gwella a nodwyd yn adroddiad ymweliad monitro cyntaf Estyn (Estyn, 2023) ac yng ngwerthusiad ffurfiannol Llywodraeth Cymru o Twf Swyddi Cymru + (Llywodraeth Cymru, 2024). Gwerthusom:

  • y broses atgyfeirio a phrofiadau cyfranogwyr yn ystod y cyfnod hwn
  • pa mor dda y mae cyflwyno’r cwricwlwm yn bodloni anghenion amrywiol

cyfranogwyr ac yn eu paratoi i symud ymlaen i ddysgu pellach neu gyflogaeth

I gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn, ymwelom â phob un o’r pum contractwr arweiniol, gan gynnwys 21 o bartneriaid sy’n isgontractwyr, ar draws cyfanswm o 49 o ganolfannau cyflwyno Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) ledled Cymru. Fe wnaethom arsylwi sesiynau; siarad â chyfranogwyr; cynnal ymchwil wrth y ddesg i adolygu prosesau atgyfeirio; dadansoddi gwybodaeth perfformiad allweddol ar draws y contract a chyfarfod â chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.

Ers yr ymweliadau monitro cychwynnol, mae’r broses atgyfeirio wedi cael ei chryfhau’n sylweddol trwy gydweithio effeithiol rhwng contractwyr arweiniol, Cymru’n Gweithio a Llywodraeth Cymru. Mae dogfennau atgyfeirio diwygiedig wedi gwella’r broses o gasglu manylion angenrheidiol am anghenion unigol cyfranogwyr ac wedi helpu i leoli cyfranogwyr yn fwy cywir ar yr elfen gymorth orau. Fodd bynnag, mae’r broses ar gyfer rhannu gwybodaeth am gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi dod yn llai effeithlon, gan fod Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (Llywodraeth Cymru, 2021) yn atal Cymru’n Gweithio rhag rhannu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) yn uniongyrchol â chontractwyr wrth atgyfeirio i’r rhaglen.

Mae’r defnydd cynyddol o atgyfeiriadau uniongyrchol wedi caniatáu i ddarparwyr nodi’r galw am y rhaglen a dechrau cyfranogwyr ynghynt. Fodd bynnag, mae’r galw cynyddol am leoedd a chyfranogwyr yn aros ar raglenni am gyfnodau hwy wedi arwain at restrau aros mewn rhai rhanbarthau, gan greu oedi yn nyddiadau dechrau cyfranogwyr a chynyddu’r risg o ymddieithrio.

Roedd mwyafrif y cyfranogwyr ar raglen TSC+ ar yr elfen ymgysylltu, gyda llawer ohonynt yn dangos rhwystrau sylweddol rhag symud ymlaen ymhellach, fel pryderon iechyd meddwl a phroblemau â’u hyder. Roedd darparwyr yn cynnig cymorth lles cryf, gan gynnwys sesiynau a oedd yn canolbwyntio ar reoli gorbryder, ffyrdd iach o fyw a datblygiad personol. Roedd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn cyflogi gwasanaethau cymorth, fel anogwyr gwydnwch a chwnsleriaid, yr oedd cyfranogwyr yn eu gwerthfawrogi ac yn manteisio arnynt yn rheolaidd.

Yn gyffredinol, roedd darparwyr yn annog dilyniant cyfranogwyr trwy elfennau’r rhaglen ac i gyflogaeth neu addysg bellach a hyfforddiant, gyda llwybrau dilyniant ac amserlenni disgwyliedig wedi’u nodi. Fodd bynnag, nid oedd ychydig o gyfranogwyr ar yr elfen ymgysylltu yn gwneud y cynnydd roeddent yn gallu ei wneud oherwydd amharodrwydd i symud ymlaen i gyfleoedd lleoliadau gwaith, ac roedd yn well ganddynt aros yn y ganolfan lle’r oeddent yn teimlo’n fwy diogel o gwmpas eu ffrindiau, eu tiwtoriaid a’u hanogwyr.

Ar yr elfen Datblygu, roedd argaeledd darpariaeth sy’n benodol i’r sector yn rhy amrywiol ar draws gwahanol rannau o Gymru. Mewn rhai ardaloedd, roedd gan gyfranogwyr ystod eang o ddewis o ddarpariaeth mewn sectorau fel adeiladu, gofal a manwerthu; fodd bynnag, mewn ardaloedd eraill, roedd rhaglenni’n canolbwyntio ar gymwysterau cyflogadwyedd cyffredinol. O ganlyniad, ni all bob unigolyn ifanc fanteisio ar ddarpariaeth sydd wedi’i theilwra i’w dewisiadau unigol. Mewn ychydig o achosion, nid oedd gwahaniaeth rhwng yr hyn a gyflwynwyd yn yr elfennau ymgysylltu a datblygu, a oedd yn golygu nad oedd ychydig o gyfranogwyr yn glir ynghylch eu cyfleoedd dilyniant. Roedd llawer o gyfranogwyr ar yr elfen datblygu yn manteisio ar gyfleoedd lleoliad gwaith yn gyflym; fodd bynnag, roedd rhaid i ychydig ohonynt aros am leoliadau oherwydd yr heriau yr oedd darparwyr yn eu hwynebu o ran cael digon o gyfleoedd lleoliad gwaith ar draws meysydd galwedigaethol.

Roedd yr elfen gyflogaeth yn parhau i gael ei danddefnyddio, a nododd darparwyr fod gofynion cyllido rhy fiwrocrataidd a’u bod yn gallu dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth eraill i’r rhai sy’n barod i symud ymlaen i waith. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn blaenoriaethu eu dyraniad adnoddau i fodloni’r galw am elfennau eraill y rhaglen.

Mynegodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr brofiadau cadarnhaol o’r rhaglen, gan werthfawrogi’r amgylcheddau dysgu cefnogol a’r sylw personol gan staff. Sonion nhw am  lefelau uchel o gymorth bugeiliol ac roeddent yn gwerthfawrogi’r ystod o weithgareddau cyfoethogi y mae darparwyr yn eu cynnig, gan ddweud eu bod yn eu helpu i fagu hyder, medrau cymdeithasol a medrau gweithio mewn tîm.


Ein hargymhellion

Dylai contractwyr:

  • Sicrhau gwahaniaeth clir rhwng y cwricwlwm ymgysylltu a datblygu, a bod pob cyfranogwr yn deall eu cyfleoedd am ddilyniant
  • Ymestyn a chymell pob cyfranogwr i gyflawni hyd eithaf eu gallu, yn enwedig wrth symud ymlaen o weithgarwch mewn canolfan i leoliad gwaith, addysg a hyfforddiant pellach neu gyflogaeth pan fyddant yn barod
  • Parhau i ddatblygu strategaethau ymgysylltu â chyflogwyr er mwyn sicrhau y gall cyfranogwyr fanteisio ar leoliadau gwaith penodol i’r sector sy’n cyd-fynd â’u dyheadau gyrfa mewn modd amserol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Adolygu strwythur yr elfennau, yn enwedig effeithiolrwydd yr elfen gyflogaeth, gan ystyried elfen amgen ar gyfer cyfranogwyr sydd â’r rhwystrau mwyaf sylweddol rhag symud ymlaen
  • Ystyried mesurau amgen heblaw cyrchfannau rhaglenni fel deilliant cadarnhaol, yn enwedig i’r rhai sydd bellaf o symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth
  • Sicrhau bod darpariaeth dan gontract ar draws pob rhanbarth yn cynnwys dewis o ddarparwyr a dewis priodol o raglenni sy’n benodol i’r sector
  • Ystyried sut gall methodolegau a dyraniadau cyllid fodloni’r galw cynyddol am y rhaglen orau

Dylai pob rhanddeiliad sy’n ymwneud â chyflwyno TSC+:

  • Werthuso prosesau ar gyfer rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod contractwyr yn cael gwybodaeth amserol am gyfranogwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a Chynllun Datblygu Unigol (CDU), gan ganiatáu i’r cymorth angenrheidiol gael ei gynnig cyn gynted â phosibl.