Unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Unedau cyfeirio disgyblion (UCDau)

Adroddiad sector 2024 - 2025



Data Ysgolion

22

Nifer y darparwyr yn 2025


Data Disgyblion

1,239

Disgyblion unigol cofrestredig yn 2025

1,077

Disgyblion unigol cofrestredig yn 2024

969

Disgyblion unigol cofrestredig yn 2023


Gweithgarwch arolygu

Nifer yr arolygiadau craidd: 5

Nifer yr ymweliadau interim: 3


Crynodeb

Ar draws y sector unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), fe wnaeth staff sicrhau’n gyson fod lles disgyblion yn sylfaen i’w gwaith. Bu cynnydd amlwg yn nifer y disgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl ac roedd pob UCD a arolygwyd yn wynebu heriau o ran bodloni’r galwadau hyn. Fe wnaeth anghysondebau ym meini prawf mynediad ac ymadael awdurdodau lleol, oedi cyn bod disgyblion yn dychwelyd i ddarpariaeth brif ffrwd a diffyg darpariaeth arbenigol hirdymor briodol roi pwysau ychwanegol ar UCDau.

Mewn UCDau lle’r oedd y cwricwlwm yn cynnig cydbwysedd priodol rhwng lles a disgwyliadau uchel ar gyfer dysgu, fe wnaeth y rhan fwyaf o ddisgyblion gynnydd hynod effeithiol o’u mannau cychwyn. Yn y lleoliadau mwyaf effeithiol, dangosodd staff ddealltwriaeth fanwl o’r dulliau addysgegol sy’n angenrheidiol i gynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd da. Fe wnaethant ddarparu profiadau dysgu ystyrlon oedd yn arwain at gymwysterau cydnabyddedig. Fe wnaeth ymglymiad dysgwyr â chyfeirio dysgu gryfhau’r ddarpariaeth ymhellach. O ganlyniad, roedd lefel uchel o ymgysylltiad gan ddisgyblion ac roedd ymddygiad yn cael ei reoli’n effeithiol i leihau effaith unrhyw darfu.

Mewn mwyafrif o leoliadau, sefydlodd arweinwyr brosesau cadarn ar gyfer sicrhau ansawdd a monitro, ac roedd prosesau hunanwerthuso yn effeithiol. Fe wnaeth arweinwyr gynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid mewn hunanwerthuso, a gryfhaodd ymhellach eu cynllunio ar gyfer gwella.


Addysgu a dysgu

Gwnaeth llawer o ddisgyblion gynnydd cryf mewn dysgu ac mewn datblygu’u medrau cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol ac annibyniaeth. Er bod lefelau presenoldeb yn parhau’n rhy isel, fe wnaeth llawer o ddisgyblion wella’n sylweddol o gymharu â’u mannau cychwyn ac o gymharu â’u ffigurau presenoldeb blaenorol yn y brif ffrwd. Fe wnaeth perthnasoedd cadarn ac ymddiriedus rhwng staff a disgyblion alluogi llawer i ffynnu ac i ymgysylltu o’r newydd â dysgu. Darllenwch sut gwnaeth staff Canolfan Bro Tywi yn Sir Gaerfyrddin ddatblygu perthnasoedd sy’n galluogi disgyblion i ddatblygu hyder a gwella’u medrau ysgrifennu.

Lle’r oedd addysgu yn bwrpasol ac yn defnyddio ymglymiad gan ddisgyblion a’u profiadau bywyd yn effeithiol, fe wnaeth disgyblion ymgysylltu’n dda â’u dysgu. I’r gwrthwyneb, mewn lleiafrif o UCDau lle na chafodd gwybodaeth asesu ei defnyddio’n effeithiol i lywio profiadau dysgu, fe wnaeth ymgysylltiad disgyblion ddioddef. Roedd deilliannau effeithiol yn fwyaf amlwg lle’r oedd athrawon a staff cymorth yn cydweithio’n ddi-dor, gan fanteisio ar ddealltwriaeth gref o anghenion unigol. Yn yr achosion hyn, dangosodd athrawon wybodaeth bynciol gryf a gosod disgwyliadau uchel. Fodd bynnag, fe wnaeth ansawdd addysgu anghyson gyfyngu ar gynnydd disgyblion ac fe wnaeth trafferthion o ran recriwtio arbenigwyr pwnc leihau ymhellach yr ehangder o lwybrau cymwysterau oedd ar gael i ddisgyblion hŷn.

Yn yr UCDau cryfaf, fe wnaeth cwricwlwm eang a hyblyg gefnogi cynllunio effeithiol yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Helpodd dysgu proffesiynol i staff addasu’r ddarpariaeth i fodloni anghenion dysgwyr, ac fe wnaeth gweithio mewn partneriaeth wreiddio cefnogaeth ychwanegol yn y cwricwlwm, gan gynyddu ei berthnasedd a’i effaith.

Roedd darpariaeth i ddisgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg barhau â’u haddysg yn Gymraeg yn rhy anghyson ac ni wnaeth gefnogi disgyblion i ddysgu trwy eu dewis iaith yn ddigon da.


Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Dangosodd y rhan fwyaf o UCDau lefelau cryf o ofal, cymorth a lles. Datblygodd disgyblion hunanwerth, roeddent yn teimlo bod pobl yn gwrando arnynt ac fe wnaethant ennill strategaethau effeithiol i hunanreoleiddio, rheoli eu hemosiynau a datblygu fel dysgwyr. Darllenwch sut mae Canolfan Addysg Tai yn Rhondda Cynon Taf yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu’u deallusrwydd emosiynol.

Er bod presenoldeb llawer o ddisgyblion wedi gwella ar ôl ymuno â’r UCD, roedd cyfraddau presenoldeb cyffredinol yn faes i’w wella o hyd. Fe wnaeth heriau parhaus, fel anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl, a bylchau mewn addysg, barhau i gyfrannu at ffigurau presenoldeb isel.

Mewn lleiafrif o UCDau, roedd gormod o ddisgyblion wedi aros ar amserlenni rhan-amser am gyfnod rhy hir. Roedd ansawdd cynlluniau cymorth bugeiliol, a’r defnydd ohonynt, yn anghyson, gan gyfyngu ar eu heffeithiolrwydd. Roedd diffyg cysondeb hefyd ym meini prawf awdurdodau lleol ar gyfer mynediad i UCDau ac ymadael â nhw, gan arwain at oedi cyn anfon disgyblion yn ôl i addysg amser llawn neu brif ffrwd. Roedd cymhlethdod cynyddol anghenion disgyblion yn aml yn gofyn bod angen darpariaeth arbenigol hirdymor, nad oedd ar gael bob amser, gan olygu bod y rhan fwyaf o UCDau yn gweithredu fel lleoliadau ysgolion arbennig hirdymor i gyfran o’u disgyblion.

Darparodd bron bob un o’r UCDau gefnogaeth gref i ddisgyblion hŷn o ran pontio i addysg bellach, hyfforddiant neu waith.


Arwain a gwella

Lle’r oedd arweinyddiaeth yn gryf, roedd gan staff rolau wedi’u diffinio’n glir ac roeddent yn rhannu gweledigaeth ac yn modelu gwerthoedd cynhwysol. Dangosodd llawer o arweinwyr hyblygrwydd ac fe wnaethant ymateb yn yn effeithiol i heriau. Yn The Bridge Alternative Provision ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae arweinwyr yn sicrhau bod cynnig cwricwlwm cynhwysol a theg ar gael i’r holl ddisgyblion.

Roedd prosesau hunanwerthuso wedi’u gwreiddio’n dda mewn mwyafrif o UCDau ac roeddent yn cynnwys yr holl randdeiliaid. Fe wnaeth diwylliant myfyriol a sicrhau ansawdd cadarn hybu gwelliant parhaus. Roedd trefniadau cryf cryf ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn cyfrannu’n gryf at brosesau hunanwerthuso effeithiol.

Yn y rhan fwyaf o UCDau, roedd dysgu proffesiynol yn flaenoriaeth uchel ac roedd yn creu gweithlu medrus a oedd yn canolbwyntio ar y disgyblion.

Roedd effeithiolrwydd pwyllgorau rheoli yn amrywio. Yn yr enghreifftiau cryfaf, roedd aelodau yn ffrindiau beirniadol, gan ddangos dealltwriaeth gref o anghenion disgyblion, ac yn ymwneud yn weithgar â bywyd yr UCD.

Lle’r oedd perthnasoedd cydweithredol yn bodoli rhwng arweinwyr, pwyllgorau rheoli ac awdurdodau lleol, roedd diben yr UCD wedi’i ddiffinio’n glir ac roedd arweinwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda. Roedd hyn yn parhau’n anghyson mewn lleiafrif o leoliadau, serch hynny.

O ganlyniad i gynnydd mewn niferoedd disgyblion, mewn mwyafrif o UCDau, roedd effaith negyddol ar amgylcheddau dysgu o ran bodloni gofynion capasiti. Er enghraifft, cafodd ardaloedd tawel a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gefnogi lles eu hailneilltuo’n ardaloedd addysgu.


Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Arolygwyd pum darparwr yn y sector UCDau yn ystod 2024-2025 a rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bedwar ohonynt.

Rhoddwyd argymhellion i dri darparwr (60%) yn ymwneud ag addysgu a dysgu, gyda dau o’r darparwyr mewn categori gweithgarwch dilynol:

  • Cafodd y tri darparwr argymhelliad i wella ansawdd a chysondeb addysgu a dysgu i sicrhau cynnydd disgyblion mewn dysgu

Rhoddwyd argymhellion i ddau ddarparwr (40%) yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad, yr oedd y ddau mewn categori gweithgarwch dilynol:

  • Cafodd y ddau ddarparwr argymhelliad i wella presenoldeb, ac i’r darparwr mewn categori dilynol ystyried cynnwys mynediad i addysg amser-llawn i’r holl ddisgyblion
  • Cafodd un darparwr argymhelliad i ddatblygu trefniadau ar gyfer cyfleoedd arwain disgyblion er mwyn cynorthwyo disgyblion i ddod yn ddysgwyr annibynnol

Rhoddwyd argymhellion i dri darparwr (60%) yn ymwneud ag arwain a gwella, yr oedd dau ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol:

  • Cafodd tri darparwr argymhelliad i gryfhau arweinyddiaeth ar bob lefel
  • Cafodd dau ohonynt argymhelliad i ddatblygu arweinyddiaeth strategol i sicrhau effeithiolrwydd hunanwerthuso a chynllunio gwelliant