Ymatebion Cenedlaethol i Holiadur Cyn-Arolygiad i Ddysgwyr a Rhieni – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ymatebion Cenedlaethol i Holiadur Cyn-Arolygiad i Ddysgwyr a Rhieni

Adroddiad Blynyddol 2024 - 2025



Yn rhan o’n sail dystiolaeth ar gyfer arolygu, rydym yn gofyn i ddysgwyr a rhieni a gofalwyr lenwi holiadur cyn arolygiad craidd. Mae hwn yn cwmpasu cwestiynau ag atebion penodol yn ogystal â’r cwestiynau hynny sy’n caniatáu ymateb llawnach. Rydym yn gofyn i ddarparwyr annog pob dysgwr o flwyddyn 3 ymlaen i lenwi’r holiadur.

Rydym yn gofyn cwestiynau i ddysgwyr ar ddwy brif thema, sef: lles a phrofiadau dysgu. Rydym yn gofyn cwestiynau i rieni am les a dysgu eu plentyn, a’u llais o fewn y darparwr.

Rydym yn cyflwyno’r ymatebion i’r cwestiynau caeedig ar ein gwefan ar lefel genedlaethol yn ôl sector. Mae rhai sectorau’n llai nag eraill, felly mae ganddynt lai o ddarparwyr sy’n cael eu harolygu ar draws y flwyddyn academaidd. I osgoi adnabod darparwyr, rydym ond yn cyflwyno data o sectorau lle cynhaliom ni ddau arolygiad neu fwy.

Nid ydym yn cyhoeddi ymatebion i gwestiynau agored.

Mae gennym ni holiaduron cyn-arolygiad hefyd ar gyfer staff a llywodraethwyr, ond rydym wedi rhoi blaenoriaeth i gyflwyno safbwyntiau dysgwyr a rhieni yn y lle cyntaf, gan fod hyn hefyd o ddiddordeb cyffredinol ehangach i’n hadroddiad blynyddol. Byddwn yn ystyried cyhoeddi’r canlyniadau cenedlaethol o’n holiaduron i staff yn y dyfodol.

Gweler ein gwefan am gopïau o’r cwestiynau a ddefnyddir yn ein holiaduron cyn-arolygiad.


Nodyn ar gyfyngiadau

Oherwydd y cyfyngiadau canlynol, ni ddylid dehongli’r crynodeb cenedlaethol hwn yn sampl gynrychioliadol yn genedlaethol o ddisgyblion a rhieni / gofalwyr yng Nghymru. Yn hytrach, mae’n rhoi darlun cyfanredol o safbwyntiau’r rhai a ddewisodd gymryd rhan.

  • Nid yw pawb yn llenwi’r holiaduron, felly efallai nad yw’r ymatebion yn adlewyrchu safbwyntiau pob un o’r disgyblion neu’r rhieni / gofalwyr.
  • Mae ysgolion a darparwyr eraill yn rhannu ac annog yr holiaduron mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn golygu y gallai cyfraddau ymateb rhai darparwyr fod yn uwch neu’n is na darparwyr eraill.
  • Nid oes gan bob un o’r disgyblion neu’r rhieni / gofalwyr yr un lefel o fynediad at wasanaethau digidol neu’r rhyngrwyd. Gall hyn effeithio ar bwy sy’n gallu llenwi holiadur ar-lein a gallai olygu nad yw rhai grwpiau’n cael eu cynrychioli’n ddigonol.
  • I gadw ymatebion yn ddienw, nid ydym yn gofyn am enwau na gwybodaeth arall y gellir adnabod darparwyr oddi wrthi. Yn anffodus, nid yw hyn yn galluogi rhywun i gyflwyno mwy nag un ymateb.
  • Gan nad ydym yn casglu gwybodaeth fel oedran, rhywedd neu ethnigrwydd, ni allwn archwilio sut gall safbwyntiau wahaniaethu rhwng grwpiau o ddysgwyr neu rieni / gofalwyr.
  • Gellir defnyddio’r dolenni at yr arolwg sawl gwaith, e.e. i alluogi teuluoedd â mwy nag un plentyn i ymateb. Mae hyn hefyd yn golygu na allwn ddiystyru’r posibilrwydd y gallai rhywun y tu allan i’r grŵp bwriadedig lenwi’r holiadur.
  • Er ein bod yn cynllunio’r cwestiynau i fod mor glir ag y bo modd, gallai unigolion eu deall mewn gwahanol ffyrdd. Gallai disgyblion iau, er enghraifft, gael eu dylanwadu gan y cymorth neu’r esboniadau a roddir iddynt.
  • Mae pob sector yn cael ei holiadur ei hun, felly nid yw rhai cwestiynau’n berthnasol i bob sector. Mae hyn hefyd yn golygu na ellir cymharu ymatebion yn uniongyrchol ar draws gwahanol sectorau bob amser.