Ysgolion arbennig a gynhelir – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ysgolion arbennig a gynhelir

Adroddiad sector 2024 - 2025



Data Ysgolion

39

Nifer yr ysgolion yn 2025


Data Disgyblion

6,310

Cyfanswm y disgyblion

262

Nifer y disgyblion dan 5 oed

2,071

Nifer y disgyblion rhwng 5 a 10 oed

2,942

Nifer y disgyblion rhwng 11 a 15 oed

1,035

Nifer y disgyblon 16 oed neu’n hŷn

45.4%

Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (5-15 oed)


Gweithgarwch arolygu

Nifer yr arolygiadau craidd: 6

Nifer yr ymweliadau interim: 2


Crynodeb

Ym mhob ysgol a arolygwyd eleni, roedd gan y staff ddealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol disgyblion ac roeddent yn creu amgylcheddau meithringar a oedd yn galluogi disgyblion i ffynnu. Roedd ysgolion yn darparu cwricwla eang a oedd yn cynnwys profiadau go iawn a chyfleoedd i gael achrediad. Roedd llais y disgybl yn gryf ac roedd arweinyddiaeth wedi’i llywio gan werthoedd yn effeithiol. Roedd dysgu proffesiynol strategol a phartneriaethau yn cefnogi disgyblion yn dda. Fodd bynnag, roedd ansawdd yr addysgu yn amrywio ac roedd presenoldeb yn rhy isel o hyd, ar y cyfan, yn enwedig ar gyfer disgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol neu iechyd meddwl. Roedd heriau fel adnoddau, mannau dysgu cyfyngol, absenoldebau staff a systemau cyfathrebu gwan yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth. Serch hynny, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf mewn medrau cyfathrebu, annibyniaeth a chymdeithasol trwy ymyrraeth dargedig a chynllunio llwyddiannus ar gyfer pontio.


Addysgu a dysgu

Roedd ysgolion yn meithrin perthnasoedd meithringar â disgyblion ac yn sicrhau bod yr addysgu’n effeithiol a bod amgylcheddau’n ysgogol. O ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn unigol mewn ystod eang o fedrau. Roedd gan staff ddealltwriaeth glir o anghenion dysgu ychwanegol disgyblion ac roeddent yn cymhwyso ystod o strategaethau i hybu cyfathrebu, annibyniaeth ac ymgysylltiad. Roedd dull cyfathrebu cyflawn sy’n cynnwys dechrau technolegau cynorthwyol, ochr yn ochr ag addysgu strwythuredig, yn cefnogi bron pob un o’r disgyblion i fanteisio ar eu dysgu, mynegi eu hunain a datblygu medrau cymdeithasol a medrau bywyd gwerthfawr.

Lle’r oedd yr addysgu’n fwyaf effeithiol, roedd wedi’i gynllunio’n dda, wedi’i bersonoli ac yn berthnasol i ddiddordebau a phrofiadau disgyblion. Roedd staff yn rhoi adborth uniongyrchol a chefnogol, gan gymell disgyblion i wneud cynnydd cynaledig. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, roedd yr addysgu wedi’i gyfarwyddo’n ormodol gan oedolion, nid oedd wedi’i addasu’n ddigonol neu roedd diffyg rhediad, a oedd yn arwain at lai o ymgysylltiad a her. Yn yr achosion hyn, roedd disgwyliadau’n aneglur ac nid oedd cynorthwywyr addysgu’n cael eu defnyddio’n bwrpasol bob tro i gynorthwyo disgyblion.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd ffocws cryf ar ddatblygu cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd mewn cyd-destunau ystyrlon, go iawn. Roedd disgyblion yn datblygu medrau gweithredol trwy weithgareddau fel coginio, siopa a menter. Roedd llawer ohonynt yn cymryd rhan yn llwyddiannus mewn profiadau dysgu creadigol, corfforol a digidol ac yn elwa ar gyfleoedd cyfoethogi a oedd yn cynnwys cerddoriaeth, chwaraeon, profiadau preswyl ac ymweliadau rhyngwladol. Mewn ychydig o ysgolion, roedd cymorth i ddysgwyr Cymraeg iaith gyntaf a llwybrau dilyniant clir yn gyfyngedig o hyd. Yn Ysgol Pen Coch yn Sir y Fflint, mae disgyblion yn elwa ar ddysgu synhwyraidd effeithiol.

Roedd cwricwla unigol ysgolion yn eang, yn gynhwysol ac wedi’u llunio’n fwyfwy o gwmpas anghenion a diddordebau unigol. Roedd cynllunio’n cefnogi dilyniant medrau, gyda ffocws penodol ar les, ffyrdd iach o fyw a pharatoi ar gyfer bywyd oedolyn. Roedd addysg cydberthynas a rhywioldeb (ACRh) yn cael ei chyflwyno ar lefelau priodol, gan gefnogi dealltwriaeth disgyblion o hunanofal, caniatâd a pherthnasoedd. Darllenwch sut mae Ysgol Y Deri ym Mro Morgannwg yn darparu cwricwlwm galwedigaethol cryf.

Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf ac yn datblygu’r medrau a’r hyder sydd eu hangen i gymryd eu camau nesaf mewn dysgu neu fywyd yn llwyddiannus. Roedd llwybrau dysgu ôl-16 a galwedigaethol yn fwyfwy personoledig a dyheadol, gan arwain at achrediad perthnasol a phontio’n llwyddiannus i’r cyfnod nesaf. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, roedd llwybrau dilyniant mwy cyfyngedig yn eu hysgol bresennol a thu hwnt ac roedd y gallu i fanteisio ar gyrsiau mewn darpariaeth coleg i ffwrdd o’r safle yn gyfyngedig.


Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Ar draws ysgolion, roedd diwylliant cryf o ofal, cymorth a diogelu a oedd yn sail i les a datblygiad disgyblion. Roedd staff yn meithrin perthnasoedd cynnes ac ymddiriedus â disgyblion, gan greu amgylcheddau tawel a meithringar lle’r oedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Roedd ysgolion yn rhoi lles disgyblion wrth wraidd eu gwaith, gan ddefnyddio dulliau amlasiantaeth, cynlluniau wedi’u personoli a mewnbwn therapiwtig i fodloni anghenion eang a chymhleth disgyblion. Roedd staff yn helpu disgyblion yn gyson i reoleiddio eu hemosiynau a’u hymddygiad, datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu ac ymgysylltu’n dda â bywyd yr ysgol.

Roedd ystod eang o staff a thimau arbenigol yn cynnig cymorth effeithiol mewn meysydd fel cyfathrebu, datblygiad corfforol ac ymddygiad, gan wneud cyfraniad sylweddol yn aml at arfer yr ystafell ddosbarth a chynnydd disgyblion. Roedd trefniadau diogelu yn gadarn ac yn cael eu deall yn dda.

Roedd llais y disgybl yn gryfder nodedig ac roedd disgyblion yn cymryd rhan yn weithredol mewn penderfyniadau, rolau arweinyddiaeth a bywyd ehangach yr ysgol. Roeddent yn dylanwadu ar ddylunio’r cwricwlwm, yn cyfrannu at benodi staff ac yn cymryd rhan mewn mentrau lleol a chenedlaethol. Lle’r oedd yn briodol, roedd disgyblion yn dangos eu dealltwriaeth o hawliau ac yn dangos lefelau uchel o barch a chynhwysiant. Roedd cyfleoedd i ddatblygu annibyniaeth a medrau bywyd wedi’u hymwreiddio’n dda, yn enwedig ar gyfer disgyblion hŷn, a oedd yn elwa ar achrediad perthnasol a chynllunio pwrpasol ar gyfer pontio.

Roedd ysgolion yn cynnal partneriaethau cryf â theuluoedd ac asiantaethau allanol. Roedd cyfathrebu effeithiol, gweithdai a rhaglenni allgymorth yn gwella cymorth i ddisgyblion a’u teuluoedd. Mewn llawer o achosion, roedd y partneriaethau hyn yn arwain at bresenoldeb, lles, a deilliannau dysgu gwell. Fodd bynnag, er gwaethaf ymyriadau cadarnhaol, mae presenoldeb yn rhy isel o hyd ar gyfer ychydig o ddisgyblion, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol neu gyflyrau meddygol.

At ei gilydd, roedd disgyblion yn ffynnu mewn cymunedau cynhwysol, yn seiliedig ar hawliau, a oedd yn dathlu eu cyflawniadau ac yn eu paratoi’n dda ar gyfer eu camau nesaf. Yn gyffredinol, roedd ymddygiad yn cael ei gefnogi’n dda trwy ddulliau perthynol a dulliau sy’n ystyriol o drawma. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd diffyg cysondeb yn yr arferion hyn, ochr yn ochr â gwendidau mewn amgylcheddau dysgu a gosod targedau, yn arwain at gymorth anghyson a oedd yn cyfyngu ar annibyniaeth disgyblion. Yn Ysgol y Gogarth [Conwy], Ysgol Pen Coch [Sir y Fflint], Ysgol Y Deri [Bro Morgannwg], Ysgol Greenfield [Merthyr Tudful] ac Ysgol Park Lane [Rhondda Cynon Taf], mae staff yn datblygu addysg bwrpasol sy’n canolbwyntio ar y gymuned ar draws yr ysgolion.


Arwain a gwella

Roedd arweinyddiaeth ar draws ysgolion arbennig a gynhelir wedi’i hategu gan werthoedd cryf a chynhwysol. Roedd arweinwyr yn dangos ymrwymiad cytûn i les disgyblion, disgwyliadau uchel a gwelliant parhaus. At ei gilydd, roedd arweinwyr yn cynnig arweiniad pwyllog a strategol trwy gyfnodau o her sylweddol, gan gynnwys achosion o brofedigaeth, ailstrwythuro sefydliadol ac ehangu ysgol yn gyflym. Roedd arweinyddiaeth yn cael ei rhannu’n ehangach ar draws pob un o’r ysgolion, gyda phwyslais cynyddol ar ddulliau cydweithredol a chyfrifoldeb ar y cyd. Un cryfder nodedig oedd sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r ysgol. Yn y lleoliadau mwyaf effeithiol, roedd hyn yn cael ei gefnogi gan anogaeth, dysgu rhwng cymheiriaid a chydweithio rhyngwladol. Roedd y dulliau hyn yn gwella gallu staff a darpariaeth. Roedd partneriaethau cryf â theuluoedd ac asiantaethau allanol yn gwella cymorth ar gyfer datblygiad cyfannol disgyblion.

Roedd llywodraethu’n gwella, yn gyffredinol, gyda llawer o gyrff llywodraethol yn cynnig goruchwyliaeth effeithiol mewn meysydd fel diogelu a chyllid. Lle’r oedd llywodraethu ar ei gryfaf, roedd llywodraethwyr yn gweithredu fel cyfeillion beirniadol gwybodus a rhagweithiol a oedd yn cymryd rhan mewn teithiau dysgu rheolaidd ac yn cynnig her strategol. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd dealltwriaeth gyfyngedig llywodraethwyr o addysgu a dysgu yn lleihau eu gallu i ddwyn arweinwyr i gyfrif. Nid oedd ffocws craff bob tro i flaenoriaethau strategol yn ymwneud ag ansawdd addysgu gan nad oedd systemau sicrhau ansawdd wedi’u datblygu’n ddigonol. Roedd pwysau gweithredol, gan gynnwys absenoldebau uchel ymhlith y staff a gallu arweinyddiaeth cyfyngedig, yn llesteirio addysgu a chyflwyno’r cwricwlwm yn gyson. Er bod dysgu proffesiynol yn gyffredin, roedd gwerthuso ei effaith yn anghyson o hyd.

Roedd ehangu’n gyflym yn arwain at orlenwi mewn llawer o ysgolion, gan gyfyngu ar y gallu i fanteisio ar fannau therapiwtig a mannau penodol i’r cwricwlwm a lleihau cyfleoedd ar gyfer annibyniaeth a rheoleiddio synhwyraidd. Roedd y cyfyngiadau amgylcheddol hyn yn effeithio ar les disgyblion ac yn cyfyngu ar ansawdd y cwricwlwm. Roedd heriau ariannol, yn enwedig costau staffio anghynaliadwy ac oedi wrth ariannu disgyblion newydd, yn peri risgiau parhaus i gynllunio hirdymor.

Mewn ychydig o ysgolion, mae uwch arweinwyr wedi’u gorlwytho â chyfrifoldebau gweithredu, sy’n cyfyngu ar ffocws strategol. Mae angen cryfhau eglurder ynghylch rolau a dirprwyo i gynyddu gallu arweinyddiaeth.

Roedd Ysgol y Deri ac Ysgol Greenfield yn dangos arweinyddiaeth strategol, wedi’i llywio gan dystiolaeth, a oedd yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol, a chanfu ymweliadau interim fod Ysgol Crownbridge wedi cryfhau’r cwricwlwm, adborth a chynlluniau i ehangu, a bod Ysgol Greenhill wedi ymwreiddio arfer sy’n ystyriol o drawma ac wedi gwella gwerthuso, presenoldeb a chynllunio.

Yn sgil ei harolygiad craidd yn 2023, canfuwyd bod angen gwelliant sylweddol ar Ysgol Pendalar [Gwynedd]. Yn ystod ein hymweliad ym mis Mawrth 2025, nodom fod yr ysgol wedi gwneud cynnydd cyflym. Erbyn hyn, mae hunanwerthuso yn gadarn, mae addysgu wedi’i gryfhau ac mae llywodraethu bellach yn gryfder allweddol. Mae The River Centre [Blaenau Gwent], a roddwyd yn y categori mesurau arbennig yn 2022, yn dechrau gwella dan dîm arweinyddiaeth newydd, er bod hwnnw’n un dros dro. Mae eglurder mewn rolau staff, cymorth cryfach ar gyfer ymddygiad a chwricwlwm mwy difyr yn meithrin perthnasoedd, presenoldeb a deilliannau gwell, er bod cynllunio cwricwlwm ac asesu yn eu camau cynnar o hyd.

Yn sgil ei harolygiad craidd ym mis Mawrth 2025, canfuwyd bod angen gwelliant sylweddol ar Ysgol Tŷ Coch [Rhondda Cynon Taf].


Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Arolygwyd cyfanswm o chwe darparwr, y rhoddwyd un ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol. Rhoddwyd cyfanswm o 14 o argymhellion.

Cafodd pump o ddarparwyr (83%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud ag ansawdd addysgu a dysgu, yr oedd un ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol:

  • Gofynnwyd i dri ohonynt sicrhau bod arfer effeithiol yn cael ei rhannu ar draws yr ysgol; cynghorwyd y darparwr a oedd mewn categori gweithgarwch dilynol i wella ansawdd a chysondeb yr addysgu a sefydlu system gyfathrebu gyson i gefnogi dealltwriaeth, mynegiant ac ymgysylltiad disgyblion

Rhoddwyd argymhelliad i un darparwr (17%) yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad. Roedd hyn yn ymwneud â gwella presenoldeb grwpiau penodol o ddisgyblion.

Rhoddwyd argymhelliad i bump o ddarparwyr (83%) yn ymwneud ag arwain a gwella, yr oedd un ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol:

  • Gofynnwyd i dri ohonynt gydweithio â’r awdurdod lleol i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r amgylchedd dysgu, adeiladau, trafnidiaeth gyhoeddus neu absenoldeb staff
  • Cynghorwyd tri ohonynt i gryfhau prosesau hunanwerthuso
  • Roedd argymhellion ychwanegol yn cynnwys cryfhau arweinyddiaeth ar bob lefel, mireinio cynlluniau datblygu i ganolbwyntio ar effaith blaenoriaethau ysgol gyfan ar ddeilliannau disgyblion a gwella’r defnydd o wybodaeth yr ysgol i lywio blaenoriaethau gwella cydlynol