Ysgolion arbennig annibynnol
Adroddiad sector 2024 - 2025
Data Darparwyr
48*
Nifer y darparwyr yn 2025
Safonau Ysgolion Annibynnol
Mewn ysgolion annibynnol, rydym yn arolygu i ba raddau y mae’r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.
Nifer yr ysgolion a arolygwyd nad oeddent yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.
2024-2025: 4
Gweithgarwch arolygu
Nifer yr arolygiadau craidd: 8
Nifer yr arolygiadau monitro: 6
Nifer yr ymweliadau cofrestru cychwynnol: 2 (1 aflwyddiannus ac 1 yn mynd rhagddo)
Nifer yr ymweliadau dilynol ar ôl cofrestru: 4
Nifer y newidiadau sylweddol: 19
Nifer yr ymweliadau dilynol: 25 (gan gynnwys 11 arolygiad dilynol terfynol)
Cipolygon
Nifer y cipolygon: 10
Chestnut Hill x 2
Amberleigh x 2
Red Rose
Gwenllian
Dan y Coed x 3
Mynydd Haf
Crynodeb
Yn 2024-2025, roedd bron pob un o’r ysgolion arbenigol ADY annibynnol a arolygom yn darparu amgylcheddau tawel a chefnogol lle’r oedd disgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi. Roedd perthnasoedd proffesiynol cryf ac ymddiriedus rhwng staff a disgyblion yn gryfder nodedig ar draws y sector. Roedd y perthnasoedd hyn, a oedd yn aml wedi’u meithrin trwy ddulliau therapiwtig ac arferion cyson, yn galluogi disgyblion i reoleiddio eu hemosiynau, magu hunanhyder ac ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu. Roedd staff yn rhoi blaenoriaeth uchel i adnabod disgyblion yn dda a theilwra cymorth i’w hanghenion unigol.
Roedd dylunio’r cwricwlwm ar draws y rhan fwyaf o ysgolion yn rhoi blaenoriaeth i brofiadau dysgu ymarferol, personoledig. Roedd medrau bywyd, annibyniaeth a llwybrau galwedigaethol yn nodweddion cyffredin, gan baratoi disgyblion yn effeithiol ar gyfer oedolaeth. Mewn lleiafrif o ysgolion, roedd hyn yn cael ei wella ymhellach trwy brosiectau menter, cyrsiau cyswllt â cholegau neu brofiad gwaith strwythuredig. Roedd addysg gyrfaoedd yn parhau i ddatblygu’n gryfder, gyda chynllunio clir yn y rhan fwyaf o ysgolion a chymorth teilwredig iawn mewn ychydig ohonynt.
Roedd arweinyddiaeth yn effeithiol yn y rhan fwyaf o ysgolion. Lle’r oedd ar ei chryfaf, roedd gweledigaeth gytûn a sicrhau ansawdd cadarn yn cyd-fynd ag anghenion disgyblion. Roedd gan dros hanner yr ysgolion a arolygwyd eleni arweinwyr newydd, a hynny ar ôl ailstrwythuro sylweddol mewn llawer ohonynt. Lle’r oedd arweinyddiaeth yn ymwreiddio o hyd, roedd gwendidau mewn gwerthuso a chynllunio gwelliant yn fwy amlwg, yn enwedig o ran addysgu a diogelu.
Yn 2024-2025, o gymharu â’r flwyddyn academaidd flaenorol, cynyddodd cyfran y disgyblion a oedd yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 yn sylweddol. Fodd bynnag, nid oedd ychydig o’r ysgolion yn bodloni’r holl safonau adeg yr arolygiad. Eleni, cafodd naw ysgol arolygiadau cydymffurfio terfynol ar ôl methu bodloni’r rheoliadau yn flaenorol. O’r rhain, canfuwyd bod wyth ohonynt yn cydymffurfio, gan amlygu ymrwymiad arweinwyr i wella a’u gallu i weithredu ar argymhellion blaenorol. Nid oedd un ysgol yn cydymffurfio o hyd a bydd yn cau ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2024-2025.
Yn ogystal ag arolygiadau wedi’u hamserlennu, cynhaliwyd pedwar ymweliad ar ôl cofrestru, y nododd un ohonynt ddiffyg cydymffurfiaeth. Hefyd, cynhaliodd arolygwyr ymweliad diogelu â ffocws ar gais Llywodraeth Cymru, a chanfod bod yr ysgol yn cydymffurfio. Roedd yr arolygiadau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd goruchwyliaeth gref gan berchnogion a chymhwyso gweithdrefnau diogelu’n gyson.
Addysgu a dysgu
Ym mron pob un o’r ysgolion a arolygwyd gennym, roedd disgyblion yn ymgysylltu’n gadarnhaol â gweithgareddau dysgu ac yn elwa ar amgylcheddau ystafell ddosbarth a oedd wedi’u hystyried yn ofalus. Lle’r oedd yr addysgu ar ei gryfaf, roedd staff yn darparu dulliau strwythuredig, therapiwtig a chreadigol a oedd yn galluogi disgyblion i ddatblygu annibyniaeth, chwilfrydedd a gwydnwch. Mewn llawer o ysgolion, roedd strategaethau addysgu wedi’u llywio gan broffiliau cyfathrebu, targedau personol a chynlluniau rheoleiddio emosiynol disgyblion. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, yn enwedig lle’r oedd trosiant staff yn uchel neu lle’r oedd arweinyddiaeth wedi newid yn ddiweddar, roedd anghysondebau yn ansawdd yr addysgu yn cyfyngu ar gynnydd disgyblion. Yn yr achosion hyn, nid oedd gan ychydig o’r staff y wybodaeth bynciol na’r arbenigedd addysgegol i gyflwyno pynciau arbenigol yn hyderus, yn enwedig ar lefel TGAU. Mewn ychydig o ysgolion, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn rhy ddibynnol ar gymorth gan oedolion o hyd ac nid oeddent yn cael cyfleoedd rheolaidd i weithio’n annibynnol na datblygu medrau datrys problemau. Roedd hyn yn cyfyngu ar lefel yr her ac yn llesteirio cynnydd disgyblion dros gyfnod.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn cynnig cwricwlwm unigoledig iawn. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd hyn yn cysylltu’n benodol â diddordebau, anghenion a dyheadau hirdymor disgyblion. Ar draws y sector, roedd ffocws cynyddol ar ddysgu ymarferol a galwedigaethol ac roedd llawer o ysgolion yn integreiddio gweithgareddau menter neu gymunedol. Roedd y rhain yn cynnwys rheoli stondinau caffi, cynllunio digwyddiadau neu redeg busnesau bach yn gysylltiedig â chrefftau neu ofal anifeiliaid. Roedd y profiadau hyn yn helpu i ddatblygu medrau bywyd craidd ac yn darparu cyd-destun ystyrlon ar gyfer dysgu. Yn yr enghreifftiau mwyaf effeithiol, roedd y gweithgareddau hyn yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â chymwysterau ffurfiol.
Mewn ychydig o ysgolion, roedd ehangder y cwricwlwm yn rhy gul neu nid oedd yn cynnwys pynciau pwysig fel gwyddoniaeth, y dyniaethau, iechyd a lles. Mewn ychydig iawn o achosion, nid oedd cynllunio cwricwlwm ar gyfer cyfnodau penodol, fel y blynyddoedd cynnar, wedi’i ddatblygu’n ddigonol ac nid oedd yn gydlynol. Roedd lleiafrif o ysgolion yn cynnig cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer cymwysterau neu achrediad a oedd yn cyd-fynd â galluoedd disgyblion. Roedd y cyfyngiadau hyn yn cyfyngu ar barodrwydd disgyblion ar gyfer y cyfnod dysgu nesaf neu gyflogaeth ac yn cyfrannu at beidio â chydymffurfio â’r Safonau Ysgolion Annibynnol.
Roedd medrau craidd, gan gynnwys cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd, yn cael eu datblygu’n dda yn y rhan fwyaf o ysgolion. Roedd ychydig ohonynt yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion gymhwyso’r rhain ar draws cyd-destunau, er enghraifft trwy gynllunio teithiau, ysgrifennu cylchlythyrau neu gymryd rhan mewn dadleuon strwythuredig. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd disgwyliadau ar gyfer llythrennedd a chymhwysedd digidol yn rhy isel neu’n cael eu hymwreiddio mewn modd anghyson. Roedd strategaethau darllen cynnar mewn llawer o leoliadau, ond nid oeddent yn cael eu cymhwyso’n gyson bob tro, yn enwedig ar gyfer disgyblion ag anghenion mwy cymhleth.
Roedd asesu’n cael ei ddefnyddio’n effeithiol i lywio cynllunio mewn llawer o ysgolion, Roedd gan yr ysgolion hyn systemau cadarn i olrhain cynnydd camau bach, a oedd yn aml yn cysylltu’n agos â deilliannau CDUau. Mewn ychydig o achosion, roedd prosesau asesu yn cael eu datblygu o hyd neu’n cael eu defnyddio’n anghyson ac nid oedd gan athrawon yr hyder i’w defnyddio i lywio’r camau nesaf neu werthuso effaith.
Roedd gwaith i ymwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn parhau yn y rhan fwyaf o ysgolion. Fodd bynnag, roedd y gwaith hwn yn y camau cynnar o hyd ac nid oedd eto wedi’i integreiddio’n llawn mewn arfer bob dydd. Mewn llawer o ysgolion, nid oedd cynnwys y cwricwlwm yn cefnogi disgyblion yn ddigon da i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o gydraddoldeb, amrywiaeth neu nodweddion gwarchodedig, gan gyfyngu ar eu hymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol ehangach.
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Ym mron pob ysgol, roedd lles yn ffocws canolog ac yn nodwedd gref o’r ddarpariaeth. Roedd llawer o ysgolion wedi mabwysiadu dulliau sy’n ystyriol o drawma a system ysgol gyfan, gyson i gefnogi ymddygiad. Roedd staff yn ymateb i ddisgyblion yn bwyllog ac yn ddibynadwy, gan ddefnyddio cymhorthion gweledol, cyd-reoleiddio a mewnbwn therapiwtig i’w helpu i reoli eu hemosiynau. Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, roedd timau addysg a therapi yn cydweithio’n agos â’i gilydd i gynllunio ac adolygu cymorth, yn aml trwy gyfarfodydd amlasiantaeth rheolaidd.
Roedd llais y disgybl yn nodwedd gref mewn llawr o ysgolion. Roedd cyfarfodydd rheolaidd, arolygon a rolau arweinyddiaeth yn helpu disgyblion i ddylanwadu ar fywyd yr ysgol a gwned penderfyniadau. Mewn ychydig o ysgolion, roedd disgyblion yn cyfrannu at newidiadau polisi neu ail-ddylunio mannau allweddol fel ardaloedd awyr agored neu ystafelloedd bwyta. Roedd hyn yn ategu ymdeimlad cryf o berchnogaeth a chymuned. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, nid oedd rolau arweinyddiaeth disgyblion wedi’u datblygu’n ddigonol. Yn yr ysgolion hyn, roedd dylanwad disgyblion ar benderfyniadau ysgol gyfan yn gyfyngedig.
Roedd presenoldeb yn dda yn y rhan fwyaf o ysgolion. Ym mwyafrif y rhain, roedd staff wedi cefnogi disgyblion i wella eu presenoldeb dros gyfnod, yn aml o fannau cychwyn isel iawn oherwydd ymddieithrio blaenorol neu orbryder. Yn gyffredinol, roedd ymddygiad yn cael ei reoli’n dda ar draws y sector, er, mewn ychydig o ysgolion, roedd anghysondeb o ran cymhwyso polisïau neu ddealltwriaeth staff yn cyfyngu ar effeithiolrwydd systemau.
Roedd addysg gyrfaoedd a pharatoi ar gyfer oedolaeth yn effeithiol yn y rhan fwyaf o ysgolion ac yn arbennig o gryf mewn ychydig ohonynt. Yn y lleoliadau hyn, roedd disgyblion yn manteisio ar raglenni gyrfaoedd personoledig, gan gynnwys ymweliadau â cholegau a chymwysterau galwedigaethol. Roedd hyn yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu camau nesaf a magu hyder mewn amgylcheddau newydd. Ar ben hynny, roedd menter a lleoliadau gwaith gwerthfawr yn helpu disgyblion i ddatblygu hyder ac ymwybyddiaeth o fyd gwaith.
Arwain a gwella
Lle arolygwyd arweinyddiaeth, canfuwyd ei bod yn effeithiol yn y rhan fwyaf o ysgolion, gyda gweledigaeth glir, perthnasoedd cryf a ffocws cynyddol ar werthuso a sicrhau ansawdd. Yn yr achosion cryfaf, roedd arweinwyr yn meithrin diwylliant o gydweithio, gwelliant parhaus ac atebolrwydd. Defnyddiwyd arsylwadau gwersi, adolygiadau data ac adborth gan randdeiliaid yn gynyddol i lywio cynlluniau datblygu. Yn gyffredinol, roedd staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi, ac roedd dysgu proffesiynol yn cyd-fynd yn well â blaenoriaethau’r ysgol nag mewn blynyddoedd blaenorol.
Roedd llawer o’r ysgolion a arolygwyd eleni wedi wynebu newidiadau diweddar o ran arweinyddiaeth. Lle’r oedd y rhain wedi’u rheoli’n dda, roeddent wedi arwain at rolau cliriach, systemau gwell ac roedd hyder staff wedi’i adnewyddu. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd gallu arweinwyr wedi’i ymestyn neu’n ymwreiddio o hyd. Yn yr achosion hyn, roedd diffyg trylwyredd mewn hunanwerthuso ac roedd cynllunio gwelliant yn adweithiol neu’n rhy eang.
Roedd effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu yn amrywio ar draws yr ysgolion. Mewn tua hanner yr ysgolion, roedd llywodraethwyr neu berchnogion yn cynnig her a chymorth effeithiol. Mewn rhai eraill, roedd goruchwyliaeth yn rhy gyfyngedig, yn enwedig lle’r oedd darparwyr yn gweithredu ar draws sawl lleoliad. Mewn ychydig iawn o achosion, roedd y diffyg goruchwyliaeth strategol hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at fethiannau systemig, gan gynnwys peidio â chydymffurfio â safonau diogelu neu safonau addysgu a dysgu.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn darparu’r gallu i fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol priodol. Roedd llawer ohonynt yn defnyddio arbenigedd mewnol a thimau therapi yn effeithiol i gyflwyno hyfforddiant wedi’i deilwra i anghenion disgyblion. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, roedd dysgu proffesiynol yn brin o gydlyniad neu’n methu mynd i’r afael â blaenoriaethau gwella’r ysgol. Ar ben hynny, nid oedd effaith hyfforddiant yn cael ei gwerthuso’n effeithiol bob tro, gan gyfyngu ar allu arweinwyr i farnu’r hyn a oedd yn gweithio’n dda neu ble roedd angen rhagor o gymorth.
Canfuwyd nad oedd ychydig o ysgolion yn cydymffurfio â’r Safonau Ysgolion Annibynnol adeg yr arolygiad. Yn yr ysgolion hyn, roedd diffyg cydymffurfio yn ymwneud ag ystod o feysydd rheoleiddiol. Roedd problemau cyffredin yn cynnwys gwendidau mewn cynllunio’r cwricwlwm, anghysondebau mewn polisïau diogelu ac ymddygiad a diffyg gweithredu, gwiriadau neu oruchwyliaeth briodol. Roedd y diffygion rheoleiddiol hyn yn cyfyngu ar hawl disgyblion i addysg ddiogel a chynhwysfawr ac yn amlygu’r angen am sicrhau ansawdd a systemau gweithredu mwy cadarn.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Ym mlwyddyn academaidd 2024-2025, cynhaliodd Estyn wyth arolygiad craidd a chwe arolygiad monitro o ysgolion arbenigol ADY annibynnol.
- Rhoddwyd argymhelliad i naw ysgol (64%) i wella neu fireinio sicrhau ansawdd, hunanwerthuso neu gynllunio gwelliant. Rhoddwyd argymhelliad i wyth ysgol (57%) i ddatblygu neu fireinio eu cwricwlwm.
- Rhoddwyd argymhelliad i chwe ysgol (43%) gryfhau naill ai dysgu proffesiynol neu ansawdd a chysondeb yr addysgu.
- Rhoddwyd argymhelliad i bedair ysgol (29%) gydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024. Cafodd tair ysgol (21%) argymhellion yn ymwneud â diogelu.
- Cafodd sawl ysgol argymhellion unigol yn ymwneud ag agweddau penodol ar ddarpariaeth. Roedd y rhain yn cynnwys gwella presenoldeb disgyblion (tair ysgol, 21%), cyfathrebu â rhieni (un ysgol, 7%), ymddygiad ac agweddau at ddysgu (un ysgol, 7%) a hybu medrau annibyniaeth disgyblion (un ysgol, 7%).
Nid oedd unrhyw wahaniaethau clir yn natur yr argymhellion rhwng arolygiadau craidd ac arolygiadau monitro, gan awgrymu set gyson o flaenoriaethau gwella ar draws y sector.