Ysgolion prif ffrwd annibynnol
Adroddiad sector 2024 - 2025
Data Ysgolion
35
Nifer yr ysgolion yn 2025
Safonau Ysgolion Annibynnol
Mewn ysgolion annibynnol, rydym yn arolygu i ba raddau y mae’r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.
Nifer yr ysgolion a arolygwyd nad oeddent yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.
2024-2025: 5
Gweithgarwch arolygu
Nifer yr arolygiadau craidd: 7
Nifer yr arolygiadau monitro: 6
Nifer y newidiadau sylweddol: 7
Nifer yr ymweliadau dilynol ar ôl cofrestru: 1
Cipluniau
Nifer y cipluniau : 5
Christ College – Y System Dai a rhaglen ‘Futures Programme’
Myddelton College – Dysgu trwy’r awyr agored
OneSchool Global Newton Campus – Dysgu i ddysgu
Ruthin School – Cynllunio cyfleoedd dysgu effeithiol i baratoi disgyblon ar gyfer bywyd fel oedolyn
Crynodeb
Er mis Medi 2024, mae pob ysgol gofrestredig yn cael o leiaf un arolygiad craidd ac un arolygiad monitro yn ystod y cylch chwe blynedd. Mae’r ddau fath o arolygiad yn gwerthuso cydymffurfiaeth yr ysgol â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024. Mae arolygiadau craidd hefyd yn gwerthuso’r ysgol yn erbyn y fframwaith arolygu cyffredin, ac mae arolygiadau monitro’n gwerthuso cynnydd yr ysgol yn erbyn argymhellion yr ymweliad blaenorol.
Roedd bron pob un o’r ysgolion a arolygwyd yn meithrin amgylcheddau dysgu brwdfrydig a pharchus lle’r oedd disgyblion yn ffynnu. Roedd perthnasoedd cryf rhwng staff a disgyblion yn annog trafodaethau diogel yn yr ystafell ddosbarth a mentro’n ddeallusol. Roedd athrawon yn dangos arbenigedd pwnc cadarn, gydag un ysgol yn cyflwyno addysgu o ddyfnder a her ddeallusol eithriadol. Mewn lleoliadau cynradd, roedd addysgu yn y medrau craidd yn gyson gryf, gyda hanner y lleoliadau’n integreiddio’r rhain yn llwyddiannus ar draws y cwricwlwm. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn cefnogi annibyniaeth a datrys problemau disgyblion ond, mewn lleiafrif ohonynt, roedd dulliau a arweiniwyd yn ormodol gan athrawon yn cyfyngu ar ymgysylltiad. Roedd y defnydd o asesu yn anghyson mewn ychydig o ysgolion.
Roedd lles disgyblion yn gryfder ym mron pob un o’r ysgolion, wedi’i gefnogi gan amgylcheddau cynhwysol a staff yr oedd disgyblion yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio offer digidol yn dda i gefnogi eu gwaith diogelu. Roedd arweiniad gyrfaoedd yn gryf mewn ychydig o ysgolion ac yn effeithiol mewn mannau eraill. Roedd llais y disgybl yn cael dylanwad gwirioneddol mewn llawer o ysgolion ac roedd presenoldeb yn uchel yn y rhan fwyaf ohonynt.
Roedd arweinyddiaeth yn effeithiol yn y rhan fwyaf o ysgolion, wedi’i llywio gan weledigaethau clir a rheolaeth weithredol gref. Roedd llywodraethu’n cefnogi gwelliant mewn llawer o ysgolion, er bod cyfeiriad strategol ychydig ohonynt yn brin o eglurder a chydlyniad. Roedd datblygiad proffesiynol yn cyd-fynd â blaenoriaethau yn y rhan fwyaf o ysgolion ond yn brin o gydlyniad mewn un ohonynt. Roedd angen gwella hunanwerthuso mewn lleiafrif o ysgolion. Nid oedd pum ysgol yn bodloni’r Safonau Ysgolion Annibynnol, yn bennaf oherwydd methiannau o ran recriwtio diogel neu ddiogelwch y safle.
Addysgu a dysgu
Ym mron pob un o’r ysgolion, roedd disgyblion yn ffynnu mewn amgylcheddau a oedd yn meithrin brwdfrydedd ac ymgysylltiad â dysgu. Roedd bron pob un o’r disgyblion yn teimlo eu bod yn cael cymorth da gan staff, a oedd nid yn unig yn eu hannog i wneud eu gorau, ond hefyd yn meithrin diwylliant o ddisgwyliadau uchel a pharch rhwng y naill a’r llall. O ganlyniad, roedd bron pob un o’r disgyblion yn dangos ymddygiad rhagorol ac agweddau cadarnhaol at eu dysgu.
Roedd y perthnasoedd parchus ac ymddiriedus a sefydlwyd gan staff ym mron pob un o’r ysgolion a arolygwyd eleni yn helpu i greu ystafelloedd dosbarth lle’r oedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel i gyfrannu syniadau, gofyn cwestiynau a mentro’n ddeallusol heb ofn gael eu barnu. Yn yr ysgolion hyn, roedd disgyblion yn elwa ar staff a oedd yn dangos arbenigedd pwnc cryf a dealltwriaeth glir o ofynion arholiadau cyhoeddus. Mewn ychydig iawn o ysgolion a arolygwyd eleni, roedd yr arbenigedd hwn yn rhagorol ac yn galluogi disgyblion i ymgysylltu’n hyderus â chynnwys academaidd uwch a heriol.
Roedd dyheadau uchel ar gyfer disgyblion yn gyffredin ar draws y rhan fwyaf o ysgolion. Mewn llawer o ysgolion, roedd disgyblion yn dangos gallu nodedig i reoli eu dysgu eu hunain. Datblygwyd y cryfder hwn yn dda trwy fodelau dysgu wedi’u llunio’n dda a dulliau meddylgar gan athrawon a oedd yn hybu datrys problemau ac annibyniaeth.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion â lleoliadau cynradd, roedd addysgu medrau sylfaenol fel darllen, ysgrifennu a mathemateg o ansawdd cyson uchel. Aeth tua hanner y lleoliadau cynradd a arolygwyd hyd yn oed ymhellach, gan rymuso disgyblion i gymhwyso’r medrau hanfodol hyn yn hyderus ar draws y cwricwlwm ehangach.
Roedd dwy o’r ysgolion a arolygwyd eleni yn derbyn disgyblion â chynlluniau datblygu unigol (CDUau) neu gynlluniau gofal iechyd addysg (EHCPau). Yn yr ysgolion hyn, roedd anghenion a diddordebau disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu bodloni’n effeithiol.
Mewn llawer o ysgolion, roedd adborth llafar, holi teilwredig a chymorth personoledig gan athrawon yn helpu’r rhan fwyaf o ddisgyblion i wneud cynnydd cadarn yn ystod gwersi. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, roedd gwersi’n cael eu harwain yn ormodol gan athrawon, gan gyfyngu ar gyfleoedd i drafod, meddwl yn annibynnol a defnyddio uwch fedrau meddwl. Yn yr ysgolion hyn, roedd anghysondebau hefyd yn y ffordd yr oedd dysgu’n cael ei addasu i fodloni anghenion amrywiol disgyblion, yn enwedig y rhai mwy abl. Mewn ychydig o ysgolion, roedd casglu a defnyddio gwybodaeth asesu mewn modd anghyson neu aneffeithiol yn llesteirio gallu athrawon i fesur cynnydd disgyblion yn gywir.
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Ym mron pob un o’r ysgolion, roedd disgyblion yn elwa ar amgylchedd meithringar a chynhwysol a oedd yn hybu lles emosiynol a thwf academaidd. Roedd y sylfaen fugeiliol gref hon yn helpu i feithrin ymdeimlad o ddiogelwch a pherthyn ymhlith disgyblion, ac roedd bron pob un ohonynt yn ymfalchïo yng nghymunedau eu hysgolion. Roedd bron pob un o’r disgyblion yn trin ei gilydd, staff ac ymwelwyr gyda pharch yn gyson, gan adlewyrchu gwerthoedd a diwylliant cadarnhaol yr ysgolion.
Roedd y pwysigrwydd a roddir ar les disgyblion yn amlwg ym mron pob un o’r ysgolion lle’r oedd systemau bugeiliol cryf ac effeithiol wedi’u hymwreiddio’n dda. Roedd staff yn oedolion dibynadwy yr oedd disgyblion yn teimlo’n gyfforddus yn mynd atynt os oeddent yn poeni neu’n ofidus. Roedd mwyafrif yr ysgolion a arolygwyd eleni yn defnyddio platfformau digidol yn ddychmygus i ddarparu sianeli hygyrch i ddisgyblion geisio cymorth neu roi gwybod am bryderon, gan gryfhau’r diwylliant diogelu.
Mewn ychydig o’r ysgolion a arolygwyd, roedd arweiniad o ansawdd uchel iawn a oedd yn galluogi disgyblion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Ym mhob ysgol arall, roedd cyngor gyrfaoedd o leiaf yn briodol ac yn effeithiol. Fodd bynnag, mewn ychydig iawn o ysgolion, roedd addysg bersonol a chymdeithasol ffurfiol yn gyfyngedig ac nid oedd paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn wedi’i ddatblygu’n ddigonol.
Roedd rolau arweinyddiaeth disgyblion a dulliau strwythuredig yn ymwneud â llais y disgybl wedi’u datblygu’n dda mewn llawer o’r ysgolion a arolygwyd eleni. Roedd y cyfleoedd hyn yn ystyrlon ac yn bwrpasol, gan roi grym i ddisgyblion a chael dylanwad cadarnhaol, sylweddol ar fywyd a gwaith yr ysgol.
Roedd presenoldeb disgyblion yn gryfder mewn llawer o’r ysgolion a arolygwyd eleni, gan adlewyrchu mwynhad disgyblion o’r ysgol a’u hymrwymiad i ddysgu.
Arwain a gwella
Yn ystod arolygiadau craidd, roedd y rhan fwyaf o arweinwyr yn hybu gweledigaeth glir ac uchelgeisiol a oedd yn rhoi blaenoriaethu i lwyddiant disgyblion ac yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer staff. Trwy eu hymrwymiad, roedd arweinwyr yn yr ysgolion hyn yn creu a chynnal cymunedau cydlynol lle’r oedd cydweithio’n ffynnu ac roedd ffocws cyfunol cryf ar wella deilliannau i bob disgybl.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd y weledigaeth hon yn cael ei throsi’n rheolaeth weithredol effeithiol, lle’r oedd penderfyniadau o ddydd i ddydd yn cyd-fynd yn agos â nodau strategol hirdymor. Roedd arweinwyr yn yr ysgolion hyn yn dangos cryfder sefydliadol a’r gallu i lywio cymhlethdodau bywyd ysgol gydag eglurder a phwrpas.
Mewn arolygiadau craidd, roedd trefniadau llywodraethu cadarn yn ategu gwaith arweinwyr yn dda mewn llawer o ysgolion. Yn yr ysgolion hyn, roedd llywodraethwyr yn wybodus ac yn ymgysylltiedig ac yn cynnig lefelau priodol o her adeiladol, gan gyfrannu’n gadarnhaol at gyfeiriad strategol yr ysgol. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, nid oedd llywodraethwyr yn defnyddio dull strategol bob tro nac yn ysgogi gwelliant ysgol gyfan yn gyson.
Roedd datblygiad proffesiynol yn gryfder mewn llawer o ysgolion ac yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau gwella’r ysgol a thargedau unigol. Fodd bynnag, mewn ychydig iawn o ysgolion, nid oedd gan ddatblygiad proffesiynol y ffurfioldeb na’r cydlyniad angenrheidiol i sicrhau newid strategol, ystyrlon.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd diwylliant o hunan-wella wedi’i ymwreiddio, a oedd yn atgyfnerthu safonau uchel yr ysgolion ac yn cefnogi staff i fireinio eu harfer yn effeithiol. Fodd bynnag, cafodd lleiafrif o ysgolion argymhellion i wella eglurder gwaith hunanwerthuso er mwyn sicrhau ei fod yn nodi’n gywir feysydd o waith yr ysgol a allai elwa ar gael eu gwella.
Nid oedd pump o’r ysgolion a arolygwyd eleni yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024. Mewn pedair o’r ysgolion hyn, roedd hyn yn ymwneud â methu cadw i fyny â newidiadau i’r ddeddfwriaeth, yn enwedig yn ymwneud â recriwtio mwy diogel. Mewn dwy o’r ysgolion hyn, roedd problemau’n ymwneud â’r adeiladau neu ddiogelwch ac addasrwydd cyffredinol y safle.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Yn y sector hwn, rydym yn rhoi argymhellion ar gyfer arolygiadau craidd ac arolygiadau monitro. Ar draws yr holl weithgarwch arolygu yn 2024-2025, rhoddom gyfanswm o 31 o argymhellion ar draws y 13 o ysgolion a arolygwyd.
- Rhoddwyd argymhelliad i gyfanswm o wyth o ysgolion (62%) yn ymwneud ag addysgu a dysgu, gan ganolbwyntio ar wella cysondeb ac ansawdd yr addysgu, defnyddio asesu’n fwy effeithiol i lywio addysgu a chyfoethogi’r cwricwlwm i gefnogi cynnydd ac ymgysylltiad disgyblion.
- Rhoddwyd argymhelliad i un ysgol (8%) yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad, gan ganolbwyntio ar gryfhau’r modd y mae’r ysgol yn hybu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
- Rhoddwyd argymhelliad i gyfanswm o 11 o ysgolion (85%) yn ymwneud ag arwain a gwella. O’r rheiny, nid oedd pedair ohonynt yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 ac fe’u rhoddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol. Ar gyfer yr ysgolion hyn, un o’u hargymhellion ym maes arolygu 3 oedd cydymffurfio’n llawn â’r Safonau Ysgolion Annibynnol.