Colegau arbenigol annibynnol – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Colegau arbenigol annibynnol

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Addysgu a dysgu

Mae colegau arbenigol annibynnol yn darparu profiadau dysgu uchelgeisiol wedi’u personoli’n helaeth sy’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu annibyniaeth a medrau cyfathrebu, cymdeithasol a galwedigaethol. Mae pob un o’r pedwar coleg a arolygwyd yn darparu cyfleoedd dysgu ymarferol, mewn cyd-destunau go iawn sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd fel oedolion a’u cyrchfannau yn y dyfodol. Mae dysgwyr yn elwa ar gwricwlwm sy’n cael eu teilwra fwyfwy i’w diddordebau, eu dyheadau a’u hanghenion unigol. Fodd bynnag, mewn dau goleg, mae anghysondebau mewn addysgu, cymorth dysgu, asesu neu ymagweddau cyfathrebu yn cyfyngu ar gynnydd dysgwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae pob un o’r pedwar coleg yn darparu cwricwlwm eang a phwrpasol sy’n datblygu annibyniaeth, medrau cyflogadwyedd a medrau bywyd trwy brofiadau dysgu ymarferol a chyfleoedd cysylltiedig â gwaith.
  • Mae pob un o’r pedwar coleg yn rhoi pwyslais cryf ar baratoi dysgwyr ar gyfer bywyd fel oedolion trwy gyfranogiad yn y gymuned, dysgu galwedigaethol, hyfforddiant teithio a phrofiad gwaith.
  • Mewn tri chwarter o’r colegau, mae’r staff addysgu yn cynllunio gweithgareddau dysgu’n effeithiol sy’n cyfateb yn dda i anghenion a diddordebau dysgwyr.
  • Yn hanner y colegau, mae ymagweddau cyfathrebu cryf, sy’n cael eu gweithredu’n gyson, yn lleihau rhwystrau rhag dysgu a chyfranogi.
  • Mae dysgwyr yn dangos ymgysylltiad, cymhelliant a chyfranogiad cadarnhaol mewn gweithgareddau dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Yn hanner y colegau, mae ansawdd yr addysgu, cymorth yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau dysgu yn amrywio ac yn anghyson.
  • Mewn tri o’r pedwar coleg, mae gosod targedau, trefniadau asesu neu ymagweddau at fesur cynnydd dysgwyr yn dal ar gamau cynnar o ran cael eu gwreiddio.
  • Mewn un coleg, mae cyflwyno’r cwricwlwm yn dibynnu gormod ar achredu neu weithgareddau sy’n seiliedig ar daflenni gwaith, gan leihau cyfleoedd ar gyfer her ac ymgysylltiad dysgwyr.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae pob coleg yn darparu amgylcheddau gofalgar, parchus a chynhwysol lle mae staff yn adnabod dysgwyr yn dda ac yn rhoi eu lles wrth wraidd y ddarpariaeth. Yn gyffredinol, mae dysgwyr yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu, yn ymgysylltu’n dda â staff a’u cymheiriaid ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau sy’n cefnogi eu datblygiad personol. Mae cymorth therapiwtig a chyfathrebu yn gryfderau ar draws y sector, er bod angen i ddau goleg gryfhau pa mor gyson y maent yn cyflwyno’r ymagweddau hyn.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae staff yn adnabod dysgwyr yn arbennig o dda ac yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol llawn ymddiriedaeth sy’n cefnogi ymgysylltiad a lles.
  • Mae’r ddarpariaeth yn dawel ac yn gefnogol, ac mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.
  • Mae dysgwyr yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu, ymgysylltiad ac ymddygiad.
  • Mae llais y dysgwr yn gryfder nodedig, gyda dysgwyr yn cyfrannu’n bwrpasol at wneud penderfyniadau a gwella’r coleg.
  • Mae pob coleg yn dangos diwylliant diogelu cryf, wedi’i gefnogi gan hyfforddiant priodol a threfniadau goruchwylio.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn dau goleg, nid yw strategaethau therapiwtig yn cael eu gweithredu’n ddigon cyson.

Arwain a gwella

Mae arweinwyr yn dangos ymrwymiad cryf i wella deilliannau a chyfleoedd bywyd i ddysgwyr. Mae cydweithio cryf rhwng timau addysg, gofal a therapi yn gryfder cyson. Fodd bynnag, mae tri o’r pedwar coleg yn dal i wreiddio prosesau hunanwerthuso a sicrhau ansawdd.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae pob coleg yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig ag anghenion cymhleth dysgwyr a blaenoriaethau’r sefydliad.
  • Mae hanner y colegau yn dangos cydweithio amlasiantaethol arbennig rhwng timau addysg, gofal a therapi.
  • Mae tri o’r pedwar coleg wedi buddsoddi’n sylweddol mewn amgylcheddau dysgu, adnoddau neu strwythurau staffio.

Beth sydd angen ei wella

  • At ei gilydd, roedd gormod o amrywiaeth yn effeithiolrwydd ac effaith trefniadau sicrhau ansawdd, ac nid oedd colegau’n canolbwyntio’n ddigon da ar werthuso effaith y ddarpariaeth ar ddeilliannau dysgwyr.
  • Mewn un coleg, roedd gwendidau mewn trefniadau cynllunio strategol a rheoli perfformiad.
  • Mae angen i dri o’r colegau gryfhau’r modd y mae polisïau a gweithdrefnau’n cyd-fynd â deddfwriaeth, arweiniad a chyd-destun Cymru.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn 2025–2026, arolygom 4 coleg arbenigol annibynnol trwy 3 ymweliad monitro ac 1 arolygiad craidd.

  • Cafodd un darparwr argymhellion yn ymwneud ag addysgu a dysgu. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar wella ansawdd a chysondeb addysgu ac asesu, a gwella cysondeb cymorth dysgu er mwyn gwella cynnydd mewn dysgu ac annibyniaeth.
  • Cafodd pob un o’r pedwar darparwr argymhellion yn ymwneud ag arwain a gwella. Cafodd dau ddarparwr argymhellion yn ymwneud â sicrhau bod polisïau a dogfennau’n cyd-fynd â deddfwriaeth ac arweiniad Cymru. Cafodd tri darparwr argymhellion yn ymwneud ag arferion sicrhau ansawdd a hunanwerthuso. Cafodd un darparwr argymhelliad yn ymwneud â gwella arweinyddiaeth strategol ar bob lefel.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Beechwood College

Darllenwch sut mae Beechwood College yn darparu arlwy cwricwlwm uchelgeisiol i ddysgwyr.

Coleg Plas Dwbl

Darllenwch sut mae Coleg Plas Dwbl yn datblygu medrau cyfathrebu dysgwyr trwy ei ymagweddau cyfathrebu.