Question 1Do teachers ask you what you would like to learn about? Can you give examples?Question 1Question 1Do teachers ask you what you would like to learn about? Can you give examples?Sut mae disgyblion yn dylanwadu ar beth a sut maen nhw'n dysgu

Beth ydy hwn?

Bob blwyddyn, mae Prif Arolygydd ysgolion Cymru yn ysgrifennu adroddiad ar yr hyn mae arolygwyr wedi'i ganfod wrth i ni arolygu ysgolion a darparwyr addysg eraill.

Mae'r safle yma'n cynnwys adnoddau y gall grwpiau disgyblion neu Gynghorau Ysgol eu defnyddio i drafod pynciau penodol neu i feddwl pa mor effeithiol ydyn nhw wrth eu gwaith.

Rydym wedi creu rhai egwyddorion i gynghorau ysgol. Mae’r rhain wedi’u hanelu at ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd, ond gellid eu haddasu i’w defnyddio â disgyblion cynradd.

Rydym wedi dewis ambell bwnc sydd wedi codi yn yr Adroddiad Blynyddol rydym yn meddwl y byddai disgyblion â diddordeb yn eu trafod. Cofiwch lawrlwytho'r ffurflenni i wneud nodyn o'ch syniadau a'ch gweithredoedd.

Sut i ddefnyddio

Symudwch drwy'r ysgol gan ddefnyddio naill ai'r bar sgrolio neu'r bysellau saeth chwith/dde ar eich bysellfwrdd.

Pan welwch y marc cwestiwn mawr, cliciwch arno i ddatgelu cwestiwn. Trafodwch y cwestiwn ymhlith eich gilydd.

Beth ddylen ni drafod?

Sut mae disgyblion yn dylanwadu ar beth a sut maen nhw'n dysgu.

Pam ddylen ni drafod hyn?

Mae eich athrawon wir eisiau gwybod beth sydd yn ennyn eich diddordeb chi a'r ffordd rydych chi'n hoffi dysgu. Maen nhw'n gwybod y byddwch chi'n dysgu orau pan fyddwch chi'n gweld eich gwersi yn hwyl ac yn ddiddorol. Drwy wneud awgrymiadau am beth a sut rydych chi’n dysgu, byddwch chi’n helpu eich athrawon i’ch helpu chi a phlant eraill i ddysgu'n well.

Cau

Mae ffurflen i chi wneud nodiadau. Cliciwch ar ‘Lawrlwytho Dogfennau’ i weld hon.

Cau

Cwestiwn 1

A yw athrawon yn gofyn i chi beth hoffech chi ddysgu amdano? Fedrwch chi roi enghreifftiau?

Cau

Cwestiwn 2

Ydy athrawon yn gofyn i chi sut hoffech chi ddysgu? Er enghraifft, drwy fynd ar drip, siarad ag ymwelwyr arbennig a phobl yn y gymuned, neu drwy gynnal arbrawf.

Cau

Cwestiwn 3

Ydy athrawon yn gwrando ar eich awgrymiadau? Allwch chi feddwl am enghreifftiau lle rydych chi wedi gwneud awgrym ac mae athrawon wedi gwneud i hyn ddigwydd?

Cau

Cwestiwn 4

Ydy pawb yn cael cyfle i wneud awgrymiadau?

Cau

Cwestiwn 5

Ydych chi erioed wedi cynllunio gwers neu weithgaredd gyfan?

Cau

Cwestiwn 6

Pan fyddwch chi'n helpu i gynllunio eich dysgu, ydych chi'n gwneud yn siwr nad yw'r gwaith yn rhy galed neu'n rhy rhwydd i bawb?

Cau

Cwestiwn 7

Pan fyddwch chi'n cynllunio eich gweithgareddau, ydyn nhw’n eich helpu chi i fod yn fwy:

  • Uchelgeisiol a galluog
  • Mentrus a chreadigol
  • Moesegol a gwybodus
  • Iach a hyderus
Cau

Cwestiwn 8

Ydych chi'n siarad â phlant eraill yn eich dosbarth a'r athro am yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu, pa weithgareddau wnaeth weithio'n dda a'r hyn y gallech ei wella y tro nesaf? Ydych chi'n cael cyfle i siarad am beth rydych chi'n ei ddysgu gyda phobl o'ch cartref?

Cau

Cwestiwn 9

Ydych chi byth yn cael cyfle i helpu plant yn eich dosbarth neu ddosbarthiadau eraill gyda'u dysgu?

Cau

Cwestiwn 10

Ydy'r pethau hyn yn digwydd yn yr holl ddosbarthiadau yn eich ysgol chi?

Cau

Beth allwch chi wneud nesaf?

  • Trefnwch gyda'ch athro i siarad â disgyblion mewn dosbarthiadau eraill, neu ysgolion eraill, am sut maen nhw'n ymwneud â chynllunio beth a sut maen nhw'n dysgu.
  • Crewch arolwg i ddarganfod pa weithgareddau y mae'r plant yn eich ysgol yn eu mwynhau a'r pynciau sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
  • Siaradwch â'ch gilydd a'ch athro am ffyrdd y gallwch rannu eich dysgu gyda phlant eraill yn eich dosbarth, eich rhieni, a'r gymuned.
Cau