Adfer ar ôl COVID-19
Ar draws pob sector, roedd effaith y pandemig COVID-19 yn parhau i gael ei theimlo ar hyd blwyddyn academaidd 2021-2022. Roedd yr effaith hon yn amlwg trwy barhad cyfyngiadau gweithredol a hylendid, fel y gofyniad i wisgo masgiau. Llaciodd y cyfyngiadau hyn yn raddol wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, ond wrth i ddarparwyr droi at ffordd fwy ‘arferol’ o weithredu, daeth effaith lawn y flwyddyn a hanner blaenorol ar ddysgwyr, staff a gwaith cyffredinol darparwyr yn fwy amlwg.
Mewn cyferbyniad â’r flwyddyn flaenorol, ni chafwyd unrhyw gyfnodau clo cenedlaethol, ond fe wnaeth achosion o COVID-19 ymhlith dysgwyr a staff achosi tarfu ar addysgu, dysgu a pharhad darpariaeth trwy gydol y flwyddyn. Bu’n rhaid i rai ysgolion a lleoliadau eraill anfon grwpiau blwyddyn neu ddosbarthiadau adref oherwydd problemau staffio yn dilyn achosion o COVID-19, ac roedd darparwyr yn cael anhawster dod o hyd i staff cyflenwi. Roedd hyn yn her arbennig adeg y cynnydd yn yr achosion o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru ar ôl y Nadolig, a chynnydd pellach mewn achosion yn nhymor yr haf. Effeithiodd hyn ar ddysgwyr mewn ysgolion arbennig ac UCDau yn benodol, wrth iddynt ei chael hi’n anodd sefydlu perthnasoedd gyda staff anghyfarwydd. Cafodd y pandemig effaith negyddol ar gynnydd llawer o ddysgwyr ar draws y rhan fwyaf o sectorau, yn enwedig y rheiny o gefndiroedd difreintiedig.
Canlyniad ychwanegol y pandemig oedd recriwtio, yn enwedig i rolau staff cymorth, gan gynnwys rolau gweinyddol a chynorthwywyr addysgu. Yn aml, roedd darparwyr yn gweld eu hunain yn cystadlu yn erbyn swyddi a oedd yn talu cyflogau tebyg neu gyflogau gwell, ond heb allu cynnig hyblygrwydd gweithio o gartref, ac o ganlyniad roeddent yn cael anhawster denu ymgeiswyr. Roedd hon yn her nodedig i leoliadau nas cynhelir lle’r oedd staff wedi cael cyflogaeth arall pan oeddent ar gau yn ystod y pandemig. Roedd recriwtio staff Cymraeg eu hiaith yn parhau yn her ar draws yr holl sectorau.
Yn y rhan fwyaf o sectorau, roedd dysgwyr yn croesawu dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, ac yn gyffredinol, roedd yn well ganddynt hynny na darpariaeth ar-lein. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn ysgolion, colegau, darparwyr AGA (Addysg Gychwynnol Athrawon, dysgu yn y sector cyfiawnder a dysgu yn y gwaith, lle’r oedd ymgysylltu â dysgu yn well nag yn ystod cyfnodau dysgu o bell. Mewn dysgu oedolion, gan gynnwys Cymraeg i Oedolion, roedd llawer o ddysgwyr yn hoffi’r hyblygrwydd yr oedd darpariaeth ar-lein yn ei chynnig, a theimlent fod hynny’n cydweddu’n dda â’u ffyrdd o fyw. Roeddent yn teimlo hefyd fod dysgu ar-lein yn fuddiol i’w hiechyd meddwl a’u lles yn gyffredinol. Fel yn Lloegr, bu cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr a ddewisodd gael eu haddysgu gartref, yn dilyn y pandemig. Er mai darpariaeth wyneb yn wyneb oedd yn well gan ddysgwyr yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o sectorau, roedd darparwyr yn gweld manteision cynnal agweddau ar weithio ar-lein, yn enwedig ar gyfer dysgu proffesiynol staff a chyfarfodydd. Fe wnaeth staff ar draws sectorau wella’u gallu i gyflwyno dysgu o bell. Dechreuodd darparwyr mewn sectorau fel AGA, addysg bellach a dysgu yn y gwaith ystyried sut y gallent gadw agweddau ar ddysgu o bell yn eu darpariaeth.
Roedd rhai nodweddion cyffredin yn gysylltiedig â’r pandemig a oedd yn amlwg ar draws yr holl sectorau neu nifer o sectorau. Roedd y rhain yn cynnwys agweddau cadarnhaol, fel:
- Fe wnaeth arweinwyr ar draws sectorau ymateb gydag ystwythder i’r pandemig, gan addasu eu darpariaeth yn rheolaidd ac yn greadigol i fodloni cyfyngiadau a oedd newid yn gyson. Wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, fe wnaeth llawer o ddarparwyr ailgyflwyno gweithgareddau yr effeithiodd y cyfyngiadau arnynt, fel gweithgareddau mewn pynciau ymarferol, cyfleoedd allgyrsiol a theithiau.
- Rhoddwyd ffocws cryf ar les dysgwyr a staff. Arweiniodd hyn at ddarpariaeth gynyddol a mwy amrywiol ar gyfer cefnogi lles yn y rhan fwyaf o sectorau.
- Dros y flwyddyn, a chan ddychwelyd at addysg fwy ‘arferol’, fe wnaeth llawer o’r ‘materion’ a waethygwyd gan y pandemig, fel y dirywiad ym medrau llefaredd a medrau cymdeithasol dysgwyr, neu orbryder dysgwyr, ddangos gwelliant graddol, ond roeddent yn parhau o hyd.
- Yn gyffredinol, arweiniodd cyfathrebu gwell a mwy helaeth yn ystod y pandemig at berthnasoedd gwell â dysgwyr, rhieni a gofalwyr, a dealltwriaeth well ymhlith darparwyr o’r teuluoedd a’r cymunedau yr oeddent yn eu gwasanaethu.
Roedd nifer o faterion cyffredin a effeithiodd ar ystod o sectorau hefyd:
- Bu cynnydd cyffredinol yn y galw am gymorth ar gyfer materion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar draws y rhan fwyaf o sectorau.
- Parhaodd cyfraddau presenoldeb, mewn ysgolion ac UCDau yn benodol, islaw’r lefelau cyn y pandemig, ac roedd materion yn ymwneud ag absenoldeb parhaus yn fwy ystyfnig ac anodd i fynd i’r afael â nhw nag yn flaenorol.
- At ei gilydd, effeithiodd y pandemig yn andwyol ar fedrau llythrennedd a rhifedd llawer o blant a phobl ifanc, er iddynt ddechrau gwella’n gyflym wrth ddychwelyd at addysg wyneb yn wyneb. Roedd hyn yn llai o fater i ddysgwyr yn y chweched dosbarth a dysgwyr sy’n oedolion, a ymgysylltodd yn dda â’u dysgu yn ystod y pandemig, yn gyffredinol. Adroddodd darparwyr yn y sectorau addysg bellach a dysgu yn y gwaith fod gan ddysgwyr lefelau medrau llythrennedd a rhifedd is, yn gyffredinol, wrth iddynt ddechrau cyrsiau, na chyn y pandemig. Y bylchau yn eu dysgu dros y flwyddyn a hanner blaenorol oedd i gyfrif am hyn yn bennaf.
- Roedd y dirywiad ym medrau llefaredd dysgwyr yn peri pryder arbennig mewn ysgolion a lleoliadau nas cynhelir, yn enwedig ar gyfer y plant ieuengaf, er i hyn wella, yn gyffredinol, wrth ddychwelyd at ddarpariaeth wyneb yn wyneb.
- Effeithiwyd yn negyddol ar allu a pharodrwydd dysgwyr i ddefnyddio Cymraeg llafar gan gyfnodau hir o ddiffyg cyswllt â’r iaith. Mewn darparwyr cyfrwng Cymraeg a Saesneg, nid oedd gan lawer o ddysgwyr yr hyder i siarad Cymraeg wrth iddynt ddychwelyd, gan mai drwy eu darparwr addysgol fu eu prif gyswllt â’r iaith erioed. Mewn ysgolion uwchradd yn benodol, bu dirywiad cyffredinol yn y defnydd o’r Gymraeg rhwng cyfoedion. Rhoddodd llawer o ddarparwyr cyfrwng Cymraeg bwyslais cryf ar wella Cymraeg llafar dysgwyr, a chafodd hynny effaith gadarnhaol.
- Mewn llawer o sectorau, cafwyd effaith negyddol nodedig ar fedrau cymdeithasol rhai dysgwyr, yn enwedig yn nhymor cyntaf y flwyddyn academaidd. Er enghraifft, mewn lleoliadau nas cynhelir, bu cynnydd yn nifer y plant â medrau cymdeithasol a phersonol llai datblygedig, a oedd yn ei chael hi’n anodd rhannu a chwarae â phlant eraill. Mewn ysgolion arbennig, UCDau a’r sector cyfiawnder, roedd ychydig o ddysgwyr yn cael trafferth ailgydio ag arferion mwy normal. Mewn ysgolion uwchradd, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn cael anawsterau ailymgysylltu â bywyd a disgwyliadau ysgol, gan arwain at gynnydd mewn materion ymddygiad yn y tymor cyntaf yn arbennig.
- Ar gyfer sectorau a oedd yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, arweiniodd y pandemig at arafu cynnydd ar ddiwygio’r cwricwlwm mewn rhai darparwyr. Roedd hyn yn wir mewn ychydig o ysgolion cynradd a llawer o ysgolion uwchradd, lle mae graddfa amser y ddeddfwriaeth yn ymwneud â chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn wahanol. Golygai hyn fod myfyrwyr ar gyrsiau AGA wedi cael profiadau amrywiol iawn o ddiwygio’r cwricwlwm, gan ddibynnu ar yr ysgolion yr oeddent wedi’u lleoli ynddynt.
- Cafodd cyfyngiadau’n gysylltiedig â’r pandemig effaith sylweddol ar addysg alwedigaethol a phynciau a phrofiadau ymarferol. Mewn dysgu yn y gwaith ac addysg bellach, arweiniodd cyfyngiadau ar asesiadau ymarferol a lleoliadau gwaith at ôl-groniad o gymwysterau anghyflawn a diffyg profiadau ymarferol. Effeithiodd y cyfyngiadau’n ddifrifol hefyd ar bynciau fel cerddoriaeth, dylunio a thechnoleg ac addysg gorfforol.
- Ar draws sectorau, ailgydiodd llawer o ddarparwyr yn raddol ag agweddau ar eu prosesau hunanwerthuso a sicrhau ansawdd a gafodd eu hoedi oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, roedd ychydig o ddarparwyr ar draws pob sector yn araf yn ailgydio â’r gwaith hwn, a arweiniodd at fod ganddynt ddealltwriaeth anghyflawn o rai cryfderau pwysig a meysydd i’w gwella.