Mynd i'r cynnwys

Rhagair

Owen Evans

Yn fy adroddiad cyntaf fel PAEF, hoffwn ddechrau trwy ddiolch i gydweithwyr a’r sector am y croeso a gefais wrth i mi deithio o gwmpas Cymru yn cyfarfod ag ymarferwyr, dysgwyr a’u rhieni, llywodraethwyr a chyrff sy’n cefnogi addysg a hyfforddiant. Hoffwn ddiolch hefyd i Claire Morgan yn rhinwedd ei swydd fel prif arolygydd dros dro a’r cyn brif arolygydd, Meilyr Rowlands, am ei arweinyddiaeth a’i ymroddiad i addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Mae addysg yng Nghymru yn newid ac yn Estyn rydym yn esblygu ein hymagwedd tuag at ein gwaith i adlewyrchu’r dirwedd gyfnewidiol hon. Yn y rhagair hwn, byddaf yn sôn am y newidiadau hyn ac yn amlygu rhai themâu o’n gwaith eleni. Mae’r themâu hyn yn cynnwys effeithiau parhaus y pandemig, pwysigrwydd lleddfu effaith amddifadedd a materion sy’n effeithio ar addysgu Cymraeg fel ail iaith ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Un o fy mhrif flaenoriaethau ers i mi ymuno ag Estyn fu sicrhau bod ein gwaith yn cael mwy o effaith, felly mae’r adroddiad blynyddol eleni yn wahanol. Rydym wedi ceisio ei wneud yn fwy hygyrch, amserol a defnyddiol i ymarferwyr, gan gadw’r trylwyrder a’r ehangder y mae pobl yn eu disgwyl o’n gwaith. I’r perwyl hwn, ym mis Medi, cyhoeddom ein mewnwelediadau cynnar cychwynnol yn crynhoi beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella ym mhob sector, ynghyd â’n myfyrdodau ar themâu allweddol mewn addysg yng Nghymru. Darparom adnoddau i ymarferwyr hefyd ar feysydd i’w gwella ar ffurf cwestiynau hunanfyfyrio.

Mae’r fersiwn lawn hon o’r adroddiad blynyddol yn ymhelaethu ar y negeseuon a rannwyd ym mis Medi ac yn cynnwys y sylwebaeth a’r dadansoddiad arferol. Yn ogystal â hyn, mae canllawiau i wybodaeth gyd-destunol am bob sector. Agwedd allweddol arall ar ein gwaith bob blwyddyn yw llunio adroddiadau thematig ar ystod o bynciau pwysig. Rydym wedi dewis pump o’n hadroddiadau thematig o 2021-2022 ac wedi llunio fersiynau cryno o’r rhain fel rhan o’r adroddiad blynyddol hwn.

Dysgwyr yw prif ffocws ein gwaith o hyd ac rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd i wella ein hymgysylltiad â nhw. Felly, am y tro cyntaf, rydym wedi creu adnoddau i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi’u seilio ar themâu o’n hadroddiad blynyddol. Rydym yn gobeithio ehangu’r gwaith hwn yn y dyfodol.

Ar gyfer pob sector, rhoddwyd lle blaenllaw i ymdrin ag effaith barhaus y pandemig yn ystod 2021-2022. Ymatebodd darparwyr addysg a hyfforddiant i’r heriau hyn â gwroldeb, gan roi dysgwyr wrth wraidd eu gwaith. Yn sgil hyn, fe wnaethom gydnabod yr angen i ailddechrau ein gwaith yn araf ac mewn modd sensitif. Er i ni gynnal ymweliadau monitro ac arolygiadau ar-lein mewn ychydig o sectorau yn ystod tymor yr hydref, un o fy mhenderfyniadau cyntaf oedd gohirio ailddechrau mwyafrif ein harolygiadau craidd tan ar ôl hanner tymor mis Chwefror, gan ein bod o’r farn bod y system dan bwysau difrifol o hyd.

Roeddem yn falch ac yn ddiolchgar bod penaethiaid wedi gwirfoddoli i beilota ein trefniadau arolygu diwygiedig mewn ysgolion. Adeiladodd y model peilot ar ein hymweliadau ymgysylltu ac argymhellion adroddiad 2018 ‘Arolygiaeth Dysgu’. Fe wnaeth yr ymagwedd newydd hon ystyried effaith y pandemig, gan gadw’r trylwyrder a ddisgwylir gan Estyn, ond heb raddau crynodol. Roedd hwn yn newid sylweddol ac yn un sy’n cyd-fynd ag ymdrechion cenedlaethol i ddatblygu system sy’n hunanwella. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gydweithio’n agosach â darparwyr addysg i amlygu arfer orau a chael deialog fwy proffesiynol ynghylch meysydd i’w gwella.

Rydym wedi cael adborth cadarnhaol am ein hymagwedd newydd. Yn benodol, mae cael gwared ar raddau crynodol wedi galluogi darparwyr ac arolygwyr i ganolbwyntio’n agosach ar gryfderau a meysydd i’w datblygu. Nid yw’r ymagwedd newydd hon heb ei heriau, wrth gwrs. Amlygodd adborth gan rieni yn benodol anhawster o ran cyfleu ein canfyddiadau heb raddau, a dyna pam rydym wedi lansio ein fersiynau cyntaf o adroddiadau arolygu i rieni i esbonio’r canfyddiadau’n well.

Er gwaethaf yr heriau niferus a ddaeth yn sgil y pandemig, bu rhai deilliannau cadarnhaol i’r system addysg. Er enghraifft, daeth â sefydliadau’n agosach at eu dysgwyr a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Helpodd hefyd i amlygu i’r cyhoedd angerdd addysgwyr tuag at eu galwedigaeth a’u dyfeisgarwch wrth addasu i’r anawsterau roeddent yn eu hwynebu. Er i lawer o’r materion a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig ddechrau dangos arwyddion o wella’n raddol, roedd heriau o hyd. Er enghraifft, roedd medrau rhifedd a llythrennedd llawer o ddysgwyr, yn enwedig medrau llefaredd disgyblion iau, yn araf i wella. Dangosodd ychydig o ddisgyblion ymddygiad heriol wrth iddynt gael trafferth ailddygymod ag arferion a disgwyliadau bywyd ysgol. Ar draws y system, gwelsom alw cynyddol am gefnogaeth lles ac iechyd meddwl, ac roedd presenoldeb, yn enwedig ymhlith y dysgwyr mwyaf difreintiedig, yn parhau’n is na’r lefelau cyn y pandemig.

Roedd effeithiau’r pandemig yn fwy hirhoedlog ymhlith sectorau a grwpiau penodol o ddysgwyr na rhai eraill. Cafodd y pandemig effaith arbennig o negyddol ar ddysgwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig a’r rhai sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Bu adferiad yn arafach ac yn fwy heriol i UCDau, ysgolion arbennig a darparwyr dysgu yn y gwaith hefyd. Bydd adferiad i’r grwpiau a’r sectorau hyn yn cymryd amser. Fodd bynnag, roedd yn galonogol gweld dysgwyr yn croesawu dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb a symud tuag at addysg fwy normal.

Wrth esblygu eu cwricwlwm newydd, cydnabu mwyafrif y darparwyr bwysigrwydd addasu a gwella eu haddysgu, yn ogystal â chynnwys eu cwricwlwm. Fodd bynnag, ni roddodd bob darparwr ddigon o flaenoriaeth i wella ansawdd addysgu a dysgu ochr yn ochr â dylunio’r cwricwlwm. Roedd llawer o arweinwyr yn poeni o hyd am asesu a dilyniant a sut olwg ddylai fod ar gynnydd trwy’r cwricwlwm. Yn aml, roedd y cymorth a gafodd ysgolion gan awdurdodau lleol a chonsortia yn rhy gyffredinol, yn hytrach nag yn ddigon teilwredig.

Yn nhymor yr hydref 2022-2023, cryfhaodd Estyn y pwyslais yn ein fframweithiau arolygu ar waith darparwyr i leddfu effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Wrth gwrs, mae gwaith ysgolion a darparwyr yn un rhan yn unig o’r ateb i fynd i’r afael â thlodi plant. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar waith awdurdodau lleol yn y maes hwn, yn enwedig sut maent yn cydlynu eu gwasanaethau cymorth. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar waith darparwyr i leddfu effaith amddifadedd dros y blynyddoedd sydd i ddod. Yn yr adroddiad blynyddol hwn, rydym wedi rhoi enghreifftiau o’r math o arfer a welwn mewn darparwyr sy’n arbennig o effeithiol o ran mynd i’r afael ag effaith tlodi a difreintedd.

Cyhoeddodd awdurdodau lleol eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau) 10 mlynedd yn 2021-2022. Roedd hyn yn garreg filltir arwyddocaol o ran paratoi i fodloni’r targedau cenedlaethol sydd wedi’u hamlinellu yng nghynllun ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru. Roedd amrywiant o ran maint yr uchelgais a’r ymrwymiad i gyflawni’r cynlluniau hyn. Mae llawer o’r cynlluniau’n pennu camau clir i gynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a lleoliadau ac mae ffocws clir ar wella darpariaeth trochi Cymraeg, yn unol â’r argymhellion o’n hadroddiad ar Addysg Drochi Cymraeg – Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed. Yn ein harolygiadau, gwelsom ddiffygion o hyd o ran ansawdd addysgu a dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac nid oedd mwyafrif y CSCAau yn gwneud cynlluniau cadarn ac uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r agwedd hon.

Yn ystod y cyfnodau clo, ni chafodd disgyblion ddigon o gyfleoedd i ddatblygu a defnyddio eu medrau Cymraeg. Cafodd hyn effaith sylweddol ar hyder, rhuglder ac awydd disgyblion i siarad Cymraeg ym mhob ysgol. Hefyd, roedd rhwystredigaeth amlwg ymhlith arweinwyr addysgol ynghylch prinder staff sy’n medru’r Gymraeg ar draws y system addysg. Yn ogystal, roedd cynnydd tuag at ddatblygu hyder ymarferwyr a’u gallu i ddefnyddio’r iaith, ynghyd â’u dealltwriaeth o sut i addysgu Cymraeg, yn gyfyngedig. Gwelsom rywfaint o gydweithio addawol, er enghraifft rhwng awdurdod lleol a darparwyr Cymraeg i Oedolion ac addysg uwch i ddarparu dysgu proffesiynol i staff mewn ysgolion a myfyrwyr addysg gychwynnol athrawon. Fodd bynnag, at ei gilydd, mae cynnydd tuag at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn peri pryder sylweddol o hyd.

Eleni, cynhaliom ystod o weithgarwch arolygu ac adolygiadau thematig o addysg ôl16. Edrychom ar gyfleoedd cyffredinol y cwricwlwm ar draws ysgolion, colegau a dysgu yn y gwaith i’r rhai 16 i 19 oed yng Nghymru. Fe wnaethom ddarganfod fod gormod o amrywiaeth yn y cyfleoedd i bobl ifanc, yn dibynnu ar ble maent yn byw. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, roedd diffyg cydweithio rhwng darparwyr i fynd i’r afael â’r amrywiaeth hwn. Nod y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd yw hyrwyddo mwy o gydlyniad a chydweithio ar draws darpariaeth ôl-16. Cyfrannom at y drafodaeth am ddiwygio addysg bellach ac addysg uwch a’r adolygiad o gymwysterau galwedigaethol a gynhaliwyd cyn sefydlu’r comisiwn hwn.

Mae addysg wedi esblygu wrth i ddarparwyr ymateb yn ystwyth a hyblyg i’r newidiadau a ddaeth yn sgil y pandemig, ond bydd y system yn parhau i deimlo effaith y pandemig am flynyddoedd i ddod. Er bod darparwyr wedi canolbwyntio’n briodol ar les dysgwyr a staff, parhaodd ein darparwyr cryfaf i gynnal hunanwerthusiadau agored a gonest a chanolbwyntio’n ddi-ildio ar addysgu a dysgu, ynghyd â blaenoriaethau cenedlaethol a lleol.

I gloi, hoffwn amlygu unwaith eto’r gwydnwch a’r arloesedd a ddangoswyd gan addysgwyr ledled Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydym yn ddiolchgar am yr ymroddiad a’r ymrwymiad y maent wedi’u dangos wrth wynebu heriau aruthrol.

Adroddiad