Mynd i'r cynnwys

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae’r Prif Swyddog Addysg yn ysbrydoli’r tîm y mae’n ei arwain, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol, empathetig, ac eto cadarn. Mae hi’n gosod disgwyliadau uchel i bawb ac yn dangos ymddygiadau proffesiynol rhagorol. Mae’r uwch dîm yn y gwasanaeth addysg yn cefnogi’r Prif Swyddog Addysg yn fedrus a, gyda’i gilydd, maent yn ymgorffori’r ymagwedd ‘Tîm Caerffili’. Maent yn ffurfio perthnasoedd cryf ag ysgolion, lleoliadau ac UCDau, lle mae arweinwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda, ac eto’n cael eu herio i gyflawni eu huchelgeisiau a rennir ar gyfer llwyddiant dysgwyr. Un o gryfderau diwylliannol nodedig y gwasanaeth yw’r ffordd y mae’r Prif Swyddog Addysg yn arwain trwy esiampl trwy flaenoriaethu lles staff mewn ysgolion ac yn y gwasanaeth, ar yr un pryd â sicrhau bob amser bod anghenion plant a phobl ifanc wrth wraidd pob penderfyniad. Mae’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol yn ymddiried yn y gwasanaeth i gyflawni ei flaenoriaethau ac yn mynd ati i ddileu unrhyw rwystrau rhag llwyddiant. O ganlyniad, mae staff yn y gwasanaeth drwyddo draw yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gyfrifol, ac maent yn falch o hyrwyddo’r neges bwysig na ddylai neb gael ei gyfyngu gan ei amgylchiadau.