Cameo: Helpu staff i ddeall a chefnogi’i gilydd
Treuliodd arweinwyr yn Ysgol Gynradd Glannau Wysg yng Nghasnewydd amser ‘dod i adnabod eu staff eto’ yn dilyn y cyfnod clo cyntaf. Roeddent yn cydnabod bod blaenoriaethau llawer o’r staff wedi newid, ac roedd eu safbwyntiau a’u hagweddau yn wahanol oherwydd eu profiadau yn ystod y pandemig. Gan adeiladu ar eu proffiliau disgyblion oedd wedi’u sefydlu’n dda, gweithiodd arweinwyr gyda chydweithwyr i greu proffiliau staff. Roedd y rhain yn ddewisol ac yn cael eu rhannu gyda staff eraill ac uwch arweinwyr yn unig. Roeddent yn nodi cyfrifoldebau teulu a gofalu, a nodweddion personol, fel sut maen nhw’n hoffi derbyn adborth a beth sy’n eu cymell. Galluogodd hyn arweinwyr i gynnig prosesau rheolaeth llinell mwy teilwredig ac i sicrhau bod arweinwyr a staff yn sensitif i anghenion ei gilydd.