Ciplun: Hunanwerthuso a chynllunio gwelliant – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ciplun: Hunanwerthuso a chynllunio gwelliant

Mae staff yn YMCA Abertawe yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu a gwerthuso data i lywio arfer. Yn ganolog i hyn y mae’r defnydd o’u system gwybodaeth reoli. Trwy hyn, mae arweinwyr yn casglu a choladu gwybodaeth allweddol sy’n amrywio o wybodaeth am bobl ifanc, manylion a myfyrdodau ar bob sesiwn ddarpariaeth, pellter a deithiwyd ac adborth gan bobl ifanc trwy arolygon. Mae’r data o’r system yn galluogi arweinwyr i lunio adroddiadau gwerthuso effeithiol. Mae’r gallu i olrhain a monitro pobl ifanc unigol trwy’r gwasanaeth yn sicrhau y gall staff addasu cymorth neu ddarpariaeth unigol i weddu orau i anghenion pobl ifanc.