Ciplun o arfer: Ysgol Gynradd Tre-gŵyr – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ciplun o arfer: Ysgol Gynradd Tre-gŵyr

Diwylliant o ddysgu’n annibynnol

Mae Ysgol Gynradd Tre-gŵyr wedi sefydlu prosesau cadarn i hybu annibyniaeth dysgwyr o oedran cynnar. Mae staff yn cynllunio gweithgareddau pwrpasol, yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd, sy’n galluogi dysgwyr i ddewis eu dulliau eu hunain. Caiff y ‘stryd ddysgu’ gymunedol ei defnyddio’n dda i greu cyfleoedd pwrpasol i ddysgwyr feddwl a gweithio’n annibynnol. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu’n unigolion gwydn, myfyriol sy’n defnyddio ystod o strategaethau i ddatrys problemau, cydweithio’n effeithiol a chymryd perchnogaeth dros eu dysgu.