Ciplun o gytundebau lefel gwasanaeth o adroddiad partneriaeth DOG Castell-nedd Port Talbot a Phowys – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ciplun o gytundebau lefel gwasanaeth o adroddiad partneriaeth DOG Castell-nedd Port Talbot a Phowys

Mae gan y bartneriaeth gytundebau lefel gwasanaeth (CLGau), sy’n diffinio’r trefniadau rhwng Grŵp Colegau NPTC a’r naill a’r llall o’i ddau bartner awdurdod lleol, sef Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Mae pob CLG yn amlinellu cyfrifoldebau’r ddwy ochr ac yn cynnwys trefniadau ar gyfer arlwy’r ddarpariaeth, deilliannau disgwyliedig, sicrhau ansawdd a thalu. Mae’r cytundebau ffurfiol hyn yn sicrhau bod eglurder rhwng partneriaid a pharhad rhwng sefydliadau os bydd personél allweddol yn newid rolau neu’n ymddeol.