Coleg Aspris – Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer pontio’n gadarnhaol – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Coleg Aspris – Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer pontio’n gadarnhaol

Mae gan bob dysgwr lwybrau pontio unigol wrth ddechrau yn y coleg, sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd ac sy’n sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu nodau hirdymor. Caiff gwybodaeth werthfawr ei chasglu am ddysgwyr yn ystod eu hasesiad, sy’n cynnwys eu diddordebau personol, amcanion addysg a’r cymorth sydd ei angen. Mae hyn yn galluogi’r coleg i ddatblygu traciwr llwybr priodol ar gyfer pob dysgwr. 

Mae partneriaeth gref rhwng Coleg Aspris a Choleg Gwent. Caiff cyfarfodydd rheolaidd eu cynnal rhwng arweinwyr y colegau lle caiff gwybodaeth bwysig ei rhannu am yr holl ddysgwyr presennol a darpar ddysgwyr. Mae staff yn y coleg yn elwa ar arsylwi sesiynau yng Ngholeg Gwent i wella a datblygu eu harfer addysgu eu hunain, yn ogystal â’u galluogi i ddarparu gwybodaeth gywir am gyrsiau i’w dysgwyr. O ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn pontio’n llwyddiannus o Goleg Aspris i Goleg Gwent i barhau â’u haddysg.