Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth i liniaru effaith tlodi ar les ym Mro Morgannwg – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth i liniaru effaith tlodi ar les ym Mro Morgannwg

Yn ystod ei arolygiad, canfuom fod gan Fro Morgannwg ymrwymiad moesol cryf i liniaru effaith tlodi ar les plant a phobl ifanc. Roedd gan yr awdurdod lleol ddealltwriaeth gadarn o anghenion ei gymunedau ac roedd swyddogion yn ymatebol i’r heriau. Roedd cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn nodwedd allweddol o’i waith ac wedi ei alluogi i gyfeirio ei wasanaethau i’r mannau hynny lle’r oedd yr angen mwyaf a’r brys mwyaf. At ei gilydd, roedd effaith ei waith i leihau effaith tlodi ar les plant a phobl ifanc yn gryf.