Cyngor Gwynedd: Mae cynllunio pwrpasol yn sicrhau parhad a dilyniant wrth gynorthwyo disgyblion i gaffael medrau Cymraeg mewn cyd-destun modern – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Cyngor Gwynedd: Mae cynllunio pwrpasol yn sicrhau parhad a dilyniant wrth gynorthwyo disgyblion i gaffael medrau Cymraeg mewn cyd-destun modern

Mae athrawon yn cydweithredu’n llwyddiannus i greu cynllun arloesol newydd, o’r enw ‘Aberwla’. Mae hwn yn cynorthwyo staff i adeiladu’n systematig ar yr egwyddorion allweddol wrth i ddisgyblion gaffael y Gymraeg. Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi dysgu mewn ffordd werthfawr, trwy ddarparu profiadau dysgu cyfoethog i ddisgyblion ddefnyddio adnoddau rhithwir i ddatblygu’u medrau Cymraeg mewn cyd-destun pwrpasol a chynhwysol.