Darparu amgylchedd dysgu cyfoethog a symbylol yn Mini Miners Club, Ystrad Mynach, Caerffili
Mae arweinwyr yn gweithio’n dda i ddarparu amgylchedd dan do croesawgar, symbylol sy’n addas i blant, sy’n tanio chwilfrydedd plant. Maent yn defnyddio cydbwysedd effeithiol o adnoddau naturiol ac adnoddau gwneud. Mae pob un o’r ystafelloedd chwarae yn olau ac yn drefnus ac mae ganddynt ardaloedd sydd wedi’u nodi’n glir. Mae arweinwyr yn sicrhau lefel o gysondeb o fewn yr ystafelloedd chwarae amrywiol i gynorthwyo â phontio a datblygu ymdeimlad o berthyn wrth i blant symud o amgylch y lleoliad. Mae ymarferwyr yn darparu ystod fuddiol o adnoddau i ennyn diddordeb plant wrth iddynt aros i fynd i’r ystafelloedd chwarae, er enghraifft ardal lyfrau glyd lle gall plant eistedd a rhannu llyfrau â’u rhieni a gofalwyr. Gwna arweinwyr ddefnydd da o ddodrefn ac adnoddau go iawn ac maent yn ystyried hyn yn rhan greiddiol o’u gweledigaeth ar gyfer y lleoliad. Mae pob ystafell yn cynnwys dodrefn deniadol sydd o faint addas i’r plant, addurniadau, dillad go iawn ac offer cegin. Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi dychymyg a chwilfrydedd plant yn effeithiol ac yn cynnig ysbrydoliaeth werthfawr ar gyfer chwarae rôl.