Darparwr: Addysg Oedolion Cymru
Lefel gweithgarwch dilynol: Adolygu gan Estyn / Mesurau arbennig
Tynnwyd: Mehefin 2021
Arolygwyd Addysg Oedolion Cymru yn Ionawr 2019 ac fe’i gosodwyd yn y categori adolygu gan Estyn. Tynnwyd y darparwr oddi ar y rhestr darparwyr yr oedd angen eu hadolygu gan Estyn ym Mehefin 2021, yn dilyn adolygiad desg o dystiolaeth ar gynnydd a wnaed ers yr arolygiad.
Yn dilyn yr arolygiad craidd, ymatebodd y darparwr yn gyflym i’r argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad arolygu drwy ehangu cyfranogiad staff a phartneriaid allanol mewn prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant. Hefyd, gweithredodd arweinwyr ar ystod o fentrau i wella’r ffyrdd yr oedd tiwtoriaid yn rhannu arfer dda ac adnoddau ar draws y sefydliad. Roedd y rhain yn cynnwys gwelliannau i feysydd adnoddau ar-lein a chyflwyno rolau tiwtoriaid arweiniol.
Rhoddodd arweinwyr sylw arbennig i wella ansawdd gwybodaeth ac arweiniad yn ymwneud â chynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac i sicrhau bod yr holl staff yn cael hyfforddiant priodol ar ADY. Er enghraifft, mae staff bellach yn gwneud defnydd da o siartiau llif eglur sy’n darparu offeryn cyfeirio hawdd i diwtoriaid i’w helpu i ddeall sut a pha bryd i ymgeisio am gymorth ar gyfer hunangyfeirio, ac adnabod dysgwyr y mae angen cymorth ADY arnynt. Fe wnaeth hyn helpu i wella mynediad at gymorth dysgu ychwanegol. Yn ogystal, elwodd tiwtoriaid o gael hyfforddiant defnyddiol i’w cefnogi i adnabod dysgwyr ag ADY ac i addasu eu dulliau addysgu i ddarparu cymorth mwy effeithiol.