Mynd i'r cynnwys

Darparwr: Ysgol Bryn Alyn

Lefel gweithgarwch dilynol: Mesurau arbennig

Tynnwyd: Hydref 2021

Roedd Ysgol Bryn Alyn wedi bod yn y categori mesurau arbennig am ychydig dan flwyddyn pan benodwyd y pennaeth presennol yn 2018. Canolbwyntiodd i gychwyn ar sicrhau bod disgyblion a staff yn teimlo’n falch o fod yn aelodau o gymuned yr ysgol, gan wella ymddygiad disgyblion a chryfhau’r arweinyddiaeth. Dros gyfnod o dair blynedd, ac yn arbennig yn ystod y pandemig, gweithiodd ar feithrin ymdeimlad o waith tîm ar draws yr ysgol. Roedd hyn yn hanfodol i wella’r ysgol a helpodd i newid diwylliant ac ethos yr ysgol. Er mwyn cefnogi ymddygiad cadarnhaol ymhlith disgyblion, diwygiodd yr ysgol ei chwricwlwm fel bod ystod ehangach o ddarpariaeth erbyn hyn i fodloni gwahanol anghenion a diddordebau disgyblion.

Cyflwynodd yr arweinwyr bolisi ymddygiad newydd hefyd, a datblygu’r ddarpariaeth fewnol a strategaethau cymorth i helpu disgyblion a oedd wedi colli diddordeb a dadrithio. Rhoddwyd gwedd gliriach ar rolau a chyfrifoldebau arweinwyr a chawsant eu dosbarthu’n briodol. Mae dysgu proffesiynol yn ymwneud ag agweddau fel hunanwerthuso, cynllunio gwelliant a bod yn arweinydd wedi helpu arweinwyr i ymgymryd â’u rolau yn well ac mae ganddynt ddealltwriaeth gliriach o’r cryfderau a’r meysydd i’w datblygu yn eu meysydd cyfrifoldeb nhw. Mae llywodraethwyr yn cydnabod nad oeddent, yn y gorffennol, wedi bod yn ddigon ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd yn yr ysgol. Erbyn hyn, maent yn sicrhau eu bod yn wybodus ac yn herio’r ysgol yn fwy effeithiol.