Mynd i'r cynnwys

Darparwr: Ysgol Gymraeg Ffwrnes

Lefel gweithgarwch dilynol: Gwelliant sylweddol

Tynnwyd: Tachwedd 2021

Yn unol â llawer o ysgolion eraill yn ystod y flwyddyn academaidd hon, effeithiodd y pandemig COVID-19 ar allu Ysgol Gymraeg Ffwrnes i roi gwelliannau ar waith. Dangosodd arweinwyr crebwyll cadarn wrth addasu eu cynlluniau gwella, fel drwy newid yr amserlen ar gyfer gweithredu rhai gweithgareddau, neu ddefnyddio technoleg i gefnogi nodau gwella yn well. Er bod y pandemig wedi cyfyngu ar y cyfleoedd i fonitro’n uniongyrchol, parhaodd yr arweinwyr, gan gynnwys y llywodraethwyr, i werthuso agweddau pwysig yn rhithiol. Er enghraifft, fe wnaethant graffu ar ansawdd y ddarpariaeth dysgu o bell er mwyn adnabod yr hyn oedd yn dda a beth roedd angen ei wella. Creodd arweinwyr gynllun gwella ysgol pwrpasol sy’n cynnwys argymhellion yr arolygiad craidd yn ogystal â blaenoriaethau eraill. Gwnaeth arweinwyr fonitro’u cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn ofalus, gan nodi’n glir yr hyn a oedd wedi ei gyflawni a beth fyddai’r camau nesaf. O ganlyniad i’r trefniadau hunanwerthuso cadarn, gwnaeth yr ysgol gynnydd da yn erbyn argymhellion yr arolygiad craidd.