Mynd i'r cynnwys

Darparwr: Ysgol Uwchradd Dinbych

Lefel gweithgarwch dilynol: Mesurau Arbennig

Tynnwyd: Mehefin 2023

Arolygwyd Ysgol Uwchradd Dinbych yn Nhachwedd 2016. O ganlyniad i ddiffygion mewn arweinyddiaeth ac addysgu, nid oedd disgyblion yn gwneud digon o gynnydd ac roedd angen gwelliant sylweddol. Mewn ymweliad monitro deunaw mis yn ddiweddarach, nodwyd nad oedd yr ysgol wedi gwneud y gwelliannau hyn a rhoddwyd yr ysgol yn y categori mesurau arbennig.

Er bod gan yr ysgol gynllun gweithredu ôl-arolygiad addas a chyflwyno amrediad o strategaethau i sicrhau gwelliannau, erbyn seithfed ymweliad Estyn ym Mai 2022, nid oedd yr ysgol wedi gwneud digon o gynnydd i gael ei thynnu o gategori gweithgarwch dilynol. Un o’r ffactorau a gyfyngodd ar wella’r ysgol oedd sawl blwyddyn o ansefydlogrwydd yn uwch arweinyddiaeth yr ysgol.

Pan apwyntiwyd y pennaeth presennol ym Medi 2022, rhoddodd flaenoriaeth i sefydlu diwylliant o ymddiriedaeth a chydweithio. Un o agweddau pwysicaf ei weledigaeth oedd dylai staff gydweithio ar strategaethau gwella oedd yn canolbwyntio ar wella deilliannau disgyblion yn hytrach na ffocysu ar ymweliadau monitro Estyn. Bu i’r pennaeth adnabod nad oedd arolygwyr yn edrych am strategaeth neu ddull penodol, ond yn hytrach eu bod yn canolbwyntio ar effaith gwaith yr ysgol ar gynnydd a lles disgyblion.

Un o ymagweddau allweddol ei ddull gweithredu oedd cyflwyno’r broses ‘Gwella Ansawdd’. Roedd y dull hwn o hunanwerthuso a chynllunio gwella yn defnyddio cydweithio rhwng uwch arweinwyr, arweinwyr canol a staff eraill – er enghraifft gyda chraffu llyfrau ac arsylwadau gwersi – fel man cychwyn. Roedd hyn yn helpu athrawon ac arweinwyr ar bob lefel i ddod i gyd-ddealltwriaeth o’r cryfderau a’r meysydd penodol ar gyfer datblygu ar gyfer pob maes pwnc ac athro unigol. Nid yn unig y gwnaeth hyn alluogi arweinwyr i gynllunio ar gyfer gwelliant yn fwy manwl, roedd y ffocws ar ‘sgyrsiau dysgu’ yn hytrach nag atebolrwydd ‘o’r brig i lawr’ wedi helpu i gryfhau’r diwylliant datblygol o ymddiriedaeth a chydweithio.

Cafodd uwch-rolau arweinyddiaeth eu mireinio a’u hail-alinio er mwyn cyd-fynd yn agosach â blaenoriaethau gwella’r ysgol a hefyd i wneud y defnydd gorau o sgiliau a phrofiad arweinwyr unigol. Ad-drefnwyd arweinyddiaeth fugeiliol i helpu’r arweinwyr hyn i fabwysiadu dull mwy cydlynol a chydweithredol o gefnogi a gwella lles disgyblion. Er mwyn mynd i’r afael â’r argymhelliad ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau disgyblion, dechreuodd arweinwyr fabwysiadu dull mwy strategol â ffocws. Roedd hyn yn golygu bod meysydd pwnc unigol yn canolbwyntio ar feysydd sgiliau penodol, dynodedig, er enghraifft datblygu gallu disgyblion i grynhoi gwybodaeth o ystod o destunau. Helpodd hyn i gynyddu effaith yr agwedd hon ar waith yr ysgol.

Cynyddodd y dulliau cryfach hyn gyflymder y gwelliant. Yn yr ymweliadau monitro a gynhaliwyd yn 2022-2023, nododd arolygwyr fod addysgu yn gynyddol heriol a diddorol a’i fod yn helpu disgyblion i wneud cynnydd gwell. O ganlyniad, cafodd yr ysgol ei thynnu o fesurau arbennig ym mis Mehefin 2023.