Datblygu medrau digidol disgyblion, Ysgol Caer Elen
Mae disgyblion ar draws yr ysgol yn gwneud cynnydd cryf o ran datblygu eu medrau digidol. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion oed cynradd yn ymchwilio’n hyderus ar y we, er enghraifft i ddod o hyd i wybodaeth am adar a chreu ffeil o ffeithiau hwyliog. Erbyn Blwyddyn 2, mae disgyblion yn rhaglennu’n gywir i symud teclyn digidol ar hyd llwybr penodol. Mae llawer o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn cyflwyno gwybodaeth yn gymwys. Er enghraifft, maent yn cyrchu gwybodaeth ar y we am organau’r corff, gan gynnwys recordiad llais yn disgrifio diben yr organau.
Mae medrau digidol disgyblion oed uwchradd yn adeiladu’n llwyddiannus ar eu profiadau blaenorol. Mae gan lawer o ddisgyblion fedrau digidol tra chymwys. Er enghraifft, maent yn creu siart addas i ddangos y data ar y newid cyfraneddol mewn disgwyliad oes mewn gwledydd yn Affrica. Mae llawer ohonynt yn defnyddio meddalwedd gymhleth yn fedrus i gyfansoddi cerddoriaeth, creu gemau digidol a dylunio pecynnau o faint a gosodiad penodol. Mae llawer o ddisgyblion yn dangos medrau codio pwrpasol, er enghraifft i greu eu gwefannau ynni adnewyddadwy eu hunain.