Defnydd effeithiol o’r amgylchedd awyr agored yn Ysgol Treffos
Mae Ysgol Treffos yn canolbwyntio’n gryf ar ddefnyddio’r amgylchedd awyr agored fel adnodd i symbylu dysgu. Mae gan yr ysgol ardaloedd awyr agored helaeth sy’n cael eu defnyddio’n dda i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o’u hamgylchedd a phwysigrwydd corff iach ac ymennydd iach.
Mae ystod eang o brofiadau dysgu yn digwydd y tu allan, gan gynnwys gweithgareddau datrys problemau fel adeiladu pontydd a chyfeiriannu. Gwna athrawon ddefnydd rheolaidd o deithiau pwrpasol i goedwigoedd a thraethau lleol ac maent yn defnyddio’r rhain yn dda i symbylu trafodaeth bellach a dysgu yn ôl yn yr ysgol.