Gwasanaethau cymorth wedi’u hatgyfnerthu trwy ‘Teulu Môn’, Ynys Môn – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Gwasanaethau cymorth wedi’u hatgyfnerthu trwy ‘Teulu Môn’, Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn darparu un man cyswllt, sef ‘Teulu Môn,’ ar gyfer yr holl blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig sydd angen cymorth ychwanegol. Maent yn darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae penaethiaid lleol yn gwerthfawrogi’r un man cyswllt hwn gan eu bod yn gallu cyfeirio teuluoedd sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches at ystod o wasanaethau cymorth. Mae’r dull cydgysylltiedig hwn yn hyblyg, ac mae aelodau staff yn barod i addasu’r ddarpariaeth yn unol â beth sydd orau ar gyfer lles pob teulu.

I ychwanegu at waith y gwasanaeth hwn, mae’r awdurdod lleol wedi hyrwyddo defnydd o ddull ‘sy’n ystyriol o drawma’ ar draws pob ysgol. Mae’r hyfforddiant cysylltiedig wedi rhoi sylfaen gadarn i ysgolion feithrin perthnasoedd â phlant bregus a’u teuluoedd.