Gweithio â’r gymuned i gefnogi lles disgyblion yn Ysgol Henry Richard
Nododd arweinwyr yr angen i sicrhau bod disgyblion a theuluoedd yn cael gwybodaeth am sut i gadw’n ddiogel yn ystod gwyliau’r haf. Trefnodd staff farchnad iechyd a lles werthfawr i deuluoedd o’r enw ‘Llwybrau Lles’. Roedd hwn yn gyfle i deuluoedd ymweld â stondinau gwybodaeth a oedd yn cael eu rhedeg gan ddisgyblion a staff, ynghyd ag ystod o bartneriaid allanol. Rhoddwyd pwyslais ar ddiddordebau disgyblion. Er enghraifft, rhoddwyd gwybodaeth am sut i gadw’n ddiogel ar y traeth, ar-lein ac mewn cyd-destunau amaethyddol. Cyflwynwyd gwybodaeth werthfawr hefyd am fwyta’n iach, iechyd meddwl ac urddas mislif i helpu disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o’u hiechyd a lles personol dros gyfnod y gwyliau.