Mynd i'r cynnwys

Hyrwyddo uchelgais ac ymrwymiad disgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r dulliau a fabwysiadwyd gan Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn cyfrannu’n sylweddol at fwynhad disgyblion o ran mynd i’r ysgol. Mae’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn arddel nodweddion ‘Dysgwyr Llan’, sef ‘llwyddiannus, arweiniol a phwerus’, yn gryfder. Mewn gwersi, mae disgyblion yn meithrin meddylfryd bod yn unigolion llwyddiannus; mae bron pob un o’r disgyblion yn cyrraedd gwersi’n brydlon, ac mae eu presenoldeb, gan gynnwys ymhlith y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, uwchlaw’r gyfradd genedlaethol.

Mae clybiau prynhawn dydd Gwener yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion Blwyddyn 7 i Flwyddyn 9 feithrin perthnasoedd â’i gilydd a mwynhau cymdeithasu. Mae hyn wedi cyfrannu at welliannau mewn agweddau at ddysgu, yn ogystal â phresenoldeb cyffredinol. Mae’r ysgol yn defnyddio gwasanaethau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddisgyblion am lefelau presenoldeb mewn dosbarthiadau dros y chwe wythnos flaenorol. Mae hyn yn symbylu ymateb cadarnhaol a chystadleuol ymhlith y disgyblion ac yn eu cymell i wella ymhellach.

I ymateb i’r heriau ychwanegol a achoswyd gan y pandemig, mae aelodau staff wedi datblygu system lwyddiannus i olrhain a gwella presenoldeb. Mae cydweithio effeithiol â swyddog addysg a lles yr awdurdod lleol, wedi’i gyfuno â gwaith y swyddog cyswllt â theuluoedd a benodwyd yn ddiweddar, yn sicrhau ymateb cyflym ac effeithiol i absenoldebau.