Mae pawb yn caru’r bws
Y V-Pod yw darpariaeth symudol Bro Morgannwg, ac mae’n brofiad cadarnhaol a difyr ar gyfer pobl ifanc sy’n galluogi gweithwyr ieuenctid i addasu eu hymagwedd ar sail anghenion a diddordebau uniongyrchol y gymuned y maent yn ymweld â hi. Mae’r bws yn helpu cynnal proffil y gwasanaeth ieuenctid ar draws yr awdurdod lleol. Mae staff yn fedrus o ran nodi a thrafod y lleoliadau gorau i barcio ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r gofod ar y bws. Mae’r bws yn cario amrywiaeth o offer, gan gynnwys gasebos ar gyfer digwyddiadau dros dro, offer chwaraeon, celf a cherddoriaeth. Mae’r ddarpariaeth yn cynnig hyblygrwydd i gyrraedd pobl ifanc nad ydynt efallai’n cael cyfle i fynychu clwb neu wasanaeth ieuenctid oherwydd rhwystrau daearyddol, cymdeithasol, neu economaidd. Mae’r uned symudol yn sicrhau cynwysoldeb ac yn galluogi pobl ifanc sydd wedi’u hynysu i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Er enghraifft, caiff un person ifanc sy’n derbyn gofal lliniarol ei galluogi i fynychu sesiynau gyda chymorth ei gofalwr a’r gweithwyr ieuenctid, sy’n mynd i’r afael â’r rhwystr rhag cyfranogi.