Platfformau digidol yn cefnogi cysylltiad yng Ngholeg y Cymoedd  – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Platfformau digidol yn cefnogi cysylltiad yng Ngholeg y Cymoedd 

Mae bron pob un o’r athrawon ar draws y coleg yn defnyddio platfformau digidol yn hynod effeithiol i reoli a chynllunio dysgu, rhannu adnoddau, olrhain cynnydd dysgwyr, a chyfathrebu â’u dysgwyr. Maent yn defnyddio platfformau digidol yn gyson i rannu gwybodaeth allweddol gyda staff addysgu a staff cymorth eraill ar draws pob campws ynghylch materion fel ymddygiad, presenoldeb a lles dysgwyr. Mae’r dull cydlynus trawsgolegol hwn yn helpu’r coleg i ddarparu ymyriadau a chymorth amserol ar gyfer dysgwyr, lle mae angen. Mae bron pob un o’r dysgwyr yn defnyddio’r platfformau hyn yn hyderus i reoli a chyflwyno’u gwaith a chyfathrebu â’u tiwtoriaid, gan ddangos a datblygu medrau digidol cryf.