Prosesau sicrhau ansawdd effeithiol yn Canolfan Addysg Nant-y-Bryniau
Mae’r athro mewn gofal wedi sefydlu system gadarn o brosesau sicrhau ansawdd. Mae’r rhain yn cynnwys teithiau dysgu, craffu ar lyfrau a monitro fforensig wythnosol o’r offeryn olrhain gweithrediad iechyd meddwl mewn addysg (MHFE) ar gyfer pob disgybl. O ganlyniad, mae gan arweinwyr ddealltwriaeth fanwl gywir o gryfderau’r UCD a’i meysydd i’w gwella.
Mae arweinwyr yn hyrwyddo diwylliant cryf o fyfyrio a chydweithio, sy’n cefnogi staff i werthuso eu harfer a nodi sut gallent wneud gwelliannau.
Caiff rolau a chyfrifoldebau staff eu dosbarthu’n hynod effeithiol i fanteisio i’r eithaf ar fedrau unigol ar draws yr UCD. Mae athrawon a staff cymorth yn ysgwyddo cyfrifoldeb am wahanol agweddau ar waith yr UCD, er enghraifft meysydd dysgu a phrofiad, dulliau sy’n ystyriol o drawma, gwaith therapiwtig â chydweithwyr iechyd, a datblygu medrau iaith Gymraeg dysgwyr. Mae hyn yn golygu bod gan yr holl staff ymdeimlad clir o gydweithio â’i gilydd i sbarduno gwelliant.