Mynd i'r cynnwys

UCD Bryn y Deryn

Caniataodd asesiadau cynhwysfawr wrth ddechrau yn yr UCD, ynghyd â chysylltiad effeithiol ag ysgolion ac asiantaethau partner, i’r staff nodi anghenion dysgu a lles unigol disgyblion a chynllunio’n dda ar eu cyfer. Cyfrannodd yr asesiadau cychwynnol hyn at ddogfen cofnod cyrhaeddiad werthfawr. Cafodd cynnydd ei olrhain yn effeithiol ar draws pob maes cyflawniad, gan gynnwys ymgysylltiad, targedau dysgu a dyheadau gyrfa. Roedd dogfennau ‘taith y dysgwr’ hefyd yn cefnogi cynllunio ar gyfer y camau nesaf mewn dysgu neu ddatblygiad, gyda ffocws ar yrfaoedd a dewisiadau ôl16.