UCD Bryn y Deryn
Roedd diwylliant ac ethos nodedig o gefnogi lles ar draws yr UCD. Roedd bron bob disgybl yn ymgysylltu’n gyson â’r arferion sefydledig yn ystod cyfnod bugeiliol y bore. Roedd y berthynas waith gadarnhaol rhwng staff a disgyblion yn cefnogi ymagwedd deuluol a oedd yn galluogi disgyblion i reoli eu hymddygiad yn fwy llwyddiannus. Roedd bron bob disgybl yn adolygu ac yn gweithredu ar dargedau pwrpasol ar gyfer gwella yn ystod y cyfnod hwn. O ganlyniad, roedd bron bob ] disgybl yn cyrraedd gwersi’n brydlon, yn gallu ymgartrefu’n gyflym mewn sefyllfaoedd dysgu ac yn dangos ymddygiad rhagorol mewn gwersi.