Ymagwedd cyfathrebu cyflawn yng Ngholeg Elidyr – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ymagwedd cyfathrebu cyflawn yng Ngholeg Elidyr

Mae ymagwedd cyfathrebu cyflawn yn galluogi unigolion sydd ag anawsterau cyfathrebu i gyfathrebu yn y ffordd sydd fwyaf hygyrch iddyn nhw. O ganlyniad, mae’r coleg wedi datblygu amgylchedd hynod gynhwysol lle gall dysgwyr rannu eu barn, eu meddyliau a’u teimladau â hyder. I lawer o ddysgwyr, mae hyn yn gynnydd sylweddol o’u man cychwyn cychwynnol.

Mae staff yn defnyddio amrywiaeth o arwyddion, symbolau a lleferydd yn Gymraeg a Saesneg i gefnogi dysgwyr trwy gydol y dydd. Mae’r ymagwedd hon yn hynod effeithiol o ran cefnogi dealltwriaeth, datblygiad medrau a chyfathrebu dysgwyr â phobl eraill.

Mae’r coleg wedi rhoi ffocws cryf ar ddysgu proffesiynol i sicrhau amgylchedd cyfathrebu o ansawdd uchel ar gyfer dysgwyr. Ymhellach, mae staff yn defnyddio adnoddau o ansawdd uchel yn gyson yn y coleg, a hefyd o fewn y gymuned ehangach, i gynorthwyo dysgwyr.