Adfer ar ôl COVID-19
Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol yn ymwneud â adfer ar ôl COVID-19 yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau am fwy o fanylion.
Agweddau cadarnhaol
- Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr wedi croesawu dychwelyd i ddarpariaeth wyneb-yn-wyneb ac yn ymgysylltu’n well, yn gyffredinol, nag y gwnaethant ar-lein, er bod llawer o ddarparwyr yn cynnal elfennau o ddysgu o bell.
- Mae llawer o’r ‘materion’ y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt, fel y dirywiad ym medrau dysgwyr, wedi gwella’n raddol ers dychwelyd i addysg fwy ‘normal’.
- Mae darparwyr ar draws sectorau wedi rhoi pwyslais cryf ar gefnogi lles, sydd wedi arwain at ddarpariaeth gynyddol ac ehangach.
- Mae arweinwyr ar draws pob sector wedi dangos ystwythder a meddylfryd creadigol wrth ymateb i’r pandemig ac wedi gweithio’n fwriadus i ailsefydlu profiadau yr effeithiodd y cyfyngiadau arnynt, fel gweithgareddau allgyrsiol.
- Oherwydd cyfathrebu gwell a mwy helaeth yn ystod y pandemig, mae gan ddarparwyr ddealltwriaeth well o’r teuluoedd a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu, yn gyffredinol.
- Dychwelodd llawer o ddarparwyr i weithgareddau hunanwerthuso a sicrhau ansawdd yn raddol wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, gan arwain at ddealltwriaeth well o effaith eu gwaith.
Problemau a phryderon
- Parhaodd achosion o COVID-19 ymhlith dysgwyr a staff i amharu ar addysgu a dysgu drwy gydol y flwyddyn.
- At ei gilydd, mae’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar fedrau dysgwyr. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer medrau rhifedd a llythrennedd, yn enwedig medrau llefaredd. Effeithiwyd ar fedrau cymdeithasol a phersonol lleiafrif o ddysgwyr hefyd, yn enwedig y plant ieuengaf a’r rhai sydd wedi cael trafferth ailgydio ag arferion addysgol mwy ‘normal’.
- Yn gyffredinol, dirywiodd defnydd dysgwyr o Gymraeg llafar o ganlyniad i’r pandemig.
- Mae cyfyngiadau wedi cael effaith negyddol ar ddysgu sy’n cynnwys elfennau ymarferol, gan gynnwys lleoliadau gwaith, asesiadau ymarferol ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a phynciau fel cerddoriaeth, dylunio a thechnoleg ac addysg gorfforol.
• At ei gilydd, mae cynnydd darparwyr tuag at roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith yn rhy amrywiol. - Ar draws pob sector, bu cynnydd nodedig yn y galw am gymorth lles ac iechyd meddwl.
- Mae presenoldeb, mewn ysgolion yn benodol, yn parhau i fod islaw’r lefelau cyn y pandemig ac mae absenoldebau parhaus wedi cynyddu.
- Bu heriau sylweddol yn ymwneud â staffio, yn enwedig o ran rheoli absenoldebau yn gysylltiedig â COVID, cael staff llanw a recriwtio staff newydd.
- Bu ychydig o ddarparwyr ar draws pob sector yn araf yn ailgydio â gweithgareddau hunanwerthuso, sydd wedi arwain at ddealltwriaeth anghyflawn o’u cryfderau a’u meysydd i’w gwella.