Mynd i'r cynnwys
Darparwyr sydd wedi gwella’n gyflym ac nad oes angen eu monitro mwyach

Darparwyr sydd wedi gwella’n gyflym ac nad oes angen eu monitro mwyach

Pan fydd arolygwyr yn nodi diffygion difrifol o ran ansawdd a chysondeb addysgu, ac effeithiolrwydd arweinyddiaeth yn gyffredinol adeg yr archwiliad craidd, mae darparwyr yn cael eu rhoi mewn dilyniant.  Ar gyfer ysgolion ac UCDau, mae dau gategori statudol o ddilyniant (angen mesurau arbennig neu angen gwelliant sylweddol). Mae gan sectorau eraill drefniadau gwahanol, ond mae gan bob un lefelau o ddilyniant. Yna, mae arolygwyr yn monitro’r gwelliannau y mae’r darparwyr yn eu gwneud dros amser. Rydym yn parhau i fonitro darparwr nes bod y gwelliannau’n ddigon cadarn i gael effaith ar ddeilliannau i ddysgwyr, ac mae arweinwyr yn dangos gallu gwell i sicrhau rhagor o welliannau. Fe wnaeth dau ddeg saith o ddarparwyr gwrdd â’r meini prawf hyn a chawsant eu tynnu o ddilyniant yn 2021-22.

 

Gellir dysgu gwersi gwerthfawr gan ddarparwyr sydd wedi’u tynnu o ddilyniant. Mae’r rhain yn cynnwys gwersi am sut i wneud cynnydd cyflym a beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio o ran cefnogi gwelliant.

Pa welliannau ydym yn eu nodi?

  • Mae presenoldeb yn gwella a gwaharddiadau’n gostwng.
  • Mae ymddygiad, ymgysylltiad ac agweddau dysgwyr tuag at ddysgu yn gwella.
  • Wrth i ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth wella, mae dysgwyr yn dysgu mwy ac yn cyflawni’n well.

Pa welliannau ydym yn eu nodi?

  • Mae gan ddarparwyr sy’n gwella gyd-ddealltwriaeth o sut olwg sydd ar arfer dda.
  • Yn aml, mae staff yn cydweithio â’i gilydd i lunio agweddau nad ydynt yn agored i drafodaeth y mae pawb yn eu harddel.
  • Mae arweinwyr yn cynnig cymorth, mentora a dysgu proffesiynol y mae ymarferwyr yn eu gweld yn ddefnyddiol.
  • Mae arweinwyr yn ffocysu eu monitro i nodi’n gywir beth sydd wedi gwella (a’i effaith ar ddeilliannau dysgwyr) a’r hyn sydd angen sylw o hyd.
  • Mae’r cwricwlwm wedi’i ddylunio’n ofalus i fodloni anghenion dysgwyr unigol a’r gymuned leol.

What still needs to improve?

Mewn ychydig o achosion:

  • nid oes gan staff ddisgwyliadau digon uchel o’r hyn y gallai eu dysgwyr ei gyflawni
  • nid yw staff yn asesu dysgu dysgwyr yn ddigon manwl gywir i nodi’n fanwl a chynllunio ar gyfer eu camau nesaf
  • mae staff yn cael trafferth derbyn nad yw eu harfer broffesiynol eu hunain yn galluogi pob un o’r dysgwyr i wneud y cynnydd y dylent ei wneud

Pa welliannau ydym yn eu nodi?

  • Mae arweinwyr yn meithrin ymdeimlad o waith tîm ymhlith eu staff.
  • Mae arweinwyr yn ddetholus wrth benderfynu beth i’w flaenoriaethu ac yn cydnabod bod ymwreiddio gwelliannau yn cymryd amser a bod rhaid teilwra unrhyw strategaethau newydd i anghenion y darparwr.
  • Mae arweinwyr yn dangos gwydnwch a chadernid ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel. Nid ydynt yn derbyn esgusodion na darpariaeth nad yw’n ddigon da.
  • Mae monitro’n fwy miniog, mae cynllunio gwelliant yn ystwyth ac yn ymatebol ac mae arweinwyr yn dwyn yr holl staff (gan gynnwys nhw’u hunain) i gyfrif.
  • Mae arweinyddiaeth wedi’i datganoli ac mae uwch arweinwyr yn rhannu cyfrifoldebau’n briodol ar draws yr uwch dîm arweinyddiaeth a’r tu hwnt i feithrin gallu. Dolen i adnodd.
  • Mae gan arweinwyr berthynas waith gryfach â’u hawdurdod lleol.
  • Caiff cymorth a her effeithiol eu cynnig gan unrhyw fyrddau goruchwyliol, fel y corff llywodraethol, y bwrdd gwella ysgolion neu bwyllgor rheoli’r UCD.
  • Mae arweinwyr yn ceisio barn yr holl randdeiliaid ac yn gweithredu arni.

Beth sydd angen ei wella o hyd?

Yn aml, mae angen cymorth ar arweinwyr:

  • i ddefnyddio tystiolaeth eang yn ddigon miniog i nodi’r blaenoriaethau gwella cywir iddyn nhw’u hunain
  • i ddatblygu rôl arweinwyr canol

O bryd i’w gilydd, nid yw’r cymorth a’r her sy’n cael eu cynnig gan y rhanbarthau, awdurdodau lleol a chyrff llywodraethol i gefnogi gwelliant mewn ysgolion ac UCDau yn ddigon cadarn.