Mynd i'r cynnwys
Diwygio anghenion dysgu ychwanegol

Diwygio anghenion dysgu ychwanegol

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol yn ymwneud â diwygio anghenion dysgu ychwanegol yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau am fwy o fanylion.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn gyffredinol, mae gan aelodau staff sy’n arwain ar ADY ddealltwriaeth dda o ofynion y diwygiadau.
  • Bu cymorth ar gyfer ADY gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, o ran dysgu proffesiynol a sefydlu rolau statudol newydd, yn ddefnyddiol a chafodd ei groesawu’n fawr gan ddarparwyr.
  • Mae bron pob darparwr wedi dechrau adnabod disgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arbenigol arnynt a mapio darpariaeth gyffredinol i rai eraill.
  • Mae bron pob darparwr wedi dechrau rhoi elfennau allweddol o ddiwygio ADY ar waith, fel arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, cynlluniau datblygu unigol a phroffiliau un-dudalen.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae dealltwriaeth aelodau staff unigol o’u cyfrifoldeb o ran cynorthwyo disgyblion ag ADY yn amrywio.
  • Mae argaeledd adnoddau cyfrwng Cymraeg i gynorthwyo disgyblion ag ADY yn gyfyngedig.
  • Mae ansicrwydd ynghylch didueddrwydd cyngor ac arweiniad i ddysgwyr mewn ysgolion arbennig yn y dyfodol wrth ystyried eu hopsiynau ôl-16.