Mynd i'r cynnwys
Diwygio’r cwricwlwm

Diwygio’r cwricwlwm

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol yn ymwneud â diwygio’r cwricwlwm yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau am fwy o fanylion.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae darparwyr yn gweithio i gynnal eu momentwm wrth addasu addysgu a dysgu i alinio â’r Cwricwlwm i Gymru.
    • Mae mwyafrif y darparwyr yn cydnabod pwysigrwydd addasu a gwella eu haddysgu.
    • Mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion cynradd, lle mae athrawon yn rhoi pwyslais ar gynnwys disgyblion mewn cynllunio eu dysgu, mae hyn yn aml yn arwain at brofiadau dysgu mwy difyr a chynnydd gwell i ddisgyblion.
    • Yn y sector uwchradd, lle mae athrawon wedi ystyried manteision ac anfanteision y dull yn ofalus, mae gwaith trawsadrannol yn arwain at brofiadau dysgu mwy cydlynus a difyr i ddisgyblion.
    • Mae ymarferwyr ar draws pob sector wedi croesawu’r rhyddid i arbrofi, addasu a datblygu eu harfer.
    • Yn y darparwyr mwyaf effeithiol, maent wedi ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid i greu gweledigaeth glir ar gyfer eu cwricwlwm.
    • Defnyddiodd ychydig iawn o ysgolion cynradd ganllawiau’r cwricwlwm yn hyderus i ddatblygu darlun o sut olwg sydd ar gynnydd trwy eu cwricwla unigol eu hunain.

Beth sydd angen ei wella

  • At ei gilydd, mae cynnydd darparwyr tuag at roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith yn rhy amrywiol.
  • Mae angen i ysgolion flaenoriaethu gwella ansawdd addysgu a dysgu ochr yn ochr â chynllun eu cwricwlwm.
  • Mae gwaith traws-sector i sicrhau dilyniant a pharhad i ddysgwyr trwy’r cwricwlwm yn rhy brin ac nid yw’n ddigon effeithiol.
  • Yn rhy aml, nid yw’r cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi’i deilwra i anghenion darparwyr ac nid ydynt yn gwerthuso effaith eu gwaith yn ddigon effeithiol.
  • Roedd llawer o arweinwyr yn dal i boeni am asesu a dilyniant yn y Cwricwlwm i Gymru a sut olwg ddylai fod ar gynnydd trwy’r cwricwlwm.