Mynd i'r cynnwys
Addysg gychwynnol i athrawon

Addysg gychwynnol i athrawon

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gadarnhaol am ymuno â’r proffesiwn addysgu. Yn benodol, maent yn mwynhau eu profiadau ysgol ac yn meithrin perthynas waith dda â disgyblion a staff ysgolion.
  • Mae staff partneriaethau’n teimlo bod myfyrwyr wedi meithrin gwydnwch a hyblygrwydd trwy fod wedi gorfod gweithio o fewn cyfyngiadau’r pandemig.
  • Mae gan bartneriaethau strategaethau buddiol i gefnogi lles myfyrwyr. Mae ‘cysylltu’ â thiwtoriaid prifysgol a chymheiriaid yn rheolaidd yn helpu myfyrwyr i drafod unrhyw faterion a chanolbwyntio ar eu cynnydd.
  • Wrth i gyfyngiadau’r pandemig gael eu llacio, roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfarfod â thiwtoriaid a’u cymheiriaid wyneb-yn-wyneb. Helpodd hyn iddynt feithrin perthnasoedd proffesiynol cadarnhaol.
  • At ei gilydd, mae partneriaethau’n defnyddio eu systemau olrhain yn ddefnyddiol i gynorthwyo myfyrwyr sy’n cwympo ar ei hôl hi o ran eu cynnydd.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn rhai achosion, mae myfyrwyr yn cael trafferth rheoli eu llwyth gwaith, yn enwedig wrth gydbwyso gorchmynion aseiniadau a pharatoi ar gyfer addysgu.
  • Mae rhai myfyrwyr yn ystyried bod eu haseiniadau academaidd yn angenrheidiol i lwyddo yn y rhaglen, yn hytrach nag yn ffordd i wella eu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu.
  • Mae amrywioldeb sylweddol o ran cynlluniau gwersi myfyrwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae pob partneriaeth wedi llunio rhaglenni AGA sydd â sail resymegol glir yn seiliedig ar ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru. O ganlyniad, mae myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o nodweddion allweddol y Cwricwlwm i Gymru yn dda.
  • Mae cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr cynradd ac uwchradd weithio ar draws y cyfnodau i archwilio gwaith trawsgwricwlaidd a datblygu dulliau addysgu a dysgu gwahanol.
  • Yn yr enghreifftiau gorau, mae cynnwys y rhaglen yn alinio’n dda i greu cysylltiadau effeithiol rhwng theori ac arfer. Mae hyn yn fwyaf effeithiol lle mae cyfathrebu clir ynghylch cynnwys y rhaglen ar draws y bartneriaeth.
  • Mae pob partneriaeth yn datblygu systemau electronig defnyddiol i olrhain cynnydd myfyrwyr a’u helpu i gymryd perchenogaeth dros eu datblygiad eu hunain.

Beth sydd angen ei wella


Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gan bob partneriaeth strwythur arweinyddiaeth clir sy’n cynrychioli cymuned y bartneriaeth yn dda. Mae partneriaid wedi ymrwymo i gydweithio ac yn dangos dymuniad gwirioneddol i gynorthwyo i ddiwygio AGA yng Nghymru.
  • Mae’r rhan fwyaf o bartneriaethau wedi datblygu is-grwpiau arweinyddiaeth buddiol i ysgogi datblygiad meysydd pwysig o waith y bartneriaeth.
  • Mae’r holl bartneriaethau’n cynllunio cyfleoedd rheolaidd i fyfyrio ar ansawdd y rhaglen a deilliannau myfyrwyr ar sail data a thystiolaeth uniongyrchol, gan gynnwys safbwyntiau myfyrwyr.
  • Mae gan bob partneriaeth strategaeth glir i ddatblygu ymchwil ac ymholi ar draws y bartneriaeth. Yn yr achosion mwyaf effeithiol, mae tiwtoriaid a mentoriaid yn defnyddio eu hymchwil eu hunain i gefnogi dysgu myfyrwyr.

Beth sydd angen ei wella