Mynd i'r cynnwys
Colegau arbenigol annibynnol

Colegau arbenigol annibynnol

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • At ei gilydd, mae colegau’n cynnig amgylcheddau tawel, cefnogol a meithringar.
  • Ar hyd y pandemig, mae colegau wedi parhau i addasu eu dulliau mewn modd hyblyg i fodloni anghenion dysgwyr. O ganlyniad, mae gan ddysgwyr lefelau uchel o les ac maent wedi parhau i wneud cynnydd addas yn eu dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae cydlynu cymorth arbenigol i fodloni anghenion cymhleth dysgwyr yn rhy amrywiol. Nid yw staff yn deall ac yn cymhwyso strategaethau cyfathrebu’n gyson i gefnogi anghenion cyfathrebu dysgwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae tiwtoriaid a staff cymorth yn darparu cymorth sylwgar a gofalgar. Maent yn gyfarwydd iawn ag anghenion eu dysgwyr ac yn meithrin perthynas waith gref â nhw.
  • Yn gyffredinol, mae tiwtoriaid yn cynllunio’n ofalus i ddarparu ystod berthnasol ac ystyrlon o brofiadau dysgu. Mae hyn yn cynorthwyo i ddatblygu gwydnwch, annibyniaeth a medrau bywyd dysgwyr.
  • Mae tiwtoriaid yn rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithle yn ofalus ac mae dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gref o’r ystyriaethau iechyd a diogelwch perthnasol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw addysgu’n bodloni anghenion cymhleth dysgwyr yn ddigon da bob tro.
  • Mae gormod o amrywioldeb o ran ansawdd y cymorth sy’n cael ei gynnig gan staff cymorth.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr colegau wedi cynnig arweinyddiaeth gref o ddydd i ddydd ar hyd y pandemig.
  • Maent wedi addasu eu darpariaeth mewn modd hyblyg i barhau i ddarparu addysg a bodloni anghenion cyfnewidiol dysgwyr.
  • Lle mae arweinyddiaeth yn arbennig o gryf, mae arweinwyr wedi ysgogi gwelliannau strategol hirdymor i ddarpariaeth, gan gynnwys datblygu cyfleusterau newydd ar gyfer dysgu.

Beth sydd angen ei wella