Mynd i'r cynnwys
Cymraeg i oedolion

Cymraeg i oedolion

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Er bod bron yn holl ddysgu’n digwydd ar-lein, mae darparwyr yn llwyddo i greu cymunedau clos, gofalgar o ddysgwyr.
  • Mae bron pob un o’r dysgwyr yn mwynhau eu gwersi. Maent yn ymarfer ac yn cyfrannu i wersi heb ofn wneud camgymeriadau, wrth wella eu medrau ochr yn ochr â dysgwyr ledled y byd.
  • Mae darparwyr yn cynnig cymorth ac arweiniad effeithiol i ddysgwyr, gan gynnwys dysgu ag anghenion dysgu ychwanegol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw’r holl ddarparwyr yn y sector wedi dychwelyd i gynnig dewis o ryw lefel o ddarpariaeth wyneb-yn-wyneb i ddysgwyr. Nid yw hyn yn bodloni anghenion yr ychydig o ddysgwyr a oedd yn anfodlon neu’n methu parhau â’u cyrsiau ar-lein, yn aml oherwydd cysylltedd gwael.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae addysgu mewn dau o’r tri darparwr a arolygwyd yn effeithiol iawn ac yn cynorthwyo llawer o ddysgwyr i wneud cynnydd cryf.
  • Mae llawer o diwtoriaid yn sicrhau bod dysgwyr yn gwneud defnydd cynyddol o’r Gymraeg y tu mewn a’r tu allan i sesiynau ffurfiol. O ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn defnyddio’r medrau hyn yn fuddiol ac yn integreiddio’n gadarnhaol â chymunedau a rhwydweithiau Cymraeg.
  • Mae llawer o diwtoriaid yn darparu cyd-destun gwerthfawr a diddorol i’r dysgu drwy gyfoethogi gwybodaeth dysgwyr am hanes a diwylliant Cymru.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae darparwyr Dysgu Cymraeg yn chwarae rhan bwysig mewn dylanwadu ar ddefnyddio a datblygu’r Gymraeg yn eu sefydliadau lletyol.
  • Mae llawer o’r darparwyr a arolygwyd yn defnyddio ymchwil i wella addysgu a dysgu mewn meysydd fel dulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol sy’n helpu dysgwyr i integreiddio mewn cymunedau a rhwydweithiau Cymraeg.
  • Mae’r sector yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus i’w tiwtoriaid, er enghraifft i wella eu dealltwriaeth o sut mae dysgwyr yn dysgu ac yn caffael iaith neu gyflwyno ar-lein.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw systemau data cenedlaethol yn caniatáu i ddarparwyr sydd â chyfrifoldeb gorgyffyrddol am yr un ardal ddaearyddol olrhain cynnydd dysgwyr. Mae hyn yn atal darparwyr rhag defnyddio data’n effeithiol i ddilysu safonau a chynnydd dysgwyr sy’n symud rhyngddynt.
  • Mewn un darparwr, nid yw gweithgareddau monitro a gwerthuso yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella mewn addysgu a dysgu yn ddigon da.