Mynd i'r cynnwys
Dysgu yn y gwaith

Dysgu yn y gwaith

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae llawer o ddysgwyr yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu ac, er bod ychydig ohonynt yn bryderus am ddychwelyd, mae presenoldeb yn gyffredinol uchel yn y gweithle a’r canolfannau hyfforddiant.
  • Mae aseswyr yn rhoi cymorth parhaus gwerthfawr i ddysgwyr ar gyfer eu dysgu a’u lles.
  • Cryfhaodd llawer o ddarparwyr eu gweithdrefnau i olrhain cynnydd a lles dysgwyr, er enghraifft trwy ddatblygu cofrestr dysgwyr mewn perygl. Mae’r cofrestrau hyn yn galluogi staff i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â dysgwyr arbennig o fregus a chynnig lefelau uchel o gymorth personol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae lles dysgwyr yn ffocws allweddol i staff o hyd, yn enwedig o ran helpu dysgwyr i wella eu gwydnwch a chynorthwyo nifer gynyddol y dysgwyr sy’n gwneud datgeliadau lles.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Ers dychwelyd i’w gweithleoedd a gweithgarwch wyneb-yn-wyneb i ffwrdd o’r gwaith yn llawn ym mis Medi 2021, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymgysylltu’n arbennig o dda â’u gweithgareddau ymarferol a theori ac yn gwneud cynnydd priodol, o leiaf; mae ychydig ohonynt yn gwneud cynnydd cryf.
  • Mae darparwyr yn parhau i ddatblygu’r gwaith o ddarparu dysgu o bell, gan adeiladu’n dda ar eu profiadau o ddefnyddio e-portffolios.
  • Mae darparwyr yn cynnig ystod eang o raglenni ar lefelau gwahanol i fodloni anghenion cyflogwyr a dysgwyr.
  • Mae nifer fawr o ddysgwyr newydd wedi’u recriwtio ar y rhan fwyaf o raglenni prentisiaeth.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae nifer y dysgwyr ar raglenni y tu hwnt i’r dyddiad gorffen disgwyliedig yn uchel o hyd, yn enwedig yn y sectorau iechyd a gofal. Mae hyn am ystod o resymau, a’r un mwyaf cyffredin yw’r mynediad cyfyngedig a fu gan aseswyr i weithleoedd dysgwyr.
  • Bu’r sector iechyd a gofal dan bwysau sylweddol yn ystod y pandemig ac ar ei ôl, sydd wedi arwain at gyfraddau ymadael uchel a chynnydd a chyflawniad arafach ymhlith dysgwyr.
  • Nid yw’r sail resymegol ar gyfer defnyddio dysgu o bell yn glir bob tro. Nid yw darparwyr yn diffinio’r rhesymau pam y caiff unedau, modiwlau neu weithgareddau eraill eu darparu o bell bob tro.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr wedi cryfhau a gwella eu cyfathrebu â’r holl staff a phartneriaid allweddol.
  • Mae arweinwyr yn rhoi ffocws cryf ar gynorthwyo eu staff i ddatblygu eu medrau digidol i helpu dysgwyr i gynnal eu hymgysylltiad a gwneud cynnydd.
  • Yn ystod blwyddyn gyntaf y contract, mae perthnasoedd gwaith ag isgontractwyr wedi’u diffinio’n dda ac yn sefydlogi.