Mynd i'r cynnwys
Dysgu yn y sector cyfiawnder

Dysgu yn y sector cyfiawnder

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r gallu i fanteisio ar adnoddau fel offer celf a gweithgareddau addysgol yn helpu carcharorion i ymdopi â’u caethiwed ac yn cefnogi eu lles.
  • Mae carchardai’n cynnig sesiynau ymsefydlu defnyddiol i ddysgwyr ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt ac yn asesu eu medrau llythrennedd a rhifedd i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyrsiau cywir. Maent yn olrhain eu cynnydd yn ofalus.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae dealltwriaeth staff carchardai o sut i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol (ADY) cymhleth yn rhy amrywiol.
  • Cafodd lleiafrif o ddysgwyr drafferth ymgysylltu â dysgu.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Trwy gymorth cryf gan staff a mentoriaid cymheiriaid, parhaodd llawer o garcharorion i fanteisio ar addysg yn ystod cyfnodau cyfyngiadau COVID-19.
  • Mae’r rhan fwyaf o garcharorion sy’n manteisio ar addysg yn gwneud cynnydd cadarnhaol yn eu dysgu.
  • At ei gilydd, mae ansawdd yr addysgu mewn carchardai yn dda ac mae mentoriaid cymheiriaid yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gynnydd addysgol eu cyd-garcharorion.
  • Mae carchardai’n cynnig cwricwlwm eang a pherthnasol sy’n cysylltu’n agos ag anghenion cyflogwyr.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn rhai achosion, nid yw pobl ifanc sy’n manteisio ar gymorth gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn symud i lefelau uwch o hyfforddiant oherwydd eu medrau llythrennedd isel. Mewn achosion eraill, er gwaethaf y gallu gwell i fanteisio ar addysg, nid yw dysgwyr wedi gwneud cynnydd digonol.
  • Nid oes gan wasanaethau prawf strategaethau digon clir i gynorthwyo i ddatblygu medrau pobl ifanc ac nid ydynt yn olrhain eu cynnydd yn ddigon da.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Gweithiodd arweinwyr mewn carchardai yn effeithiol i sicrhau bod carcharorion yn gallu manteisio ar gyfleoedd addysgol er gwaethaf cyfyngiadau’r pandemig.
  • Maent wedi meithrin cysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol i wella rhagolygon cyflogaeth i garcharorion.
  • Mae arweinwyr gwasanaethau troseddau ieuenctid yn cydweithio’n dda â phartneriaid i helpu dysgwyr i symud ymlaen i lwybrau addysgol neu gyflogaeth priodol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw staff yn gwneud digon i herio carcharorion sy’n dewis peidio ag ymgysylltu ag addysg.
  • Nid yw arweinwyr mewn gwasanaethau troseddau ieuenctid yn gwerthuso effaith ymyriadau’n ddigon da nac yn cynllunio’n strategol i ddatblygu medrau pob unigolyn ifanc.

Defnyddiodd Arolygiaeth Prawf EM y dystiolaeth o’r adolygiad ar y cyd y cynhaliom â nhw ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth i lunio canllaw arfer effeithiol. Mae’r canllaw yn cynnwys cwestiynau myfyriol i ymarferwyr werthuso effaith eu gwaith.

Education, Training and Employment effective practice guide (justiceinspectorates.gov.uk)