Mynd i'r cynnwys
Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mewn llawer o awdurdodau lleol, mae disgyblion yn cael cyfleoedd gwerthfawr i ddylanwadu ar waith gwasanaethau addysg.
  • Mewn llawer o awdurdodau lleol, barnwyd bod safonau disgyblion mewn arolygiadau ysgolion cynradd rhwng 2017 a 2020 yn dda neu’n well mewn llawer o’r ysgolion a arolygwyd.
  • Mae ein harolygiadau o ysgolion rhwng 2017 a 2020 yn dangos bod lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu yn dda neu’n well yn y rhan fwyaf o ysgolion mewn tri o’r awdurdodau lleol yr arolygom eleni.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o awdurdodau lleol, mae’r safonau mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn eu cyflawni yn rhy isel.
  • Mae data heb ei ddilysu yn awgrymu bod tuedd gynyddol o absenoldebau parhaus mewn ysgolion uwchradd mewn llawer o awdurdodau lleol sy’n dilyn sawl mlynedd o ostyngiad.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae llawer o awdurdodau lleol yn cydweithio’n dda â chonsortia rhanbarthol i gefnogi gwaith ysgolion a darparwyr eraill.
  • Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid awdurdodau lleol yn darparu cymorth gwerthfawr i bobl ifanc drwy ddarpariaeth dargedig, allgymorth a mynediad agored ac mae hyn yn effeithiol o ran darparu mannau diogel i bobl ifanc nad ydynt yn bodoli mewn lleoliadau addysg ffurfiol bob tro.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae angen i lawer o awdurdodau lleol wella agweddau ar eu gwaith i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Mewn ychydig o awdurdodau lleol, mae cyflymder gwelliant mewn ysgolion mewn categorïau statudol yn rhy araf.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gan bob awdurdod lleol weledigaeth glir i wella deilliannau plant a phobl ifanc.
  • Mewn llawer o awdurdodau lleol, mae swyddogion yn darparu cyfleoedd da i ddisgyblion ddylanwadu ar waith gwasanaethau addysg.
  • Mae awdurdodau lleol wedi rhoi pwys mawr ar sicrhau cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau addysg.
  • Gwnaed cynnydd da gan un awdurdod lleol a oedd yn peri pryder sylweddol ac nid oes angen monitro dilynol gan Estyn arno mwyach.
  • Mewn llawer o awdurdodau lleol, mae diogelu plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth uchel.

Beth sydd angen ei wella