Lleoliadau nas cynhelir
Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae ymarferwyr yn adnabod y plant yn dda ac yn ymateb i’w hanghenion unigol.
- Mae plant yn ymgartrefu’n dda ac yn mwynhau mynychu’r lleoliad.
- Mae lleoliadau’n hybu annibyniaeth plant yn llwyddiannus, er enghraifft trwy eu hannog i ddewis eu hadnoddau a’u gweithgareddau eu hunain neu wisgo eu hunain i fynd y tu allan.
Beth sydd angen ei wella
- O bryd i’w gilydd, nid yw lleoliadau’n dilyn yr holl weithdrefnau ar gyfer cadw plant yn ddiogel yn ddigon da. Er enghraifft, efallai nad ydynt yn dilyn gweithdrefnau recriwtio diogel neu’n cofnodi damweiniau’n rheolaidd.
- Nid yw cymorth arbenigol, fel cymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg bob tro.
Beth sy’n mynd yn dda
- At ei gilydd, mae plant yn gwneud cynnydd da yn ystod eu cyfnod mewn lleoliadau. Mae ymarferwyr yn canolbwyntio’n dda ar ddatblygu medrau iaith a lleferydd plant, yn enwedig lle mae’r pandemig wedi effeithio ar eu datblygiad.
- Mae ymarferwyr yn cynnig cyfleoedd i blant chwarae’n rhydd am gyfnodau estynedig wrth eu cynorthwyo i ddatblygu medrau newydd.
- Mae ymarferwyr yn datblygu dealltwriaeth gynyddol o egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru. Er enghraifft, maent yn darparu cyfleoedd buddiol i blant ddewis beth yr hoffent ddysgu amdano a beth yr hoffent ei wneud yn ystod sesiynau.
Beth sydd angen ei wella
- O bryd i’w gilydd, nid yw ymarferwyr yn darparu digon o gyfleoedd i blant ddatblygu medrau’n fwriadus yn ystod sesiynau. Yn aml, mae hyn oherwydd nad ydynt yn gweithredu fel ‘oedolion sy’n galluogi dysgu’, fel y disgrifir yn y Cwricwlwm newydd ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir nas Cynhelir.
- Er bod lleoliadau’n datblygu’r defnydd o arsylwadau o blant mewn sesiynau yn hytrach nag asesiadau mwy ffurfiol o ddysgu plant, weithiau nid yw’r arsylwadau hyn yn llywio cynllunio at y dyfodol yn ddigonol. Dolen i adnodd.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mewn lleoliadau effeithiol, mae gan arweinwyr weledigaeth glir ac maent yn meithrin ethos o weithio fel tîm sy’n annog yr holl staff i weithio tuag at nod cyffredin.
- Mae arweinwyr yn sicrhau y gall plant fanteisio’n rhwydd ar ystod eang o adnoddau, gan gynnwys adnoddau naturiol ac offer sy’n helpu plant i ddatblygu medrau.
- Mar arweinwyr yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr i ymarferwyr, yn enwedig mewn perthynas â diwygio’r cwricwlwm.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn ychydig o achosion, nid yw arweinwyr wedi ailsefydlu gweithdrefnau sicrhau ansawdd trylwyr yr amharwyd arnynt oherwydd y pandemig. Mae hyn yn cynnwys arsylwi ac arfarnu staff.
- O bryd i’w gilydd, mae arweinwyr yn camddehongli datblygiad addysgegol, fel cynllunio ymatebol, ac o ganlyniad, nid yw staff yn datblygu strategaethau addas i gynorthwyo plant i ddatblygu medrau newydd.