Ysgolion annibynnol
Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae lles disgyblion a staff yn ffocws cryf ym mron pob ysgol.
- Mae ysgolion yn rhoi strategaethau defnyddiol ar waith i gefnogi lles meddyliol disgyblion ac i fynd i’r afael ag ystyriaethau emosiynol yn deillio o’r pandemig. Mae hyn yn cynnwys cyflogi cwnsleriaid annibynnol.
- Mae disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn tuag at ddysgu.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) yn cael ei chyflwyno’n effeithiol bob tro, yn enwedig i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4 a’r chweched dosbarth. Mae hyn yn golygu bod disgyblion yn colli allan ar ddysgu pwysig yn y pwnc hwn.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae ymateb cyflym ac effeithiol ysgolion i her addysgu ar-lein yn sicrhau bod cynnydd a safonau disgyblion yn uchel o hyd.
- Mae athrawon yn parhau i ddefnyddio technoleg yn effeithiol lle mae’n ategu profiad dysgu disgyblion.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw addysgu’n herio’r disgyblion mwyaf abl bob tro.
- Mae gweithgareddau a phrofiadau dysgu cydgwricwlaidd wedi lleihau oherwydd y cyfyngiadau a oedd ar waith yn ystod y pandemig COVID-19.
Beth sy’n mynd yn dda
- Ymatebodd arweinwyr yn gyflym, yn greadigol ac yn effeithiol i heriau’r pandemig.
- Mae arweinwyr yn parhau i feithrin y perthynas waith gref rhwng staff a rhieni a sefydlwyd yn ystod y pandemig.
- Mae arweinwyr yn gweithio i sicrhau bod diwylliant cryf o ddiogelu mewn ysgolion.
Beth sydd angen ei wella
- Mae cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff wedi lleihau oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd yn ystod y pandemig.
- Nid yw prosesau sicrhau ansawdd yn ddigon miniog bob tro ac efallai na fyddant yn amlygu amrywioldeb mewn darpariaeth. Dolen i adnodd.