Mynd i'r cynnwys
Ysgolion annibynnol

Ysgolion annibynnol

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae lles disgyblion a staff yn ffocws cryf ym mron pob ysgol.
  • Mae ysgolion yn rhoi strategaethau defnyddiol ar waith i gefnogi lles meddyliol disgyblion ac i fynd i’r afael ag ystyriaethau emosiynol yn deillio o’r pandemig. Mae hyn yn cynnwys cyflogi cwnsleriaid annibynnol.
  • Mae disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn tuag at ddysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) yn cael ei chyflwyno’n effeithiol bob tro, yn enwedig i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4 a’r chweched dosbarth. Mae hyn yn golygu bod disgyblion yn colli allan ar ddysgu pwysig yn y pwnc hwn.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae ymateb cyflym ac effeithiol ysgolion i her addysgu ar-lein yn sicrhau bod cynnydd a safonau disgyblion yn uchel o hyd.
  • Mae athrawon yn parhau i ddefnyddio technoleg yn effeithiol lle mae’n ategu profiad dysgu disgyblion.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw addysgu’n herio’r disgyblion mwyaf abl bob tro.
  • Mae gweithgareddau a phrofiadau dysgu cydgwricwlaidd wedi lleihau oherwydd y cyfyngiadau a oedd ar waith yn ystod y pandemig COVID-19.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Ymatebodd arweinwyr yn gyflym, yn greadigol ac yn effeithiol i heriau’r pandemig.
  • Mae arweinwyr yn parhau i feithrin y perthynas waith gref rhwng staff a rhieni a sefydlwyd yn ystod y pandemig.
  • Mae arweinwyr yn gweithio i sicrhau bod diwylliant cryf o ddiogelu mewn ysgolion.

Beth sydd angen ei wella